Bydd Cabinet Cyngor Sir Fynwy yn ystyried a ddylid agor proses ddatgan diddordeb i helpu i benderfynu ar y defnydd o hen Ganolfan Ddydd Tudor Street yn y Fenni yn y dyfodol.
Rhoddwyd les gychwynnol o 12 mis I The Gathering CIO yn 2024, a rhoddwyd gyfle iddynt ddefnyddio’r adeilad a dangos bod ei fodel gweithredu yn gynaliadwy ac y gallai fodloni’r cyfrifoldebau sy’n gysylltiedig â rheoli’r eiddo.
Ar ôl cyfnod cychwynnol y les, rhoddodd y cyngor amser ychwanegol er mwyn cyflwyno wybodaeth a thystiolaeth mewn sawl maes. Er bod cynnydd wedi’i wneud, nid yw’r cyngor o’r farn bod y lefel ofynnol o sicrwydd wedi’i dangos i gefnogi prydles unigryw bellach.
Gan nad yw’r sicrwydd gofynnol wedi’i ddarparu, bydd y Cabinet yn ystyried argymhelliad i ddod â’r denantiaeth bresennol i ben. Os bydd y Cabinet yn cytuno, bydd gan The Gathering tan 1 Ionawr 2027 i adael yr adeilad a’i ddychwelyd i’r cyngor. Bydd hyn yn rhoi amser i’r sefydliad wneud y trefniadau angenrheidiol.
Mae’r Cyngor yn cydnabod bod y gweithgareddau sydd ar y gweill yn Tudor Street yn cael eu gwerthfawrogi gan nifer o fynychwyr a bod The Gathering wedi gwneud ymdrechion i gryfhau ei drefniadau. Ni ddylid dehongli’r argymhelliad fel barn am werth y ddarpariaeth gymunedol sy’n cael ei chynnig. Mae’n benderfyniad am landlord a rheoli asedau ac mae’n cael ei wneud ar sail bodloni’r gofynion ‘prawf cysyniad’ gwreiddiol i safon sy’n rhoi digon o sicrwydd i gefnogi les unigol bellach.
Os bydd y Cabinet yn cymeradwyo’r argymhelliad ar 11 Tachwedd, bydd proses agored yn rhoi cyfle i sefydliadau sydd â diddordeb, gan gynnwys The Gathering, gyflwyno cynigion yn erbyn meini prawf clir a thryloyw.