
Mae ymgyrch Gaeaf o Weithredu Sir Fynwy yn dwyn ynghyd partneriaid sy’n gyfrifol am ddiogelu cymunedol, i helpu pawb i deimlo’n hyderus ac yn ddiogel pan fyddant yn ymweld â chanol ein trefi y tymor hwn. Mae’r fenter yn canolbwyntio ar gadw siopwyr yn ddiogel, taclo’r sawl sy’n defnyddio e-sgwteri a beiciau mewn ffordd wrthgymdeithasol ac anghyfreithlon, a chefnogi’r rhai sy’n mwynhau economi’r nos. Trwy bresenoldeb amlwg ar y stryd, gweithredu ar y cyd a chyngor ymarferol, rydyn ni’n sicrhau bod ein trefi yn parhau i fod yn lleoedd croesawgar, diogel a phleserus i bawb drwy gydol misoedd y gaeaf.
Rydym yn dibynnu arnoch chi i roi gwybod fel y gallwn fynd ati i weithredu. P’un a yw’n achos o fandaliaeth, bygythiadau, niwsans cyhoeddus, neu unrhyw fath arall o ymddygiad gwrthgymdeithasol, mae rhoi gwybod i ni yn ein helpu i ymateb yn gyflym ac yn effeithiol. Ni fyddwn yn clywed amdano heb i chi ddweud wrthym – Cliciwch yma i fynd yn syth i’r wybodaeth sy’n egluro sut i rhoi gwybod am drosedd
e- sgwteri: Chwalu’r Mythau
“Gwrandewch ar y gyfraith a’r peryglon neu byddwch yn siŵr o golli’ch sgwter neu’n waeth byth, eich bywyd”
- “Gallaf reidio fy e-sgwter preifat ar balmentydd neu ffyrdd.”
❌ Myth! Mae e-sgwteri preifat yn anghyfreithlon mewn unrhyw le cyhoeddus, ffyrdd, lonydd beicio, palmentydd, parciau-pob un!. Gallwch eu defnyddio ar dir preifat yn unig, gyda chaniatâd y perchennog. - “Mae’n iawn – maen nhw’n union fel beiciau, nid oes angen trwydded nac yswiriant.”
❌ Myth! Mae e-sgwter preifat yn cael ei ystyried yn gerbyd modur. Mae reidio un mewn man cyhoeddus heb yswiriant, trwydded, treth, a heb ei gofrestru yn golygu y gallech gael dirwy o £300, chwe phwynt cosb, a gellir cymryd y sgwter oddi wrthych. - “Gall dau berson reidio e-sgwter yn hawdd “
❌ Myth! Mae e-sgwteri ac e-feiciau safonol wedi’u creu ar gyfer un reidiwr. Mae ail berson yn effeithio ar gydbwysedd, rhoi straen ar y brêc a’r motor, ac yn cynyddu’r tebygolrwydd o ddamwain a pherygl o anaf difrifol yn sylweddol
“Nid yw wedi ei adeiladu i ddau – Peidiwch â chymryd y risg.”
Mae sgwteri trydan ac e-feiciau wedi’u cynllunio ar gyfer un reidiwr yn unig. Mae ail deithiwr yn effeithio ar gydbwysedd, yn gorlwytho’r brêc a’r motor, ac yn golygu y gallai taith sefydlog droi’n gambl beryglus. Gall hyd yn oed taith fer arwain at drychineb-cwymp difrifol, anafiadau i’r pen, neu wrthdrawiad â cherddwyr. Nid yw’r cerbydau hyn wedi’u creu i gludo dau, hyd yn oed ar dir preifat. O dan gyfraith y DU, mae cario teithiwr ar feic neu sgwter nad yw wedi ei fwriadu i ddau, yn drosedd, a’r reidiwr sy’n gyfrifol am unrhyw ddirwyon neu anafiadau. Diogelwch yn gyntaf: reidiwch ar eich pen eich hun, cadwch mewn rheolaeth, ac amddiffyn bywydau.
I weld enghraifft go iawn i’n hatgoffa pam mae hyn mor bwysig ewch i Jacob’s Journey What Happened to Jacob?—stori bwerus sy’n dangos sut y gall un person ychwanegol newid popeth.
E-Sgwteri
Gwrandewch ar y gyfraith neu byddwch yn siŵr o golli’ch e-sgwter neu’n waeth byth, eich bywyd
Mae sgwteri trydan yn anghyfreithlon ym mhob man cyhoeddus-ar ffyrdd, lonydd beicio, palmentydd, parciau, a strydoedd, oni bai eu bod yn rhan o dreial rhentu rheoledig. Gall defnyddio e-sgwter preifat mewn man cyhoeddus arwain at ddirwy, pwyntiau cosb, a gellir cymryd eich sgwter oddi wrthych oherwydd ei fod yn cyfrif fel cerbyd modur o dan y Ddeddf Traffig Ffyrdd. Y tu hwnt i’r cosbau cyfreithiol, maen nhw’n beryglus: mae cannoedd o reidwyr yn cael eu hanafu neu eu lladd bob blwyddyn, ac mae reidio’n ddiofal neu ar balmentydd yn berygl difrifol i gerddwyr yn enwedig plant ac oedolion hŷn.
Yr hyn sydd fwyaf brawychus yw’r perygl o dân. Mae batris lithiwm ar e-sgwteri ac e-feiciau wedi tanio dros 200 o danau yn 2024 yn unig, yn cynnwys marwolaethau a dwsinau o anafiadau, yn aml wrth eu gwefru gartref. Mae cyfnewid offer gwefru neu ddefnyddio batris rhad yn cynyddu’r tebygolrwydd o ffrwydradau a thanau cyflym nad oes modd eu rheoli.
Yn gryno: nid oes lle i e-sgwteri preifat mewn mannau cyhoeddus, maen nhw’n uchel eu risg ar y ffordd, a gall eu batris danio a dinistrio cartrefi. Nid yw’n werth y difrod, o ran dirwyon, iechyd nac o ran tân.
Rheolau Sgwteri Trydan
- Reidio sgwter trydan: y rheolau (gweler y dolenni isod)
gov.uk: Riding an electric scooter: the rules
- Mae e-sgwteri preifat yn anghyfreithlon mewn mannau cyhoeddus. Maent yn cael eu caniatáu ar dir preifat gyda chaniatâd yn unig.
gov.uk: Using a rental escooter
- Mewn treialon swyddogol, gall reidwyr ddefnyddio e-sgwteri ar ffyrdd a lonydd beicio.
gov.uk: Powered transporters guidance
- Trafod statws cyfreithiol cludwyr personol fel e-sgwteri.
- Cadarnhau bod e-sgwteri preifat yn gerbydau modur, anghyfreithlon heb drwydded, yswiriant a threth.
Canllawiau Diogelwch: Batris a Thân
- Diogelwch batris ar gyfer defnyddwyr e-sgwteri (gweler y ddolen isod)
gov.uk: Battery safety for escooter users [gov.uk],
- Cyngor ar brynu, gwefru, storio a gwaredu ar fatris lithiwm-ion
- Batris e-feiciau ac e-sgwteri: rheoli’r perygl o dân (gweler y ddolen isod)
gov.uk: Fire risk from e-scooter batteries [gov.uk]
- Wedi’i anelu at reolwyr safleoedd ond yn cynnwys ffeithiau ar gynnydd yn nifer yr achosion tân. Defnyddiol i godi ymwybyddiaeth.
Beic Trydan (EAPC)
Gallwch reidio beic trydan yn gyfreithlon yn y DU heb drwydded, treth, yswiriant, a heb ei gofrestru, cyn belled â’i fod yn bodloni safonau EAPC (beic pedal a gynorthwyir yn drydanol) y Llywodraeth. Mae hyn yn golygu bod rhaid i’r beic gael pedalau, motor o hyd at 250W, sy’n cynorthwyo wrth bedalu hyd at 15.5 mya yn unig. Mae unrhyw beth y tu hwnt i hynny – fel pŵer throtl yn unig, watedd uwch, neu declyn i hybu cyflymder – yn cael ei ystyried yn feic modur neu foped, sy’n golygu bod angen trwydded yrru, yswiriant, treth, cofrestru, a helmed. Mae beiciau sy’n cydymffurfio â rheolau EAPC yn gallu cael eu reidio ar ffyrdd, lonydd beicio, a llwybrau a rennir, ond byth ar balmentydd. [gov.uk]
Yn ogystal â chydymffurfio â’r gyfraith, mae diogelwch batris yn hanfodol. Mae Swyddfa Diogelwch a Safonau Cynnyrch y DU wedi cofnodi cannoedd o danau e-feiciau yn 2024. Mae hyn yn tynnu sylw at beryglon pecynnau lithiwm-ion sy’n ddiffygiol, yn ffug neu wedi’u difrodi. Gall y batris hyn danio’n sydyn, gan arwain at niwed i eiddo, anaf, neu waeth os ydynt yn cael eu storio neu’u gwefru’n anghywir. Defnyddiwch fatris a gwefrwyr cymeradwy, diddifrod, bob amser. Ewch ati i’w gwefru mewn mannau wedi’u hawyru’n dda i ffwrdd o ddeunyddiau fflamadwy, a pheidiwch byth â gadael dyfeisiau gwefru heb oruchwyliaeth
Safonau EAPC a gofynion cyfreithiol gov.uk: EAPC standards & legal requirements
Cadwch yn Ddiogel ar noson allan
7 awgrym da ar gyfer noson allan ddiogel | Crimestoppers
Mae cadw’n ddiogel ar noson allan yn dechrau drwy gynllunio ymlaen llaw a chadw llygad ar ein gilydd. Gwnewch yn siŵr eich bod chi’n gwybod eich terfynau pan fyddwch chi’n yfed, cadwch eich ffôn wedi’i wefru, a threfnwch sut y byddwch chi’n cyrraedd adref cyn i chi fynd allan. Cadwch gyda’ch ffrindiau a pheidiwch â gadael i unrhyw un grwydro ar ei ben ei hun – defnyddiwch system ‘gyfeillio’ a chadw mewn cysylltiad yn rheolaidd. Os ydych chi’n cael eich gwahanu, ewch i le diogel, wedi’i oleuo’n dda a chysylltwch â’ch grŵp, neu staff y lleoliad. Cadwch lygad ar eich diod bob amser ac osgoi derbyn diodydd gan ddieithriaid. Os ydych chi’n gweld rhywun sy’n edrych yn fregus neu’n ofidus, holwch a ydyn nhw’n iawn a rhybuddiwch staff neu swyddogion diogelwch. Ac os ydych chi yn teimlo’n anniogel—p’un ai ar ddêt, gyda chymar neu unrhyw un arall, gofynnwch i staff y lleoliad am help drwy ddefnyddio cod “Ask for Angela”. Eich diogelwch chi a diogelwch eich ffrindiau sydd fwyaf pwysig, felly dilynwch eich greddf a pheidiwch ag oedi cyn gofyn am help.
Am gyngor manylach gweler isod:
Cynllunio ymlaen llaw a chofio
- Digon yw digon: Cymerwch eich amser a pheidio â ‘gor-fed mewn pyliau’.
- Bwyta cyn mynd: Mae bwyd yn arafu’r broses amsugno alcohol.
- Gwefru eich ffôn: Gwnewch yn siŵr ei fod wedi’i wefru’n llawn cyn mynd allan.
- Trefnu cludiant: Penderfynwch sut rydych chi’n cyrraedd adref (tacsi, gyrrwr dynodedig, trafnidiaeth gyhoeddus).
Aros gyda’ch gilydd
- Arhoswch gyda’ch grŵp: Peidiwch â gadael i ffrindiau grwydro ar eu pennau eu hunain.
- System gyfeillio: Ewch mewn grwpiau fel nad yw unrhyw un yn cael ei adael ar ôl.
- Cysylltwch â’ch gilydd yn rheolaidd: os byddwch chi’n gwahanu, cadwch mewn cysylltiad dros y ffôn neu drwy neges destun.
Amddiffyn eich hun
- Cadwch lygad ar eich diod: Peidiwch byth â’i adael heb i neb ei wylio a chofiwch osgoi derbyn diodydd gan ddieithriaid.
- Arhoswch mewn mannau sydd wedi’u goleuo’n dda: Yn enwedig wrth gerdded o leoliad i leoliad.
- Gwnewch nodyn o gysylltiadau brys: Gwnewch yn siŵr fod gennych rifau tacsis lleol a’r gwasanaethau brys.
- Peidiwch â rhannu cyfrineiriau ar ffonau a chardiau gydag eraill: gwnewch yn siŵr eich bod yn defnyddio rhif PIN eich ffôn a cherdyn banc o olwg pobl eraill
Cadwch lygad am eich gilydd
- Sylwch ar unrhyw arwyddion o drafferth: Os yw ffrind yn ymddangos yn rhy feddw neu’n anghyfforddus, camwch i mewn.
- Peidiwch ag anwybyddu rhybuddion: Os yw rhywun yn ymddwyn yn ymosodol neu’n amheus, camwch i ffwrdd a rhybuddio staff/swyddogion diogelwch.
- Helpwch i gael pawb adref yn ddiogel: Gwnewch yn siŵr nad oes unrhyw un yn cael ei adael ar ôl.
Os ydych chi’n gweld rhywun sy’n agored i niwed neu’n unig
- Holwch a ydynt yn iawn: Gall “Wyt ti’n iawn?” wneud gwahaniaeth mawr.
- Peidiwch â’u gadael mewn perygl: Os ydyn nhw’n ymddangos yn ofidus, yn feddw neu’n anniogel, arhoswch gyda nhw nes bod help yn cyrraedd.
- Rhybuddiwch staff neu swyddogion diogelwch: Maent wedi’u hyfforddi i helpu a gallant sicrhau bod y person yn cyrraedd adref yn ddiogel.
- Ffoniwch y gwasanaethau brys os oes angen: Os yw’r person mewn perygl neu’n anymwybodol, deialwch 999 ar unwaith.
Os ydych chi’n cael eich gwahanu oddi wrth ffrindiau
- Peidiwch â chynhyrfu ac arhoswch yn eich lle: Dewiswch fan diogel, wedi’i oleuo’n dda ac aros yn hytrach na chrwydro.
- Ffoniwch neu anfonwch neges at eich grŵp: Defnyddiwch eich ffôn i rannu eich lleoliad.
- Ewch i fan cyfarfod y cytunwyd arno ymlaen llaw: Trafodwch fan cyfarfod cyn y noson allan (e.e., ger mynedfa’r lleoliad).
- Gofynnwch i staff y lleoliad am help: Gallant helpu i ddod o hyd i’ch ffrindiau neu eich cadw’n ddiogel.
- Rhaid i chi osgoi gadael gyda dieithriaid: Os na allwch ailgysylltu, defnyddiwch dacsi trwyddedig neu drafnidiaeth ddibynadwy. Peidiwch byth â derbyn lifft gan ddieithryn.
Os ydych chi allan gyda phartner ac maen nhw’n troi’n dreisgar neu os ydych chi’n teimlo’n anniogel
- Tynnwch eich hun o’r sefyllfa yn gyflym: Ewch i fan diogel, cyhoeddus fel y bar neu’n agos at staff.
- Defnyddiwch y cod “Ask for Angela”:
- Ewch at aelod o staff a dweud yn bwyllog “Can I speak to Angela?”
- Mae hyn yn arwydd bod angen help arnoch. Bydd staff yn eich cynorthwyo i adael yn ddiogel, ffonio tacsi, neu gysylltu â’r gwasanaethau brys.
- Peidiwch â’u herio: Rhowch flaenoriaeth i’ch diogelwch dros ddadleuon.
- Ffoniwch 999 os ydych chi mewn perygl uniongyrchol: Bydd yr heddlu yn ymateb i achosion o drais domestig mewn mannau cyhoeddus.
Parchwch ein strydoedd – Mae’r Gymuned yn Gwylio ac yn Adrodd.
Gyda’n gilydd, gallwn amddiffyn ein hardaloedd cyhoeddus a chefnogi Sir Fynwy Mwy Diogel.
Os ydych chi’n dyst i Ymddygiad Gwrthgymdeithasol neu’n ei wynebu, gallwch roi gwybod amdano yn y ffyrdd canlynol
Sut i Riportio…Trosedd
Rhoi gwybod i’r Heddlu
Gallwch riportio drwy:
- Ffonio 101 ar gyfer troseddau nad ydynt yn rhai sydd angen sylw brys.
- Ffonio 999 os oes bygythiad uniongyrchol i fywyd neu eiddo.
Mae Crimestoppers yn cymryd adroddiadau yn ddienw.
Gallwch riportio drwy:
Ffonio: 0800 555 111
Ar-lein: Gwefan Crimestoppers
Sut i riportio… Ymddygiad gwrthgymdeithasol
Rhoi gwybod i’r Heddlu
- Ffoniwch 101 i adrodd troseddau nad ydynt yn rhai sydd angen sylw brys.
- Ffoniwch 999 os oes bygythiad uniongyrchol i fywyd neu eiddo.
Rhoi gwybod i Gyngor Sir Fynwy
- Riportiwch digwyddiadau fel cwynion am sŵn, taflu ysbwriel neu niwsans cyhoeddus trwy wefan Cyngor Sir Fynwy neu trwy gysylltu â’r cyngor yn uniongyrchol.
Rhoi gwybod i Landlordiaid Cymdeithasol
- Os yw’r ymddygiad gwrthgymdeithasol yn digwydd mewn tai cymdeithasol neu’n agos atynt, rhowch wybod i’r gymdeithas tai priodol neu’r landlord sydd yn gyfrifol am yr eiddo.
Mae Crimestoppers yn derbyn adroddiadau am ymddygiad gwrthgymdeithasol. Byddant yn cymryd adroddiadau yn ddienw os yw’r ymddygiad gwrthgymdeithasol yn:
- Ddifrifol
- O natur droseddol
- Yn beryg i unigolyn
Gallwch roi gwybod drwy:
Ffonio: 0800 555 111