Skip to Main Content

Mae Monty Sgyrsfot Sir Fynwy yn tyfu a rydym yn awr eisiau rhoi wyneb iddo. Mae Sgyrsfot yn robot sy’n efelychu sgwrs ddynol ac yn rhoi atebion yn gyflym ac yn awtomatig.

Hoffem i chi gynllunio logo y gellir ei ddefnyddio i helpu pobl wybod pwy yw Monty. Caiff y logo buddugol ei ddefnyddio ar ein gwefan a drwy Facebook Messenger. I gymryd rhan yn y gystadleuaeth,  gofynnir i chi wneud y dilynol:

1.     Gwneud darlun o Monty ar gefndir gwyn. Gofynnir i chi gynnwys logo Cyngor Sir Fynwy o fewn eich llun.

2.   Tynnu ffotograff ohono.

3.   Llenwi’r ffurflen a lawrlwytho’r ffotograff o’ch darlun.

Dyma sut olwg sydd ar logo Cyngor Sir Fynwy:

Dyddiad cau y gystadleuaeth yw 20 Mawrth 2020 a chaiff yr enillydd ei hysbysu ym mis Ebrill. Eich gwobr fydd defnyddio eich dyluniad fel wyneb newydd Monty a threulio diwrnod gyda’r Tîm Digidol yng Nghyngor Sir Fynwy a chyflwyniad yn Siambr y Cyngor gan y Prif Weithredydd i ddadlennu eich dyluniad.

Rhowch gynnig ar Monty

Wyddech chi fod Monty yn rhoi atebion ar unwaith i amrywiaeth o gwestiynau y gallwch eu gofyn bob awr o’r dydd a’r nos, saith diwrnod yr wythnos. Rhowch gynnig arni, gallwch wybod mwy am eich cinio ysgol, dyddiadau tymhorau ysgolion neu hyd yn oed ofyn ar ba ddiwrnod y caiff eich bin ei gasglu. Mwy o wybodaeth yma.