Dechrau yn yr Ysgol Uwchradd Dechrau yn yr Ysgol Uwchradd Erthygl wedi ei diweddaru: 3rd Tachwedd 2025 Mae dechrau yn yr ysgol uwchradd yn un o’r digwyddiadau pwysicaf ym mywyd eich plentyn. Fel rhiant/gofalwr, mae’n sicr y bydd gennych ystod eang o gwestiynau am y symud yma. Os yw’ch plentyn yn mynychu blwyddyn 6 mewn ysgol gynradd ar hyn o bryd, bydd angen i chi wneud cais iddi drosglwyddo i ysgol uwchradd ym mis Medi 2026.Mae’r broses dderbyn ar gyfer plant sy’n ceisio cael eu derbyn i’r ysgol uwchradd ar gyfer Medi 2026 bellach ar gau. Rhoddir amserlen y cylch derbyn islaw: Dyddiad y mae pecynnau cais ar gael: 19 Medi 2025 Dyddiad cau ceisiadau: 31 Hydref 2025 4pm Dyddiad cynnig: 2 Mawrth 2026 Mae’r cylch derbyn bellach ar gau Gellir gwneud ceisiadau hwyr yma Nodiadau cyfarwyddyd i’ch helpu i gwblhau’ch cais ar-lein Fe’ch cynghorir hefyd i ddarllen Llyfryn Dechrau Ysgol 2026-27 E-bost: accesstolearning@monmouthshire.gov.uk Ffôn: 01633 644508 Cyfeiriad: Cyngor Sir Fynwy Neuadd y Sir Y Rhadyr, Brynbuga Sir Fynwy NP15 1GA