Skip to Main Content

Papurau Newydd a Chylchgronau Digidol Am Ddim gyda Llyfrgelloedd Sir Fynwy

Fel aelod o Lyfrgelloedd Sir Fynwy, gallwch fwynhau mynediad am ddim a heb gyfyngiad i filoedd o bapurau newydd a chylchgronau drwy PressReader a BorrowBox.

Bydd angen i chi fod yn aelod o Lyfrgelloedd Sir Fynwy i ddefnyddio’r gwasanaethau hyn.
Dim yn aelod ar hyn o bryd?  Cofrestrwch ar-lein heddiw!


PressReader – Papurau Newydd a Chylchgronau Byd-eang

Mae PressReader yn rhoi mynediad i chi i dros 7,000 o bapurau newydd a chylchgronau blaenllaw o bob rhan o’r byd, i gyd ar gael ar yr un diwrnod ag maent yn cyrraedd y silffoedd.

Sut i ddefnyddio PressReader

Gallwch ddefnyddio PressReader drwy’r ap neu ar wefan PressReader:

Ap PressReader

  1. Lawrlwytho’r fersiwn diweddaraf
  2. Agor yr ap
  3. Tapio “Sign in”
  4. Tapio “Libraries & Groups”
  5. Chwilio am Monmouthshire Libraries
  6. Rhoi rhif eich cerdyn llyfrgell a’ch PIN. Holwch yn eich llyfrgell leol os ydych wedi anghofio eich PIN

Mae’r ap yn berffaith ar gyfer darllen pan fyddwch yn mynd o amgylch. Gallwch lawrlwytho cyhoeddiadau ar gyfer eu darllen heb fod ar-lein a mwynhau nodweddion rhyngweithiol fel sweipio tudalen a chwyddo.

Gall fod angen ail-ddilysu o bryd i’w gilydd. I barhau i gael mynediad am ddim, dilynwch gamau 3 i 6 i fewngofnodi eto.


Gwefan PressReader

  1. Mynd i PressReader
  2. Clicio “Sign in”
  3. Clicio “Libraries & Groups”
  4. Chwilio am Monmouthshire Libraries
  5. Rhoi rhif eich cerdyn llyfrgell a’ch PIN. Holwch yn eich llyfrgell leol os ydych wedi anghofio eich PIN

Mae’r wefan yn cynnig golwg tudalen-lawn – delfrydol ar gyfer cylchgronau – ac yn gweithio’n uniongyrchol yn eich porwr heb lawrlwytho.

Gall fod angen ail-ddilysu o bryd i’w gilydd. I barhau i gael mynediad am ddim, dilynwch gamau 2 i 5 i fewngofnodi eto.

Angen mwy o help?

Mae cyfarwyddiadau mwy manwl ar gael yma.

I gael help ychwanegol, yn cynnwys canllawiau a fideos “sut i”, ewch i’r tudalennau help ar wefan PressReader


BorrowBox  ePress: Papurau Newydd a Chylchgronau

Mae BorrowBox hefyd yn cynnig mynediad am ddim i gyhoeddiadau ePress, yn cynnwys papurau newydd byd-eang, cenedlaethol a lleol a chylchgronau.

Sut i ddefnyddio BorrowBox

  • Lawrlwytho ap BorrowBox o Apple App Store, Google Play neu Amazon Appstore.
  • Neu fynd i wefan BorrowBox i ddarllen ar-lein
  • Rhoi rhif eich cerdyn llyfrgell a’ch PIN. Holwch yn eich llyfrgell leol os ydych wedi anghofio eich PIN
  • Clicio ar “ePress”

Beth sydd ar gael?

  • Papurau newydd cenedlaethol: Daily Mail, The Guardian, The Independent, Daily Express, a mwy.
  • Papurau newydd lleol: Western Mail, South Wales Evening Post, a South Wales Echo.