Dechrau yn yr Ysgol Uwchradd Dechrau yn yr Ysgol Uwchradd Erthygl wedi ei diweddaru: 3rd Medi 2026 Mae dechrau yn yr ysgol uwchradd yn un o’r digwyddiadau pwysicaf ym mywyd eich plentyn. Fel rhiant/gofalwr, mae’n sicr y bydd gennych ystod eang o gwestiynau am y symud yma. Os yw’ch plentyn yn mynychu blwyddyn 6 mewn ysgol gynradd ar hyn o bryd, bydd angen i chi wneud cais iddi drosglwyddo i ysgol uwchradd ym mis Medi 2027.Mae’r broses dderbyn ar gyfer plant sy’n ceisio cael eu derbyn i’r ysgol uwchradd ar gyfer Medi 2027 bellach ar gau. Rhoddir amserlen y cylch derbyn islaw: Dyddiad y mae pecynnau cais ar gael: 18 Medi 2026 Dyddiad cau ceisiadau: 31 Hydref 2026 4pm Dyddiad cynnig: 1 Mawrth 2027 Gallwch wneud cais yma Nodiadau cyfarwyddyd i’ch helpu i gwblhau’ch cais ar-lein Fe’ch cynghorir hefyd i ddarllen Llyfryn Dechrau Ysgol 2027-28 E-bost: accesstolearning@monmouthshire.gov.uk Ffôn: 01633 644508 Cyfeiriad: Cyngor Sir Fynwy Neuadd y Sir Y Rhadyr, Brynbuga Sir Fynwy NP15 1GA