Skip to Main Content

Emma Pitt a Ruth Davies yw Athrawon Ymgynghorol Anghenion Dysgu Ychwanegol (AlNAT) Blynyddoedd Cynnar Sir Fynwy.

Mae Emma a Ruth yn darparu ystod eang o gymorth anghenion dysgu ychwanegol i ddarparwyr Blynyddoedd Cynnar Sir Fynwy ac i rieni a gofalwyr trwy:

Cynnal ymweliadau;

Cynnig hyfforddiant;

Rhoi cyngor ar strategaethau,

Rhannu adnoddau;

Gwasanaethau i gefnogi datblygiad plant a hwyluso prosesau sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn.

Y nod yw gweithio o fewn, a datblygu’r arfer yn unol â Chod Anghenion Dysgu Ychwanegol Cymru a darparu gwasanaeth ymarferol pwrpasol i gefnogi lleoliadau mewn meysydd y maent wedi eu hadnabod eu hunain.

Os oes angen cymorth anghenion dysgu ychwanegol arnoch ar gyfer plentyn cyn iddo ddechrau yn yr ysgol, cysylltwch â:

Ruth Davies – ruthdavies@monmouthshire.gov.uk

Emma Pitt – emmapitt@monmouthshire.gov.uk

Twitter: @EarlyAln