Skip to Main Content

Diben y grant yw cefnogi busnesau gofal plant cofrestredig gyda llif arian ar unwaith i’w helpu gyda chanlyniadau economaidd pandemig Covid-19.  Mae’r grant yn anelu i helpu’r busnesau gofal plant hynny na fedrodd gael mynediad i gynlluniau eraill ac mae’n ategu mesurau ymateb arall Covid-19 i gefnogi busnesau, mentrau cymdeithasol a sefydliadau elusennol yng Nghymru.

Nid ydych yn gymwys am y grant hwn os ydych wedi derbyn neu wedi bod yn llwyddiannus wrth wneud cais am gymorth gan:

  • Grant Ardrethi Busnes gan eich Awdurdod Lleol
  • Cronfa Cadernid Economaidd ar gyfer busnesau bach a chanolig a microfusnesau
  • Cynllun Cymorth Incwm Hunangyflogaeth
  • Grant Dechrau Busnes Llywodraeth Cymru
  • Cronfa Cadernid y Trydydd Sector
  • Cynllun Grant Mudiad Meithrin a gyllidwyd drwy Gronfa Cadernid y Trydydd Sector

Y meini prawf cymhwyster ar gyfer y grant yw:

  • Nid yw’r busnes wedi derbyn cyllid gan, neu fod yn llwyddiannus wrth wneud cais am y cynlluniau grant a restrir uchod
  • Mae’r busnes yn fusnes gofal plant wedi cofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Cymru
  • Roedd y busnes yn gweithredu yng Nghymru ar neu cyn 1 Mawrth 2020 ac mae’n parhau neu’n bwriadu parhau i weithredu yng Nghymru
  • Mae incwm net ar gyfer 1 Ebrill 2020 i 30 Mehefin 2020 wedi gostwng o gymharu â’r un cyfnod yn 2019 oherwydd COVID-19 neu dechreuodd eich busnes fasnachu ar neu ar ôl 2 Ebrill 2019 ac y gwnaethoch golled net am y cyfnod 1 Ebrill i 30 Mehefin 2020
  • Mae’r busnes ar agor neu’n bwriadu ail-agor yn llawn ar neu cyn 14 Medi 2020, neu os yn seiliedig mewn safle ysgol, bydd yn ail-agor cyn gynted ag mae’r ysgol yn caniatáu
  • Mae’r busnes yn, neu bydd yn dod yn, gwmni cyfyngedig drwy warant, cwmni cyfyngedig preifat, cwmni budd cymunedol neu sefydliad ymgorfforedig elusennol; neu mae’r busnes yn ofalwr plant ac eisoes wedi cofrestru fel masnachwr unigol gyda HMRC
  • Os ydych yn cyflogi staff, mae’r busnesau yn anelu cynnal cyflogaeth staff am 12 mis
  • Nid yw’r busnes wedi gwneud cais i’r cynllun hwn o’r blaen
  • Os yn berthnasol, mae datganiadau Cynllun Cadw Swyddi drwy gyfnod y Coronafeirws yn gyfredol a medrir darparu copïau gyda’ch cais

I gael mwy o wybodaeth ar y grant hwn, darllenwch Nodiadau Canllawiau Grant Darparwyr Gofal Plant yma:

Gall busnesau wneud cais am y grant drwy lenwi’r Gwiriwr Cymhwyster ar wefan Busnes Cymru https://fundchecker.businesswales.gov.wales/childcare. Os ydych yn gymwys, cewch eich cyfeirio at wefan eich awdurdod lleol lle medrwch gael mynediad i’r ffurflen gais ar-lein.

Mae’r Grant Darparwyr Gofal Plant yn agor i geisiadau o 24 Awst 2020 nes bydd y gronfa wedi ei hymrwymo’n llwyr neu 31 Hydref 2020 p’un bynnag sydd gynharaf. Caiff ceisiadau eu trin ar sail cyntaf i’r felin. Gall hyn arwain at i geisiadau beidio cael eu gwerthuso os cânt eu cyflwyno ar ôl i’r gronfa gael ei hymrwymo’n llwyr.

Gwybodaeth Preifatrwydd:

Bydd Cyngor Sir Fynwy yn prosesu ac yn rhannu eich data yn fewnol a gyda thrydydd parti a awdurdodwyd i gynorthwyo gyda phrosesu ceisiadau ar gyfer y Grant Darparwyr Gofal Plant. Ni chaiff ei ddefnyddio ar gyfer diben arall heb eich caniatâd.