Skip to Main Content

Mae hwn yn Orchymyn a wnaed gan yr Awdurdod Cynllunio Lleol. Mae’n drosedd i dorri lawr, tocio, diwreiddio, difrodi’n fwriadol neu’n fwriadol ddinistrio coeden sydd o dan Orchymyn Cadw Coed, heb ganiatâd ysgrifenedig y Cyngor. Mae hyn yn berthnasol i wreiddiau, yn ogystal â’r rhannau o’r goeden sydd uwchben y ddaear. Gall Gorchymyn Cadw Coed ddiogelu unrhyw rywogaeth o goed, ond nid yw’n berthnasol i lwyni.

Sut ydw i’n cael gwybod a yw coeden yn cael ei diogelu?

Gall Swyddog Coed y Cyngor roi cyngor i chi am ba goed sy’n cael eu diogelu. I gyd sydd rhaid gwneud yw ffonio 01633 644962/01633 644880 neu e-bostio planning@monmouthshire.gov.uk

Sut i wneud cais am Orchymyn Cadw Coed

Y prif feini prawf ar gyfer gosod Gorchymyn Cadw Coed ar goeden yw ei gwerth tirwedd ac os yw’r gwerth tirwedd hynny’n cael ei leihâi os yw’r goeden yn cael ei chymryd i ffwrdd. Fel arfer mae’n rhaid i’r goeden fod yn iach ac yn weladwy i’r cyhoedd yn gyffredinol. Gall unrhyw un wneud cais am Orchymyn Cadw Coed, pwy bynnag sy’n berchen y tir lle mae’r goeden wedi’i lleoli.

Gwneud gorchymyn cadw coed

Mae gorchymyn cadw coed newydd yn cael ei wneud ar sail dros dro am gyfnod o chwe mis yn unig.  Cyn i’r cyfnod o chwe mis ddod i ben (yn ystod y cyfnod caiff y goeden ei gwarchod yn llawn) mae’n rhaid i ni benderfynu un ai i gadarnhau’r gorchymyn h.y. ei wneud yn barhaol; cadarnhau’r gorchymyn gydag addasiadau e.e. tynnu coed penodol neu i beidio â chadarnhau’r gorchymyn.

Pwy sy’n cael eu hysbysu pan wneir gorchymyn?

Byddwn naill ai’n ysgrifennu at berchennog y tir drwy bost cofrestredig gan amgáu copi o’r gorchymyn, neu ei gyflwyno â llaw. Y bobl eraill y mae gennym ddyletswydd gyfreithiol i hysbysu yw’r rhai sydd ag eiddo sy’n ffinio ar y tir y mae’r gorchymyn yn ymwneud ag ef.

Sut y gallaf wrthwynebu neu gefnogi gorchymyn?

Rhaid i unrhyw sylwadau cael eu gwneud yn ysgrifenedig i’r Awdurdod Cynllunio Lleol naill ai drwy e-bost neu lythyr o fewn 28 diwrnod i gyflwyno’r gorchymyn. Byddwn yn ystyried yr holl sylwadau wrth benderfynu a ddylid cadarnhau’r gorchymyn. Bydd pawb sydd â diddordeb yn cael eu hysbysu.

Cynnal gwaith ar goed a warchodir

Rhaid cyflwyno cais ffurfiol i’r awdurdod cynllunio lleol cyn tocio neu dorri lawr coeden. O bryd i’w gilydd efallai y bydd angen cynnal a chadw coed.  Mae ffurflen gais ar gael ar gais, neu gallwch ei lawrlwytho yma. Mae nodiadau cyfarwyddyd hefyd ar gael yma.

Er mwyn cefnogi’ch cais, rydym yn argymell eich bod yn cael cyngor proffesiynol.

Alla’i wneud y gwaith fy hunan?

Gallwch, ond mae’r Cyngor yn gosod amod wrth roi caniatâd bod rhaid i bob gwaith coed cael ei wneud yn unol ag arfer gorau’r diwydiant. Yn achos gwaith coed mae hyn yn golygu bod yn rhaid gwneud gwaith tocio coed yn unol â Safon Brydeinig 3998 (2010) Gwaith CoedArgymhellion

A yw’r Cyngor yn ymgynghori â’r cyhoedd pan wneir cais?

Na nid oes unrhyw ofyniad cyfreithiol i ni wneud hynny. Fodd bynnag, rydym yn rhoi gwybod i’ch cyngor tref neu gymuned a’ch cynghorydd sirol lleol pan fydd ceisiadau’n cael eu derbyn.

Mae pob cais cynllunio ar agor i’w harchwilio yn y gofrestr gynllunio.

Beth os wyf yn docio fy nghoeden heb gael caniatâd yn gyntaf?

Gallech gael dirwy o hyd at £20,000 yn Llys yr Ynadon os ydych yn torri lawr, diwreiddio, neu’n fwriadol dinistrio coeden, neu’n fwriadol ddifrodi neu docio coeden warchodedig mewn modd sy’n debygol o’i dinistrio. Gall dirwyon fod yn sylweddol uwch os ydych yn cael eu herlyn yn Llys y Goron.

Bydd y llys yn ystyried unrhyw fudd ariannol gwirioneddol neu debygol o ganlyniad i’r drosedd.  Er enghraifft, os ydych yn ystyried y gall y goeden neu’r coed fod yn niweidiol i gais a fwriadwyd am ganiatâd cynllunio, ac yn eu tynnu cyn i’r Cyngor allu ystyried y mater yn briodol.

Gallech gael dirwy o hyd at £2,500 am droseddau eraill nad ydynt yn arwain at ddinistrio coed, e.e. cael gwared ar gangen. Bydd gofyn i chi i ailblannu unrhyw goed sydd wedi cael eu dinistrio.

Coed mewn Ardaloedd Cadwraeth

Mae coed nad ydynt wedi’u cynnwys gan Orchymyn Cadw Coed, ond sydd wedi’u lleoli mewn un o nifer o ardaloedd cadwraeth Sir Fynwy, hefyd yn cael eu diogelu.  Mae’r drosedd o gynnal gwaith ar goed heb ganiatâd mewn ardal gadwraeth yn cario’r un cosbau ag sydd o dan Orchymyn Cadw Coed. 

O dan adran 211 y Ddeddf mae angen i unrhyw un, sy’n bwriadu torri lawr neu ymgymryd â gwaith ar goeden mewn ardal gadwraeth, rhoi chwe wythnos o rybudd o flaen llaw i’r Awdurdod Cynllunio Lleol (ACLl) (‘hysbysiad Adran 211’). Diben y gofyniad hwn yw rhoi cyfle i’r ACLl ystyried a ddylid gwneud GCC mewn perthynas â’r goeden/coed. Am ragor o wybodaeth ynglŷn â gwneud gwaith mewn ardal gadwraeth e-bostiwch planning@monmouthshire.gov.uk neu ffoniwch 01633 644880. 

Cyflwyno Hysbysiad i’r ACLl

Gellir cyflwyno hysbysiadau o’r bwriad i wneud gwaith i goed mewn ardal gadwraeth ar yr un ffurflen â’r un a ddefnyddir i wneud cais am waith i goeden sydd â Gorchymyn Cadw Coed, y ceir y ddolen iddi uchod. Ticiwch y blwch Ardal Gadwraeth yn Adran 5 ar y ffurflen ac yna disgrifiwch y gwaith rydych yn bwriadu ei wneud. Nodwch: ni all yr ACLl wneud penderfyniadau os yw eich cyflwyniad yn rhy amwys, e.e. mae’n datgan eich bod yn bwriadu dim ond i docio neu dorri’n ôl eich coeden/coed. Gall fod yn ddefnyddiol i chi gyflogi arbenigwr gwaith coed i gyflwyno’r ffurflen ar eich rhan gan na fydd gwybodaeth annigonol neu amwys yn cael ei hystyried fel rheol.

Mae ffurflen ar gael i roi gwybod am waith, ynghyd â nodiadau cyfarwyddyd.