Skip to Main Content

Mae gan Gyngor Sir Fynwy gynllun teledu cylch cyfyng (CCTV) Gofod Cyhoeddus sy’n gweithredu yn y pedair prif dref sef Cas-gwent, Cil-y-coed, Trefynwy a’r Fenni mewn partneriaeth gyda’r cynghorau tref yn yr ardaloedd hynny.

Cafodd y system wreiddiol o gamerâu sefydlog ar linellau BT eu hamnewid yn 2014 gyda thechnoleg fodern dolen radio a chamerâu cromen newydd sy’n rhoi ansawdd gwell a chynnig opsiwn hyblyg i ychwanegu neu symud camerâu.

Caiff y camerâu CCTV eu monitro mewn ystafell reoli a gaiff ei rhannu gyda Chyngor Bwrdeistref Torfaen yn y Ganolfan Rhannu Adnoddau ym Mlaenafon. Mae’r gweithredwr yn darparu gwasanaeth 24 awr a chaiff y deunydd ffilm ei gadw’n ddiogel am 30 diwrnod cyn cael ei ddileu. Caiff unrhyw gais am ddeunydd ffilm fel tystiolaeth o fewn y 30 diwrnod ei brosesu gan gadw’n fanwl at ganllawiau Swyddfa’r Comisiynydd ac mae’n cydymffurfio gyda’r Ddeddf Diogelu Data.

Mae gan Gyngor Sir Fynwy swyddog yn cysylltu gyda’r Ganolfan Rhannu Adnoddau i sicrhau y caiff y cynllun ei gadw’n gyfredol ac y defnyddir y camerâu CCTV yn y ffordd fwyaf effeithlon. Mae’r ystafell reoli yn rhoi adroddiadau misol ar weithgareddau ac fel bo angen gydag unrhyw namau.

Mae’r heddlu’n rhoi gwybodaeth i’r gweithredwyr a’r cydlynydd CCTV ar dueddiadau a phatrymau troseddu presennol a defnyddir yr wybodaeth yma i hysbysu gweithredwyr camera yn ddyddiol.

Mae gan y cynllun hefyd nifer o gamerâu y gellir eu symud yn rhwydd i leoliadau lle sy’n dioddef llawer o ymddygiad gwrthgymdeithasol.

Caiff gwybodaeth mewn cyfarfodydd lleol o’r Timau Gweithredu Diogelwch Cymunedol i benderfynu lle mae angen y camerâu symudol.

Caiff y cynllun ei oruchwylio gan grŵp defnyddwyr sy’n cwrdd deirgwaith y flwyddyn ac sy’n cynnwys dau gynrychiolydd o bob tref, ynghyd â’r heddlu, gweithredwyr CCTV a Chyngor Sir Fynwy i wneud yn siŵr y ceir y gwerth arian am arian o’r cynllun.

I gael mwy o wybodaeth gallwch gysylltu â Chydlynydd CCTV ac Ymddygiad Gwrthgymdeithasol ar 01633 644210

I ofyn am ddeunydd ffilm o’r camerâu cysylltwch â’r ystafell reoli ar controlroom@torfaen.gov.uk

Cynllun Teledu Cylch Cyfyng (CCTV) Adolygiad ac Adroddiad Blynyddol