Skip to Main Content

Bydd y mwyafrif o anheddau yn agored i dalu Treth y Cyngor ond bydd rhai wedi’u heithrio rhag ei thalu.

Mae’r rhain yn cynnwys eiddo:

lle myfyrwyr yn unig sydd yn byw yno

heb ei ddodrefnu yn sylweddol (am hyd at chwe mis)

sydd heb ei feddiannu am fod gan y trigolyn arferol brif breswylfa rhywle arall er mwyn derbyn gofal

sydd heb ei feddiannu am fod y trigolyn yn y carchar, yn yr ysbyty neu mewn cartref gofal nyrsio/preswyl

sydd yn aros am grant profiant (ac am hyd at chwe mis wedi derbyn y grant profiant)

lle person sydd â nam meddyliol difrifol yn unig sydd yn byw yno

sydd yn ffurfio rhan o eiddo unigol ynghyd ag annedd arall sydd yn breswylfa ar gyfer dibynnydd sydd yn aelod teulu e.e. estyniad pwrpasol

sydd heb ei feddiannu ac yn amhreswyliadwy neu’n rhan o newidiadau strwythurol (caniateir y rhain am hyd at 12 mis gan ddod yn agored i dalu’r gost lawn wedi hynny). Darllenwch y wybodaeth isod am wybodaeth bellach.

Mae modd dod o hyd i wybodaeth bellach ar esemptiadau ar y daflen ‘Eich Treth y Cyngor 2012/2013’.

Gwybodaeth am Eiddo heb ei feddiannu

Weithiau, caiff eiddo ei adael yn wag am gyfnod o amser am amrywiaeth o resymau

Mae eiddo sydd heb ei feddiannu a heb ei ddodrefnu wedi’i eithrio rhag talu Treth y Cyngor am gyfnod o hyd at chwe mis.

Mae rheolau gwahanol mewn grym yng Nghymru ar gyfer eiddo wedi’i ddodrefnu nid yw’n cael ei ystyried i fod yn brif neu unig breswylfa person.

Mae’r rhain yn cynnwys pob llety wedi’u dodrefnu nid ail gartrefi neu dai haf yn unig.

Mae rhai Cynghorau yng Nghymru yn caniatáu gostyngiad o 25% neu 50% ar gyfer cartrefi o dan y categori hwn. Fodd bynnag, y mae hyn yn ôl disgresiwn ac y mae Cyngor Sir Fynwy wedi penderfynu peidio â chynnig gostyngiad felly y mae’r gost lawn yn daladwy.

Y Cyngor sydd yn penderfynu a yw eiddo yn dod o dan y categori hwn. Fodd bynnag, os ydych chi’n credu bod y penderfyniad yn anghywir dylech chi ysgrifennu at y Cyngor yn nodi eich rhesymau fel y bod modd adolygu eich bil Treth y Cyngor.

Cysylltu

Ffôn: 01633 644630

Cyfeiriad: Council Tax, PO Box 106, Cil-y-coed, NP26 9AN

E-bost: counciltax@monmouthshire.gov.uk