Skip to Main Content

I ddarllen cylchgronau digidol am ddim:

  • Rhaid i chi fod yn aelod o’r llyfrgell – ymunwch â’r llyfrgell
  • Cliciwch y ddolen E-gylchgronau am ddim
  • Crëwch gyfrif newydd gan ddefnyddio rhif eich cerdyn llyfrgell
  • Chwiliwch am gylchgronau y dymunwch eu darllen ac edrych arnynt
  • Crëwch eich cyfrif zinio.com – mae hwn ar wahân i’ch cyfrif mewngofnodi, ond defnyddiwch yr un cyfeiriad e-bost a chyfrinair
  • Bydd eich cylchgrawn bellach yn Your Reading List ac yn barod i chi ei fwynhau
  • Ychwanegwch gymaint o deitlau ag y dymunwch o gasgliad e-gylchgronau’r llyfrgell – byddant yn aros yn Your Reading List hyd oni byddwch yn dewis eu dileu
  • Gallwch ddarllen y rhan fwyaf o gylchgronau ar-lein gan ddefnyddio eich porwr rhyngrwyd trwy glicio ar y cylchgrawn
  • Unwaith y byddwch wedi creu eich cyfrifon mewngofnodi a Zinio, dewch yn ôl i ddarllen neu lawrlwytho e-gylchgronau mor aml ag y dymunwch

I lawrlwytho cylchgronau digidol am ddim:

  • Lawrlwythwch ap cyfrifiadur personol/MAC Zinio gan ddefnyddio’r ddolen ar waelod tudalen casgliad e-gylchgronau Zinio
  • Lawrlwythwch cylchgronau i’ch ffôn clyfar neu lechen gan ddefnyddio ap Zinio (sydd ar gael yn eich siop apiau) a mewngofnodi gyda’ch cyfrif Zinio.com