Skip to Main Content

Os oes gennych gŵyn am ymddygiad gwrthgymdeithasol yn eich ardal, dylech yn gyntaf roi adroddiad amdano i’r heddlu yn defnyddio’r cysylltiadau perthnasol islaw:

Os yn argyfwng: ffoniwch ‘999’ a gofyn am yr HEDDLU, os oes angen ymateb ar unwaith.

Ar gyfer adroddiadau arferol, ffoniwch ‘101’ i gofnodi’r digwyddiad gyda’r heddlu.

Mae manylion eich tîm Plismona Cymdogaeth lleol ar gael ar y wefan (cliciwch yma). Peidiwch â defnyddio pryd mae angen ymateb ar unwaith.

Am unrhyw fanylion eraill, ewch i wefan Gwent: www.gwent.police.uk

Gallwch hefyd wneud adroddiad am broblemau ymddygiad gwrthgymdeithasol lleol i Hybiau Cymunedol Cyngor Sir Fynwy:

  • Siop Un Stop Y Fenni: Neuadd y Farchnad, Stryd Groes, Y Fenni, NP7 5HD: 01633 644644
  • Hyb Cymunedol Cas-gwent: Manor Way, Cas-gwent, NP16 5HZ: 01633 644644
  • Hyb Cymunedol Cil-y-coed: Woodstock Way, Cil-y-coed, NP26 5DB: 01633 644644
  • Hyb Cymunedol Trefynwy: Neuadd Rolls, Trefynwy, NP25 3BY: 01633 644644
  • Hyb Cymunedol Brynbuga: 35 Stryd Maryport, Brynbuga, NP15 1AE: 01633 644644

Gellir cysylltu â’r ganolfan gyswllt ar 01633 644644

Grŵp Sir Fynwy Ddiogelach

Cafodd Partneriaeth Diogelwch Cymunedol Sir Fynwy ei diddymu ym mis Ebrill 2012 yn dilyn papur Llywodraeth Cymru ‘Cydamcanu, Cydymdrechu’. Cafodd y gofynion statudol eu trosglwyddo i Fwrdd Gwasanaethau Lleol Sir Fynwy a ddaeth yn 2016 y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus. Mae Grŵp Sir Fynwy Ddiogelach yn ymgymryd yn ffurfiol â chyfrifoldeb statudol y Bwrdd Gwasanaethau Lleol yn unol gyda Deddf Troseddu ac Anrhefn 1998, (Rhan 1:56) sy’n cynnwys strategaethau i ostwng troseddu ac anrhefn, strategaethau ar gyfer atal camddefnyddio cyffuriau ac alcohol a sylweddau eraill a strategaethau ar gyfer gostwng ail-droseddu.

Mae’r Bwrdd Gwasanaethau Lleol diwygiedig yn dod ynghyd â phrif swyddogion sefydliadau allweddol yn Sir Fynwy i drafod yr agenda partneriaeth. Caiff ei gadeirio gan Brif Weithredwr Cyngor Sir Fynwy ac mae Arweinydd y Cyngor yn mynychu. Mae’r partneriaid allweddol yn cynnwys Heddlu Gwent, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Gwent, Tân ac Achub, Iechyd Cyhoeddus Cymru a Chyfoeth Naturiol Cymru.

Cafodd y Cynllun Integredig Sengl 2013/2017 ei greu ar ran y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus sy’n cynnwys diogelwch y gymuned. Mae gan y Cynllun Integredig Sengl dair prif thema: peidio gadael neb ar ôl; pobl yn hyderus, galluog ac yn cymryd rhan; ein sir yn ffynnu.

Y dilynol yw’r nodau sy’n dod o fewn cylch gorchwyl Grŵp Sir Fynwy Ddiogelach yng nghyswllt diogelwch y gymuned.

  1. Camddefnydd alcohol a chyffuriau dim yn effeithio ar fywydau pobl
  2. Teuluoedd yn cael eu cefnogi.
  3. Pobl yn teimlo’n ddiogel.

Caiff blaenoriaethau’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus a Grŵp Sir Fynwy Ddiogelach eu cyflwyno gan bedwar tîm Gweithredu Diogelwch Cymunedol lleol sef:

  • Bryn y Cwm:
  • Canol Sir Fynwy:
  • Gwy Isaf:
  • Glannau Hafren:

Mae’r rhain yn grwpiau aml-asiantaeth a drefnwyd ar sail ardal ac maent yn delio gyda phroblemau lleol.

Enghreifftiau o brosiectau diweddar a gefnogwyd gan y Timau Gweithredu Diogelwch Cymunedol yw:

  • Yng Nghil-y-coed, cynhaliwyd rhaglen adferiad cymunedol i fynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol gan bobl ifanc yn y dref.
  • Gwella diogelwch personol drwy gyrchu a hyrwyddo pecyn diogelwch teulu.
  • Defnyddio camerâu teledu symudol mewn ardaloedd lle mae llawer o ymddygiad gwrthgymdeithasol.
  • Rhoi cefnogaeth ariannol a hwyluso prosiectau atal graffiti gan bobl ifanc yn Nhrefynwy a Chas-gwent.
  • Darparu larymau sied i helpu atal troseddau gwledig a rhoi sicrwydd.
  • Gweithio gyda’r Gwasanaeth Ieuenctid i gefnogi gostwng problemau’n gysylltiedig gyda noson Calan Gaeaf a Thân Gwyllt, Operation Bang, bob blwyddyn
  • Defnyddio Gorchymyn Lle Cyhoeddus Dynodedig i reoli ymddygiad gwrthgymdeithasol yn gysylltiedig gydag yfed alcohol yn Nhrefynwy.

Gallwch hysbysu’r Timau Gweithredu Diogelwch Cymunedol am fater drwy’r Hybiau Cymunedol, manylion uchod, neu drwy Gydlynydd Ymddygiad Gwrthgymdeithasol: Andrew Mason 01633 644210