Skip to Main Content

Pam cael polisi coed

Mae Cyngor Sir Fynwy yn gwerthfawrogi’r gorchudd coed ledled y sir, ac yn cydnabod y potensial aruthrol o ran y buddion dynol ac amgylcheddol sy’n gysylltiedig â phoblogaeth goed iach a chynaliadwy. Mae’r gwerth y mae coed yn ei gyfrannu hefyd yn cael ei gydnabod ar lefel genedlaethol ac yn cael ei gefnogi drwy Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 a Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016.

Egwyddorion cyffredinol

Mae Cyngor Sir Fynwy wedi ymrwymo i annog bioamrywiaeth.  Oherwydd hyn, dim ond gwaith rheoli hanfodol fydd yn cael ei wneud i stoc goed yr awdurdod lleol.  Mae’r cyngor yn ystyried y canlynol yn hanfodol fel rhesymau dros reoli coed:

  • Rheoli risg i bobl ac eiddo
  • Lle gwelir bod coed yn niweidio isadeiledd adeiledig 
  • Lle mae coed yn lleihau mynedfa ac allanfa diogel o ran hawliau tramwy cyhoeddus

Gan fod coed yn organebau byw, cydnabyddir y gall coed ddatblygu diffygion neu faterion iechyd a allai arwain at fethiant, sy’n peri risg i bobl ac eiddo sy’n agos at ei gilydd. Mae Cyngor Sir Fynwy yn cydnabod y risg bosibl hon a’u cyfrifoldeb i asesu coed ar gyfer diogelwch, ac o bryd i’w gilydd, wneud gwaith cynnal a chadw er mwyn rheoli risg.  Pan fo angen gwaith rheoli coed, mae hyn yn cael ei gwblhau yn y modd mwyaf cydymdeimladol er mwyn cynnal iechyd y goeden a’i chyfraniad fel ased naturiol, wrth hefyd sicrhau nad yw coed unigol yn peri risg corfforol i bobl nac eiddo.

Asesu diogelwch coed

Mae’r risg sy’n cael ei achosi gan goed yn gyffredinol yn isel, gyda dim ond tua un farwolaeth mewn 10 miliwn o bobl y flwyddyn yn y DU yn cael ei hachosi gan goed yn disgyn neu sydd wedi disgyn. I sicrhau bod y risg yma’n parhau’n isel, ac i gyflawni eu dyletswyddau fel tirfeddiannwr cyfrifol ac awdurdod lleol, mae Cyngor Sir Fynwy yn cynnal archwiliadau diogelwch coed.  Y dull asesu diogelwch coed a gyflogir gan y cyngor sir yw’r Asesiad Risg Coed Meintiol a gydnabyddir yn genedlaethol (ARCM). Ceir gwybodaeth am ARCM yn https://www.qtra.co.uk/.

Mae staff Cyngor Sir Fynwy yn gwneud gwaith coed ar raddfa fach. Os oes angen gwaith mwy, neu fwy arbenigol, mae’n bosib y bydd contractwyr yn cael eu cyflogi i wneud y gwaith ar ran y cyngor. Lle mae’r capasiti’n gyfyngedig, gall y cyngor sir hefyd gyflogi contractwyr coedyddiaeth arbenigol i gynnal archwiliadau diogelwch coed. Pan fydd contractwyr yn cael eu defnyddio ar gyfer asesiadau diogelwch neu waith coed, rhaid iddynt fodloni polisïau caffael y cyngor sy’n ymwneud â chymwysterau a chymwyseddau, systemau iechyd a diogelwch ac yswiriant.

Os bydd adroddiad yn cael ei dderbyn yn nodi coeden beryglus, bydd y cyngor sir yn sefydlu ar ei dir yn gyntaf y mae’r goeden yn tyfu.  Gall Cyngor Sir Fynwy ond cadarnhau os mai’r cyngor sydd berchen ar y tir neu os yw Gorchymyn Cadw Coed wedi’i wneud ar goeden sydd dan berchnogaeth breifat; tu hwnt i hyn, ni all y cyngor sir gynghori ar goed sydd mewn perchnogaeth breifat. Pan fo’r goeden yn gyfrifoldeb y cyngor sir, bydd yn trefnu archwiliad ac yn dilyn argymhellion yr arolygydd ar gyfer gwaith rheoli. 

Pan nodir bod coeden sy’n eiddo preifat yn peri risg i ddefnyddwyr cyhoeddus priffyrdd a mannau agored, neu mae’n amharu ar fynediad at hawl tramwy neu briffordd gyhoeddus, gall y cyngor sir gyflwyno hysbysiad ar y tirfeddiannwr i wneud gwaith coed, i wneud y goeden yn ddiogel neu i glirio’r mynediad.

Gofyn am arolygon ychwanegol

Pan fydd preswylydd yn anhapus gyda’r argymhellion o arolwg ARCM ac yn gofyn am ail asesiad coeden, bydd hyn yn cael ei gynnig am ffi, a fydd yn cael ei ad-dalu os bydd mater yn cael ei nodi. Lle cytunir ar hyn, bydd asesydd amgen yn cyflawni’r ail ARCM. Bydd taliadau am asesiadau diogelwch coed yn seiliedig ar y gwaith sydd ei angen, gydag isafswm cost o £100.

Pan fo preswylydd yn dymuno penodi contractwr preifat i asesu coeden, bydd Cyngor Sir Fynwy ond yn ystyried yr argymhellion ble maent yn cael eu cyflwyno’n ysgrifenedig ac mae’r asesiad yn bodloni’r meini prawf a nodir yn y polisi coed llawn.

Coed sydd angen ystyriaeth arbennig

Mae llawer o goed y tu allan i berchnogaeth y cyngor sir eisoes yn cael eu cydnabod fel â statws arbennig drwy ddefnyddio Gorchmynion Cadw Coed. Fodd bynnag, nid yw GCC yn berthnasol i goed sy’n eiddo i’r awdurdod lleol. Felly, er mwyn sicrhau bod coed o’r fath yn cael ystyriaeth briodol, defnyddir sawl disgrifydd i’w nodi fel rhai sydd â gwerth arbennig; mae’r rhain yn cynnwys Coed Pencampwr, Coed Nodedig, Coed Hynafol a Hen Iawn.

Hefyd, mae rhai coed a choetiroedd wedi cael eu plannu i goffáu digwyddiadau arbennig neu fel rhan o dirweddau hanesyddol ac, yn fwy diweddar, ar gyfer adfer a gwella’r tirluniau. Mae gwerth y coed hyn yn aml yn anadferadwy oherwydd, er enghraifft, i’w cysylltiadau hanesyddol neu ddiwylliannol neu oes y coed a’r fflora a ffawna cysylltiedig. Mae hyn yn arbennig o berthnasol lle mae coed yn darparu cartrefi i rywogaethau gwarchodedig fel ystlumod.  Os felly, gall deddfau ychwanegol fod yn gymwys.

Coed sy’n effeithio ar hawliau tramwy cyhoeddus

Nid yw Cyngor Sir Fynwy yn berchen ar goed gerllaw hawliau tramwy cyhoeddus ac, o’r herwydd, nid ydynt mewn sefyllfa i’w rheoli mewn unrhyw ffordd. Fodd bynnag, os yw coeden neu gangen yn syrthio ar draws hawl tramwy cyhoeddus gan flocio neu’n amharu ar fynediad, mae dyletswydd ar y cyngor sir i’w glirio. Gellir rhoi gwybod am adroddiadau o goed neu ganghennau ar draws hawl tramwy cyhoeddus gan ddefnyddio App Fy Sir Fynwy.

Polisi llawn: https://www.monmouthshire.gov.uk/app/uploads/2018/06/Tree-Policy-English.pdf