Skip to Main Content

Mae cadw ffyrdd ar agor yn flaenoriaeth bwysig i’r cyngor yn ystod misoedd y gaeaf.

Defnyddiwch ‘Fy Mapiau‘ i gael gwybodaeth am leoliad prif ffyrdd graeanu yn Sir Fynwy.-

Caiff hyn ei wneud drwy daenu halen ymlaen llaw ar rai ffyrdd os disgwylir iâ ac eira.

1.    Cafodd yr holl briffyrdd (Dosbarth 1), ffyrdd heb fod yn briffyrdd (Dosbarth 2) a’r rhan fwyaf o ffyrdd gwledig Dosbarth 3 yn ogystal â strydoedd prysur a strategol  bwysig yn y prif drefi eu dynodi ar gyfer rhaglen o daenu halen rhag ofn o fewn y Sir .

2.     Caiff halen ei daenu ymlaen llaw ar gyfanswm hyd o 525 Km, sydd tua 33% o gyfanswm hyd y briffordd a gynhelir yn gyhoeddus; pan fydd tymheredd ac amodau’n gofyn hynny, yr amser targed ar gyfer trin y ffyrdd hyn yw 3 awr.

3.   Caiff biniau halen eu gosod mewn mannau strategol o amgylch y sir i breswylwyr eu defnyddio ar lwybrau cerdded a strydoedd ochr yn eu hardaloedd lleol. Mae’r cyngor yn atgoffa preswylwyr i ddefnyddio’r halen yn gyfrifol – fel arfer haenen denau, wedi’i daenu’n wastad ar dir lle cafodd unrhyw eira dwfn ei glirio yw’r cyfan sydd ei angen i fod yn effeithlon. Cafodd pob bin halen eu gwirio a’u hail-lenwi yn barod ar gyfer y gaeaf, ac mae’r halen yn y biniau hyn i’w ddefnyddio ar  lwybrau troed a ffyrdd cyhoeddus a ffyrdd yn unig, nid ar gyfer defnyddio ar lonau a llwybrau preifat.

Llwybrau Clirio Eira

Caiff y drefn flaenoriaeth ddilynol ei mabwysiadu ar gyfer clirio iâ ac eira helaeth:

1.      Prif sir Dosbarth 1, 2 a 3 y sir (a ddisgrifir fel llwybrau Blaenoriaeth 1 a 2 ar gyfer taenu halen ymlaen llaw)

2.     Ffyrdd eraill a gaiff eu hadnabod fel llwybrau meddygol brys a diwydiannol pwysig

3.    Llwybrau gwasanaeth bws

4.   Mynediad i anheddau preifat lle mae’r bwrdd GIG lleol yn dynodi angen ac a nodir mewn cyfathrebiadau yn ystod tymor y gaeaf e.e. angen dialysis ysbyty gan breswylydd. Ffyrdd Dosbarth 3 a ffyrdd heb eu dosbarthu yn rhoi mynediad i bentrefi.

5.    Ffyrdd yn gwasanaethu ffermydd a thai anghysbell.

6.   Ffyrdd eraill.

Gyrru yn y gaeaf

  • Gyrrwch yn araf, gan gyflymu, llywio a defnyddio eich breciau yn enwedig yn llyfn ac yn ysgafn
  • Byddwch yn wyliadwrus o rew du. Os bydd y cerbyd yn dechrau llithro, codwch eich troed oddi ar y sbardun gan bwyll a llywio i gyfeiriad y sgid
  • Os nad yw’r ffordd wedi ei graeanu, byddwch yn wyliadwrus am yrru mewn olion olwynion cerbydau eraill, gan y bydd yn debygol o fod yn fwy rhewllyd yma
  • Mewn gwelededd gwael, defnyddiwch oleuadau wedi’u gostwng. Cymerwch ofal arbennig i wylio am luwchfeydd eira. Gwyliwch am feicwyr a cherddwyr
  • Gadewch ddigon o amser ar gyfer eich taith a gwneud yn siŵr bod gennych danc llawn o danwydd
  • Gwnewch yn siŵr bod eich sgrin flaen a ffenestri yn glir a gofalwch bod y gyfran gywir o hylif olchi sgrin yn eich potel olchi, gan ychwanegu at hon yn rheolaidd
  • Gwnewch yn siŵr bod gennych rhaw, welingtons, tortsh a ffôn symudol. Cadwch botel o ddŵr a bwyd ynni uchel gyda chi rhag ofn i chi dorri i lawr. Ewch â dillad ychwanegol, gan gynnwys cot gynnes, menig a het
  • Mae cerbydau cynnal a chadw’r gaeaf yn hynod o bwerus, felly cadwch bellter diogel y tu ôl iddynt, a chymerwch bwyll wrth basio