Skip to Main Content

(Cefnogi Pobl, Atal Digartrefedd a Rhentu Doeth Cymru)

Diben craidd y Grant Cymorth Tai (Cefnogi Pobl, Atal Digartrefedd a Rhentu Doeth Cymru) yw atal digartrefedd a chefnogi pobl i gael y gallu, yr annibyniaeth, y sgiliau a’r hyder i gael mynediad i gartref sefydlog ac addas a/neu ei gadw.

Mae tai yn faes blaenoriaeth allweddol o fewn Ffyniant i Bawb: y Strategaeth Genedlaethol Llywodraeth Cymru, sy’n nodi’r weledigaeth "Rydym am i bawb fyw mewn cartref sy’n diwallu eu hanghenion ac sy’n cefnogi bywyd iach, llwyddiannus a llewyrchus".

Mae Grant Cymorth Tai Cyngor Sir Fynwy yn cefnogi’r nod o gydweithio i atal digartrefedd a lle na ellir ei atal, sicrhau ei fod yn brin, yn fyr a heb ei ailadrodd. Er mwyn gwneud hyn mae angen i ni fynd i’r afael ag achosion gwaelodol digartrefedd a gweithio i alluogi pobl i aros yn eu cartrefi eu hunain yn hirach.

Mae cymorth sy’n gysylltiedig â thai yn ceisio galluogi pobl agored i niwed i gynnal a chynyddu eu hannibyniaeth a’u gallu i aros yn eu cartrefi eu hunain.

Nod Grant Cymorth Tai Cyngor Sir Fynwy yw darparu gwasanaethau cymorth sy’n gysylltiedig â thai, sy’n cefnogi gweledigaeth Llywodraeth Cymru i sicrhau "Cymru lle nad oes neb yn ddigartref a lle mae gan bawb gartref diogel lle gallant ffynnu a byw bywyd mewn modd boddhaus, egnïol ac annibynnol".

Ein Pwrpas

Mae Grant Cymorth Tai Cyngor Sir Fynwy’n gweithio’n gwbl gyson ag amcanion cynllun corfforaethol y Cyngor; mae’r heriau yn y Cynllun Llesiant yn dod â phroblemau i’r amlwg sy’n hynod bwysig i’r Cyngor a’r ardal leol. Fel partner allweddol ar y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus, bydd Cyngor Sir Fynwy yn chwarae rhan bwysig yn y gwaith o ddatblygu’r rhain ac yn cydnabod mai hwy yw’r prif alluogwyr i alluogi’r sifftiau a’r newidiadau sydd eu hangen i ddatblygu dyfodol cynaliadwy a chadarn.

Mae’r Cyngor wedi pennu pedwar Amcan Llesiant sy’n canolbwyntio ar gyfraniad penodol ein sefydliad tuag at lesiant yn y sir. Y rhain yw:

Pwrpas Adeiladu Cymunedau Cynaliadwy a Gwydn
Ein huchelgais yw: Lleihau anghydraddoldebau rhwng cymunedau ac o fewn cymunedau
Cefnogi ac amddiffyn pobl sy’n agored i niwed
Gwireddu’r manteision sydd gan yr amgylchedd naturiol i’w gynnig
Ein Hamcanion Llesiant yw: Pobl/Dinasyddion Lle/Cymunedau
Rhoi’r cychwyn gorau posibl mewn bywyd i blant a phobl ifanc Diogelu a gwella gwydnwch ein hamgylchedd naturiol wrth ei liniaru a’i addasu oherwydd effaith newid yn yr hinsawdd
Ymateb i’r heriau sy’n gysylltiedig â newid demograffig Datblygu cyfleoedd i gymunedau a busnesau fod yn rhan o sir sy’n economaidd ffyniannus ac wedi’i chysylltu’n dda

Felly, beth mae rhaglen Grant Cymorth Tai Cyngor Sir Fynwy yn ei wneud?

Mae Grant Cymorth Tai Cyngor Sir Fynwy’n gweithio i atal digartrefedd a chefnogi pobl i gael y gallu, yr annibyniaeth, y sgiliau a’r hyder i gael mynediad at a/neu gynnal cartref sefydlog ac addas. Cyflawnir hyn drwy:

  • Gwasanaethau sy’n meithrin capasiti a gallu unigolion neu aelwydydd i gynnal cartref
  • Gwasanaethau sy’n atal digartrefedd neu’r angen i unigolyn fyw mewn lleoliad sefydliadol amhriodol
  • Darparu neu alluogi mynediad i dai addas ar gyfer unigolion neu aelwydydd
  • Gwasanaethau sy’n lliniaru effaith digartrefedd ar unigolion neu aelwydydd
  • Broceru mynediad i wasanaethau eraill ar gyfer pobl sydd angen tai
  • Codi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth gyda gweithwyr proffesiynol eraill a gyda’r cyhoedd, gan gynnwys mewn ysgolion a cholegau
  • Gweithredu i orfodi deddfwriaeth sydd â’r bwriad o sicrhau a chynnal mynediad at gartrefi o ansawdd da. Er enghraifft, deddfwriaeth sy’n gosod dyletswyddau ar landlordiaid i gael eu cofrestru ac ynghylch rheoli tenantiaethau

Cymhwysedd

Mae unrhyw berson sydd angen cymorth i’w atal rhag dod yn ddigartref, neu i fynd i’r afael â digartrefedd neu i sicrhau amgylchiadau tai mwy sefydlog, yn gymwys i dderbyn cymorth tai, cyn belled â’u bod yn gymwys i dderbyn arian cyhoeddus, waeth beth yw eu deiliadaeth neu ddiffyg deiliadaeth.

  • Rhaid i bobl sy’n gymwys am wasanaethau fod dros 16 oed
  • At ddiben y Grant Cymorth Tai NID YW’R meini prawf o ran cysylltiad lleol yn gymwys

Support available via the Housing Support Grant

Fodd bynnag, ni ellir darparu cymorth gyda gofal personol. Os oes arnoch angen y gwasanaethau hyn, dylech gysylltu â thîm Gofal Cymdeithasol i Oedolion Cyngor Sir Fynwy.

Gwasanaethau Grant Cymorth Tai Cyngor Sir Fynwy

Mae’r mathau o wasanaethau sydd ar gael yn amrywio’n fawr; gweler y rhestr ganlynol o enghreifftiau o wasanaethau’r Grant Cymorth Tai:

  • Cymorth fel y bo’r angen – mae gweithiwr cymorth yn ymweld â pherson yn ei gartref ei hun i’w helpu i gynnal/cadw ei denantiaeth/cartref. Darperir cymorth am gyfnod o amser (yn ddibynnol ar anghenion unigolyn)
  • Hostel Digartrefedd – yn darparu llety dros dro i bobl sy’n ddigartref
  • Cynlluniau tai gwarchod – tai gwarchod ar gyfer pobl sydd fel arfer dros 55 mlwydd oed lle y mae rheolwr cynllun yn cael cyswllt rheolaidd â thenantiaid ac mae gwasanaeth larwm yn darparu darpariaeth 24 awr mewn argyfwng
  • Tai â chymorth 24 awr – llety lle mae staff ar y safle 24 awr y dydd. Yn aml yn eiddo a rennir gydag ardaloedd cymunedol megis lolfa a chegin ond gall hefyd fod yn eiddo hunangynhwysol gyda llety staff yn y cyffiniau
  • Tai â chymorth (nid 24 awr) – fel yr uchod ond nid yw staff ar y safle 24 awr y dydd
  • Lloches cam-drin domestig – llety brys/dros dro i ddynion neu fenywod sy’n ffoi rhag cam-drin domestig

Pwy sy’n darparu’r gefnogaeth i Raglen Grant Cymorth Tai Cyngor Sir Fynwy?

Mae nifer ac amrywiaeth o ddarparwyr gwasanaethau Grant Cymorth Tai yn gweithredu yn Sir Fynwy, mae rhai o’r rhain yn ddarparwyr eithaf bach a all fod yn cefnogi 2 neu 3 o bobl, mae eraill yn ddarparwyr mwy a all fod yn cynorthwyo 20 neu fwy o bobl ar unrhyw un adeg. Mae darparwyr gwasanaethau yn cynnwys cymdeithasau tai, sefydliadau preifat, sefydliadau’r trydydd sector ac Adran Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Sir Fynwy. Edrychwch ar Gyfeiriadur Gwasanaeth y Grant Cymorth Tai neu DEWIS i gael rhagor o wybodaeth.

I gael rhagor o wybodaeth a chyngor neu i ofyn am unrhyw rai o’r ffurflenni a restrir isod, cysylltwch â thîm y Grant Cymorth Tai:

    Trudy Griffin – Housing Support Commissioning & Operations Manager. Mobile: 07872696489 Ffôn: 01633 740727 Ebost: TrudyGriffin@monmouthshire.gov.uk

    Michael McGrath – Swyddog Comisiynu a Chontract . Mobile: 07967 275855 Ffôn: 01633 644398 Ebost: mikemcgrath@monmouthshire.gov.uk

    Jane Kirby – Swyddog Comisiynu ac Adolygu. Mobile: 07890 062811, Ffôn: 01633 745202, Ebost: janekirby@monmouthshire.gov.uk

    Dogfennau Cysylltiedig

    Grant Cynnal Tai CYFEIRIADUR GWASANAETH 2023