Skip to Main Content

Mae cam-drin domestig yn unrhyw fath o ymddygiad rheoli, bwlio, bygythiol neu dreisgar rhwng pobl sydd mewn perthynas agos. Nid trais corfforol yn unig yw cam-drin domestig, mae’n cynnwys ystod o gamau yn erbyn person gan gynnwys galw enwau, eich ynysu oddi wrth deulu a ffrindiau, gemau meddwl emosiynol ac ymddygiad bygythiol.  Mae’r cam-drin hwn hefyd yn ymwneud â’r troseddwr sy’n caniatáu neu’n achosi plentyn i fod yn dyst, neu fod mewn perygl o fod yn dyst i gam-drin domestig.

Gall dynion a menywod gael eu cam-drin neu fod yn gam-drinwyr.

Mae’r sefydliadau canlynol yn cynnig help a gwybodaeth o ran cam-drin domestig 

Mae Cymorth i Ferched Cyfannol yn darparu gwasanaethau a chymorth i fenywod a’u plant sy’n profi cam-drin domestig ledled Sir Fynwy ac ardal ehangach Gwent. Ffoniwch 03300 564456 i gael cymorth neu gael mynediad i lety argyfwng, ddydd neu nos.

Mae Dyn Wales yn darparu cymorth i ddynion sy’n dioddef cam-drin domestig gan eu partneriaid, 08088 010321

Llinell Gyngor i Ddynion: llinell gymorth gyfrinachol ar gyfer dynion sy’n dioddef trais yn y cartref gan bartner neu gyn-bartner (neu gan aelodau eraill o’r teulu). Ffoniwch radffôn 0808 801 0327 Dydd Llun i Ddydd Gwener 9am – 5pm neu e-bostiwch info@respectphoneline.org.uk

 

Mewn argyfwng, os ydych chi neu unrhyw un o’ch teulu mewn perygl uniongyrchol, ffoniwch yr heddlu bob amser ar 999