Er mwyn ein galluogi i brosesu eich asesiad yn gyflym ac yn gywir, efallai y gofynnir i chi ddarparu dogfennaeth. Fodd bynnag, bydd y math o ddogfennaeth sy’n ofynnol yn dibynnu ar eich sefyllfa dai, a dangosir isod rai enghreifftiau o’r wybodaeth a’r dogfennau y bydd angen i chi eu darparu.
Prawf Hunaniaeth
Eich tystysgrif geni;
Eich pasbort;
Dogfen sy’n cadarnhau eich rhif Yswiriant Gwladol;
Eich trwydded yrru;
Eich cerdyn meddygol;
Bil cyfleustodau diweddar
Manylion eich incwm:
Manylion unrhyw gynilion sydd gennych ar ffurf ddatganiadau banc, llyfr Cymdeithas Adeiladu, cyfrifon cynilo ac ati;
Cyflogedig: Eich slipiau cyflog dros y pum wythnos diwethaf (neu’r slipiau cyflog dros y deufis diwethaf) neu lythyr gan eich cyflogwr sy’n rhoi’r tâl gros dros y pum wythnos diwethaf;
Yn Ddi-waith neu wedi ymddeol: Bydd angen cadarnhad arnoch o’r hyn yr ydych yn derbyn ar ffurf llyfr pensiwn neu ffurflen sy’n dangos faint o fudd-daliadau rydych yn derbyn.
Os oes gennych blant:
Tystysgrif geni lawn ar gyfer unrhyw blant dan bump oed sydd wedi’u cynnwys yn eich cais am dai, a naill ai dystysgrif geni fer neu lawn i rai dros bump oed;
Unrhyw bapurau ysgariad neu wahanu sy’n dangos trefniadau yn ymwneud â’r plant.
Os ydych chi yn feichiog:
Eich tystysgrif mamolaeth neu nodiadau ysbyty sy’n cadarnhau eich beichiogrwydd, dylai hyn ddangos y dyddiad disgwyl.