Skip to Main Content

Cynigiwn amrediad eang o wasanaethau i helpu plant a theuluoedd sy’n cael problemau. Yma gallwch ganfod yr hyn a wnawn, sut y gallem eich helpu chi a sut i gysylltu â ni os ydych angen help.

Y manylion cyswllt ar gyfer gwasanaethau plant yw:

Tîm Atgyfeirio ac Asesu Plant: Ffôn: 01291 635669 a Ffacs: 01291 635684

Tîm Cefnogaeth Plant a Theuluoedd: Ffôn: 01291 635692 a Ffacs: 01291 635684

Gwasanaeth argyfwng tu allan i oriau: Ffôn: 0800 328 4432 neu edrychwch ar ein tudalennau gwasanaeth argyfwng tu allan i oriau


Sut y gallwn helpu:

Rydym yn gweithio’n agos yn ein holl waith gydag adrannau eraill yr awdurdod lleol ac asiantaethau fel meddygon teulu, ymwelwyr iechyd, ysgolion, y gwasanaeth prawf, y gwasanaeth tai a grwpiau gwirfoddol. Fodd bynnag, byddwn bob amser yn gofyn am eich caniatâd cyn i ni siarad amdanoch chi gydag asiantaethau eraill.

Unwaith y byddwch wedi cysylltu â ni (galwn hyn yn atgyfeiriad), byddwn yn ymweld â chi i gynnal asesiad os yw’n addas gwneud hynny. Ni allwn obeithio darparu help i bob plentyn yn y gymuned oherwydd bod y staff a’r arian sydd gennym yn gyfyngedig. Rydym wedi paratoi rhestr o flaenoriaethau i’n helpu i reoli ein gwasanaethau yn iawn. Byddwch yn derbyn gwasanaethau gennym yn ôl pa faes blaenoriaeth yr ydych ynddo. Mae hyn yn golygu y bydd y rhai sydd mewn mwyaf o angen yn derbyn help gennym cyn rhai sydd â llai o angen.

Cynigiwn ddewis eang o wasanaethau i helpu plant a theuluoedd sy’n cael problemau. Mae’r dudalen hon yn dweud wrthych beth a wnawn, sut y gallwn eich helpu a sut i gysylltu â ni os ydych angen help.

Ein prif nodau yw:

  • Cynnig cymorth i blant a’u teuluoedd i’w helpu drwy gyfnodau anodd yn eu bywyd
  • I blant aros gyda’u teuluoedd lle bynnag y bo modd. Fodd bynnag, pan fo plant angen gofal neu ddiogeliad na all rhiant ei roi, gallwn ystyried cefnogi plant mewn teulu arall
  • I weithio gyda chi i gynllunio gwasanaethau gwell

Gwnawn hyn drwy:

  • Ddynodi’r plant yn y mwyaf o angen a thargedu ein gwasanaethau tuag atynt
  • Canolbwyntio ein gwaith o amgylch diogelu a lles y plentyn i sicrhau fod eu budd gorau hwy yn dod yn gyntaf bob amser
  • Trin pob plentyn, person ifanc, rhieni a gofalwyr ac unigolion gyda’u hanghenion eu hunain wrth gwblhau asesiad ar gyfer gwasanaethau
  • Rhoi ystyriaeth bob amser i farn a phrofiadau’r plentyn pan wneir penderfyniadau pwysig amdanynt
  • Gweithio mewn partneriaeth gyda phobl ifanc, rhieni, gofalwyr ac asiantaethau eraill
  • Defnyddio cytundebau ysgrifenedig a rennir i hyrwyddo agoredrwydd ac onestrwydd am ein rôl a’n diben
  • Gwneud yn sicr fod gan bawb hawliau cyfartal i gael mynediad i wasanaethau a’u derbyn
  • Drwy ymateb i gwynion os nad ydych yn fodlon, ac i ganmoliaeth pan ydych yn falch gyda’r gwasanaeth a gawsoch.