Skip to Main Content

Gallwch roi gwybod yn gyfrinachol, ond wrth gofrestru eich manylion fe allwch olrhain cynnydd yr hyn yr ydych wedi ei adrodd, a derbyn y wybodaeth ddiweddaraf am y mater wrth iddo gael ei brosesu.

Os ydych eisoes wedi cofrestru drwy ddefnyddio ap Fy Sir Fynwy, sydd ar gael ar hyn o bryd ar ddyfeisiau AppleAndroid a Windows gallwch ddefnyddio’r un cyfeiriad e-bost a chyfrinair i fewngofnodi.

Mae tîm goleuadau stryd Cyngor Sir Fynwy yn gyfrifol am gadw a chynnal 9,500 o oleuadau stryd ac 1,500 o oleuadau arwyddion ffyrdd.

I adrodd am olau stryd ddim yn gweithio, cysylltwch â’r adran briffyrdd trwy e-bost neu drwy ffonio 01633 644644.

Dros y ddwy flynedd nesaf, bydd y gwasanaeth goleuadau stryd yn mynd drwy nifer o newidiadau er mwyn gwneud y gwasanaeth yn fwy effeithlon ac yn addas i’w ddefnyddio.

Mae Cyngor Sir Fynwy yn gyfrifol am oleuadau stryd mewn ardaloedd preswyl, meysydd parcio’r cyngor, ar hyd prif ffyrdd, mewn rhai parciau, ac mewn rhai meysydd chwaraeon.

Mae Asiant Cefnffyrdd De Cymru (SWTRA) yn gyfrifol am oleuo cefnffyrdd, megis yr A40, yr A449, a’r M4.

Mewn ardaloedd preswyl a adeiladwyd o’r newydd, mae datblygwyr y safle yn gyfrifol am osod a chynnal y goleuadau sydd yno. Maent yn parhau i fod yn gyfrifol hyd nes i’r gwaith gael ei gwblhau, pan fydd Cyngor Sir Fynwy yn asesu’r system oleuo ac yn dweud a ydynt yn hapus i’w mabwysiadu.

Technoleg newydd

Ar hyn o bryd, mae’n cymryd 4,230,323 o gilowat oriau bob blwyddyn i bweru goleuadau stryd Sir Fynwy. Mae hyn yn costio £420,000 y flwyddyn i ddeiliaid tai mewn costau ynni, ac mae’n arwain at 2,369 o dunelli o garbon deuocsid yn cael eu rhyddhau i’r atmosffer.

Gan fod disgwyl i brisiau ynni godi’n sylweddol yn y blynyddoedd i ddod, a chan ein bod wedi ymrwymo i leihau allyriadau carbon, rydym wrthi’n gwneud newidiadau yn Sir Fynwy i greu systemau goleuo sy’n addas ar gyfer y dyfodol.

Bydd technoleg pylu golau yn cael ei gosod ar oleuadau presennol. Mae’n golygu gosod mecanwaith ar bob golau, sy’n caniatáu i’r goleuadau gael eu pylu o unrhyw le rhwng 1% hyd at bwynt lle mae’r goleuadau wedi’u diffodd yn gyfan gwbl. Rydym yn anelu at bylu goleuadau mewn ardaloedd preswyl o 50% yn ystod yr oriau rhwng 10pm a 6am, a fydd yn arwain at arbediad o 30% mewn defnydd ynni. Mae’r dechnoleg eisoes wedi cael ei threialu yn y Grysmwnt, Matharn a Thryleg, lle canfuwyd y gellid pylu’r goleuadau heb wneud gwahaniaeth a oedd yn weladwy.

Yn anochel, mae cost ynghlwm wrth ddiweddaru’r gwasanaeth hwn. Fodd bynnag, ni ellir osgoi rhan sylweddol o’r gost, gan y byddai ynghlwm wrth gynnal y gwasanaeth presennol.

Telir unrhyw gostau ychwanegol gan fenthyciad di-log gan y llywodraeth, sydd wedi’i ddyfarnu i Sir Fynwy oherwydd bod y cynigion ar gyfer goleuadau stryd yn arddangos arfer da a gwerth am arian.

Bydd yr arbedion mewn ynni sy’n deillio o’r system goleuadau newydd yn ein galluogi i ad-dalu’r benthyciad o fewn chwe blynedd.