Skip to Main Content

Yr hyn mae gofalwyr a’n pobl ifanc yn ddweud amdanom

“Roedd y broses gais yn brofiad cadarnhaol. Roedd llawer o holi, ond dim byd i’w ofni. Cymerodd y broses tua phedwar mis a chawsom ein dewis ar unwaith ar gyfer grŵp o frodyr a chwiorydd”
Gofalwr maeth Cyngor Sir Fynwy

“Fe wnaeth fy lleoliad fi yn fwy aeddfed. Rwy’n teimlo mod i wedi gwneud llawer o gynnydd ers bod mewn lleoliad gyda fy ngofalwyr o gymharu â sut roeddwn o’r blaen. Rwy’n teimlo fod gen i fwy o gefnogaeth yma, ac rwy’n gwybod os oes gen i broblem y gallaf siarad gyda fy ngofalwyr am unrhyw beth. Rwy’n teimlo’n ddiogel lle’r wyf i, diolch i fy lleoliad a gofalwyr.”
Plentyn 17 oed, yn derbyn gofal yn Sir Fynwy

“Mae’n wych gweld y trawsnewid, i weld eu huchelgais yn newid. Mae ynglŷn â gwella canlyniadau iddyn nhw. Mae dangos ffordd hollol wahanol o fyw iddyn nhw yn rhoi golwg newydd iddynt ar fywyd. Rydyn ni’n dysgu ganddyn nhw ac maent hwythau’n dysgu gennym ni. Mae’n anhygoel o werth chweil.”
Gofalwr maeth Cyngor Sir Fynwy