Gall unrhyw un sy’n byw yn Sir Fynwy gael mynediad i gynnyrch Careline. O 65c y dydd gallwch gael rhaff bywyd yn eich cartref yn cynnwys pendant y gellir ei gwisgo o gwmpas y gwddf neu arddwrn.
Uned a Phendant Careline o £19.57 y mis
Gosod o £45.00
Gall larwm a phendant Careline helpu unrhyw un i fyw’n ddiogel adref. Os pwyswch eich pendant neu uned Careline, cewch eich cysylltu gyda Chanolfan Reoli leol gyda gweithredydd wedi’i hyfforddi yn ei hateb.
Mae’r gwasanaeth yn gweithredu 24 awr y dydd, 365 diwrnod y flwyddyn.
Edrychwch ar y cynnyrch sydd ar gael islaw. Gallai cynnyrch fod angen ymweliad cartref cyn eu gosod.
 |
Synhwyrydd Gwely
Mae’r synhwyrydd gwely neu gadair yn anfon hysbysiad os nad ydych yn y gwely, allan o’r gwely neu i ffwrdd o’r gwely ar gyfer cyfnodau penodol.
|

|
Canfyddwr carbon monocsid
Os canfyddir nwy, mae’r ddyfais yma’n troi’r cyflenwad i ffwrdd ac yn anfon hysbysiad i berson a enwebwyd.
|
 |
Canfyddwr Gwres a Mwg
Mae’r ddyfais yn cychwyn larwm fel canfyddwr mwg arferol ond mae hefyd yn anfon signal i linell gymorth 24 awr i wirio ar eich diogelwch.
|
 |
Canfyddwr Codymau
Os canfyddir problem, gwneir sgwrs ddwyffordd.
|
 |
Canfyddwr Llifogydd
Mae gan y canfyddwr llifogydd dri synhwyrydd. Pan mae dau neu dri o’r synwyryddion yn gwlychu, gweithredir larwm.
|
 |
Lifeline Vi
Gallwch alw am help drwy bwyso’r botwm.
|
Cynnyrch arall: