Skip to Main Content

Mae Cyngor Sir Fynwy yn gwahodd datganiadau o ddiddordeb ar gyfer rhaglen Grantiau Gwella Eiddo Canol Tref.

Mae’r Cyngor wedi ymrwymo i sicrhau bod canol trefi yn parhau i fod yn lleoedd bywiog a chroesawgar sy’n diwallu anghenion y cymunedau lleol, busnesau ac ymwelwyr.

Mae Grant Gwella Eiddo Canol Tref Sir Fynwy yn cynnig cefnogaeth ariannol ar gyfer gwelliannau i eiddo sydd wedi’u lleoli yng nghanol trefi dynodedig y Fenni, Cil-y-Coed, Cas-gwent, Magwyr gyda Gwndy, Trefynwy, a Brynbuga.

Mae’r cynllun ar agor i berchnogion eiddo o fewn y ffin gymwys neu lesddeiliaid sydd ag leiaf tair blynedd yn weddill ar y les, neu saith mlynedd ar gyfer prosiectau sy’n cynnwys adnewyddiadau mewnol i greu unedau preswyl newydd. Gellir gweld y ffiniau cymwys isod yn yr adran Mapiau.

Blaenoriaethau penodol ar gyfer y cyllid yw:

  • Prosiectau sy’n dod â lle masnachol gwag yn ôl i ddefnydd
  • Prosiectau sy’n cyflawni gwelliant sylweddol i adeiladau y mae eu cyflwr presennol yn cael effaith negyddol sylweddol ar y dreflun.
  • Prosiectau sy’n gwella adeiladau hanesyddol yng nghanol y dref.

Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno datganiadau o ddiddordeb yw’r 31ain Awst 2025. Fodd bynnag, oherwydd bod cyllid yn gyfyngedig, nid oes unrhyw sicrwydd y bydd ar gael o hyd bryd hynny, a gall y cais am ddatganiadau o ddiddordeb gau cyn y dyddiad hwn. Felly, rydym yn annog darpar ymgeiswyr i gyflwyno mynegiant o ddiddordeb cyn gynted â phosibl.

Bydd prosiectau sy’n cynnig manteision adfywio sylweddol i ganol y dref yn cael blaenoriaeth oherwydd y cyllid cyfyngedig sydd ar gael. Bydd datganiadau o ddiddordeb a cheisiadau yn cael eu gwerthuso wrth iddynt gael eu derbyn, a bydd cyllid yn cael ei ddyfarnu ar sail dreigl.ed as they are received, and funding will be awarded on a rolling basis.



Map Y Fenni – Lawrlwytho

Map Cas-Gwent – Lawrlwytho

Map Cil-Y-Coed – Lawrlwytho

Map Magwyr – Lawrlwytho

Map Trefwnwy – Lawrlwytho

Map Brynbuga – Lawrlwytho

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os hoffech gael mwy o wybodaeth ar y cynllun yna anfonwch e-bost at mccregeneration@monmouthshire.gov.uk 


Mae’r cynllun yn cael ei ariannu drwy Grant Trawsnewid Trefi a Chyngor Sir Fynwy.