Skip to Main Content

Gallwch fyw eich bywyd mewn dwy (neu fwy) o ieithoedd. Gan fyw yng Nghymru, caiff eich bywyd ei gyfoethogi pan y medrwch siarad Cymraeg. Ac os ydych eisiau teithio neu eisoes yn siarad ieithoedd eraill adref, mae dysgu iaith arall yn rhwydd!

Mae cyfleoedd gwaith a gyrfa gwych. Mae siarad dwy iaith yn cynnig mwy o gyfleoedd cyflogaeth yn ogystal â sgil ychwanegu ar eich C.V.

Mae’n fanteisiol siarad gyda phobl yn eu dewis iaith. Mae’r meysydd gyrfa hyn yn neilltuol yn frwd i gyflogi siaradwyr Cymraeg – y cyfryngau, technoleg gwybodaeth, iechyd, y sector cyhoeddus, chwaraeon a hamdden, manwerthu a’r sector gofal plant ac yn y blaen.

Ymestynnwch eich ymenydd … Mae ymchwil rhyngwladol yn dangos fod plant dwyieithog yn tueddu i gyflawni’n uwch o fewn y cwricwlwm a pherfformio’n well mewn arholiadau. Maent hefyd yn tueddu i wneud yn well dan bwysau