Skip to Main Content

Mae’r term salwch meddwl yn cynnwys amrediad cyfan o wahanol broblemau. Bydd salwch meddwl yn effeithio ar un mewn pedwar ohonom ar ryw amser yn ein bywydau.

Mae llawer o fathau o broblemau iechyd meddwl, a gallant amrywio’n fawr. Mae’n bwysig eich bod yn mynd at eich meddyg os ydych yn bryderus amdanoch eich hun neu unrhyw un agos atoch.

Os nad ydych yn teimlo’n gysurus yn trafod hyn gyda’ch meddyg teulu, mae llawer o wahanol sefydliadau a all eich helpu. Gallai hynny fod y Gwasanaethau Cymdeithasol,  y Gwasanaeth Iechyd Gwladol neu sefydliad gwirfoddol (fel MIND, Hafal neu SANE).

Gall Iechyd Meddwl gael ei drin mewn nifer fawr o ffyrdd yn cynnwys meddyginiaeth, cwnsela, atgyfeirio at y Tîm Iechyd Meddwl Cymunedol neu becynnau gofal a drefnir gan y Gwasanaethau Cymdeithasol.

Y Tîm Iechyd Meddwl Cymunedol

Mae Timau Iechyd Meddwl Cymunedol yn gyfrifol am driniaeth a gofal oedolion sy’n byw yn y gymuned sy’n dioddef o broblemau iechyd meddwl difrifol a hirdymor.

Mae’r Timau Iechyd Meddwl Cymunedol yn cynnwys meddygon, nyrsys, seicolegwyr, therapyddion galwedigaethol, therapyddion celf a gweithwyr cymdeithasol.

Mae 3 tîm Iechyd Meddwl Cymunedol yn Sir Fynwy. Mae hyn yn golygu timau ar gyfer pobl 18 i 64 oed a thros 65 oed yng ngogledd a de Sir Fynwy.

Cysylltwch â’ch siop un stop leol i gael mwy o wybodaeth.

Y Ddeddf Galluedd Meddyliol

Bob dydd gwnawn benderfyniadau am lawer o bethau yn ein bywydau. Gelwir y gallu i wneud penderfyniadau yn alluedd meddyliol.

Gall pobl gael anhawster yn gwneud rhai penderfyniadau un ai drwy’r amser neu beth o’r amser. Gallai hyn fod oherwydd bod ganddynt:

  • anabledd dysgu
  • dementia
  • problem iechyd meddwl
  • anaf ar eu hymennydd
  • strôc

Mae’r Ddeddf Galluedd Meddyliol yn effeithio ar bobl yn y sefyllfaoedd hyn. Mae hefyd yn effeithio ar deuluoedd, gofalwyr, staff iechyd a gofal cymdeithasol a phobl arall sy’n dod i gyswllt â hwy.

Y Mesur Gofal Sylfaenol

Mae’r Mesur Gofal Sylfaenol yn gynllun ar y cyd i ddatblygu gwasanaethau cefnogaeth iechyd meddwl newydd seiliedig mewn gofal sylfaenol yn y pum ardal yng Ngwent. Datblygwyd y gwasanaethau newydd fel canlyniad uniongyrchol i Ran 1 Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010. Mae’r wybodaeth ar gael ar wefan Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan.