Ewch yn ôl i’r Dudalen Cynnwys
Wrth weithredu’r meini prawf ar gyfer pan fo mwy o geisiadau nag o leoedd ar gael ar gyfer ceisiadau a dderbyniwyd yn gofyn am dderbyn i flwyddyn arferol mynediad [Dosbarth Derbyn a Blwyddyn 7) a bod y plentyn olaf i gael ei dderbyn yn un o enedigaeth luosog, yna bydd yr Awdurdod Lleol yn derbyn y sibling(iaid) eraill.
Lle derbynnir ceisiadau genedigaeth luosog ar gyfer grwpiau blwyddyn heblaw’r flwyddyn mynediad arferol, lle mai dim ond un lle sydd ar ôl yn y grŵp blwyddyn perthnasol cyn cyrraedd y nifer derbyn, bydd yr Awdurdod Lleol yn ystyried pob achos yn unigol cyn penderfynu os eir yn uwch na’r nifer derbyn. Bydd angen rhoi sylw neilltuol i gapasiti’r ysgol a’r tebygrwydd o amharu ar addysg effeithlon a defnydd effeithiol adnoddau yn yr ysgol a ffafrir.