Skip to Main Content

Mae Sir Fynwy mewn risg o bob math o lifogydd sef dŵr wyneb, cyrsiau dŵr arferol, dŵr daear, afonydd a’r môr. Ni fydd byth yn bosibl atal llifogydd ond gallwn i gyd drin risg llifogydd i ostwng tebygolrwydd llifogydd a’i effaith.

Defnyddir y term ‘Rheoli Risg Llifogydd’ i ddisgrifio gwaith Awdurdodau Rheoli Risg sy’n cynnwys Cyngor Sir Fynwy a Cyfoeth Naturiol Cymru. Mae pob Awdurdod Rheoli Risg yn anelu i ostwng tebygolrwydd llifogydd drwy:

  • Rheoli risg llifogydd o bob ffynhonnell yn cynnwys afonydd a systemau arfordirol, dŵr yn llifo o gaeau a dŵr daear.
  • Adeiladu a rheoli amddiffynfeydd, lle’n briodol;
  • Cynnal cyrsiau dŵr.

Mae Awdurdodau Rheoli Risg hefyd yn cydweithio i ostwng effaith llifogydd drwy:

  • Ddylanwadu ar gynllunio defnydd tir, beth gaiff ei adeiladu a ble;
  • Rheoleiddio gwaith a wneir mewn afonydd;
  • Gwella rhybuddion llifogydd;
  • Ymateb yn gyflymach i argyfyngau.

Dan delerau Deddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010 daeth Sir Fynwy yn Awdurdod Llifogydd Lleol Arweiniol ac mae’n gyfrifol am yr hyn a elwir yn risgiau llifogydd lleol. Mae hyn yn cynnwys risgiau llifogydd o gyrsiau dŵr cyffredin, dŵr wyneb a dŵr daear.

Gosododd Deddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010 nifer o ddyletswyddau statudol newydd ar Sir Fynwy fel Awdurdod Llifogydd Lleol Arweiniol yn cynnwys:

  • Dyletswydd i gydymffurfio gyda’r strategaeth genedlaethol;
  • Cydweithredu gydag awdurdodau eraill, yn cynnwys rhannu data;
  • Dyletswydd i ymchwilio llifogydd o fewn ein hardal, cyn belled ag sy’n briodol;
  • Dyletswydd i gadw cofrestr o strwythurau a nodweddion sy’n debygol o effeithio ar risg llifogydd; a
  • Dyletswydd i gyfrannu at ddatblygu cynaliadwy.

Cafodd rheoli caniatâd ar gyfer gwaith ar lwybrau dŵr cyffredin hefyd ei drosglwyddo i’r Cyngor o Cyfoeth Naturiol Cymru.

Mae prif lifogydd afonydd yn parhau’n gyfrifoldeb Cyfoeth Naturiol Cymru.

Dolenni Cyflym

Deddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010

Strategaeth Genedlaethol ar gyfer Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol yng Nghymru

Gwefan Cyfoeth Naturiol Cymru

Cynllun Rheoli Traethlin 2017

Asesiad Rhagarweiniol o Berygl Llifogydd 2011 (Saesneg)

Adendwm Asesiad Rhagarweiniol o Berygl Llifogydd 2017 (Saesneg)

Strategaeth Leol ar gyfer Rheoli Perygl Llifogydd 2013 (Saesneg)

Cynllun Rheoli Perygl Llifogydd 2016 (Saesneg)