Skip to Main Content

Asesiad statudol

– Beth yw Asesiad Statudol?

– Os na fydd yn ymddangos bod eich plentyn yn dangos cynnydd yn Gweithredu Ysgol a Mwy, gall yr Awdurdod Lleol benderfynu cynnal asesiad statudol. Mae asesiad statudol yn ymchwiliad llawn a manwl i gael gwybod beth yw anghenion addysgol arbennig eich plentyn a pha help arbennig sydd ar eich plentyn ei angen.

– Bydd y broses yn cymryd 26 wythnos i’w chwblhau fel arfer. Yn ystod yr amser hwnnw byddwch yn derbyn nifer o lythyrau gan yr Awdurdod Lleol a gofynnir i chi lenwi a dychwelyd nifer o ffurflenni. Bydd manylion am bwy i gysylltu ag ef i gael help neu gefnogaeth ar unrhyw adeg yn cael eu cynnwys yn y llythyrau.

– Pwy all ofyn am Asesiad Statudol?

– Gallwch ofyn am asesiad statudol o’ch plentyn a gall ysgol eich plentyn hefyd. Rhaid i’r cais fod yn ysgrifenedig. Os bydd ar yr ysgol eisiau gofyn am asesiad statudol dylent siarad â chi yn gyntaf bob amser. Os hoffech ofyn am asesiad statudol byddai’n syniad da siarad ag athro dosbarth eich plentyn neu Gydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol yr ysgol yn gyntaf.

– Bydd yr Awdurdod Lleol yn ystyried y cais yn ofalus, a dywedir wrthoch cyn pen chwe wythnos a fydd asesiad yn cael ei gynnal.

– Beth sy’n digwydd ar ôl cais am Asesiad Statudol?

– Mae gan yr Awdurdod Lleol chwe wythnos i benderfynu a yw am gynnal asesiad statudol neu beidio. Bydd y penderfyniad hwn yn seiliedig ar yr holl wybodaeth a anfonwyd i mewn. Bydd y wybodaeth yn dod gennych chi a’r ysgol ac mae’n bwysig i’r wybodaeth sy’n cael ei rhoi fod yn gywir. Gallwch hefyd roi tystiolaeth gan weithwyr proffesiynol eraill sy’n ymwneud â’ch plentyn.

– Bydd Panel Anghenion Dysgu Ychwanegol yr Awdurdod Lleol yn ystyried yr holl wybodaeth a roddwyd a chytuno i symud ymlaen â’r asesiad statudol, gofyn am ragor o wybodaeth, neu benderfynu y gall anghenion eich plentyn barhau i gael eu diwallu trwy Weithredu Ysgol a Mwy.

– Panel o weithwyr proffesiynol yw’r Panel ADY sy’n ystyried tystiolaeth ar gyfer pob cyfeiriad i gael asesiad statudol. Mae’r panel yn sicrhau bod yr Awdurdod Lleol yn cael cefnogaeth a chyngor tîm o nifer o broffesiynau wrth lunio penderfyniadau a bydd asesiad yn cael ei gynnal. Fel arfer bydd y panel yn cynnwys Cydlynydd ADY neu Bennaeth a Seicolegydd Addysg.

– Beth sy’n digwydd yn ystod Asesiad Statudol

– Bydd yr Awdurdod Lleol yn gofyn i bobl roi eu barn am eich plentyn. Fel rhiant, mae eich barn yn bwysig iawn. Hefyd bydd unrhyw farn sydd gan eich plentyn yn bwysig.

– Bydd Awdurdod Lleol yn gofyn am gyngor gennych chi, yr ysgol, seicolegydd addysg, meddyg, gwasanaethau cymdeithasol (er mai dim ond os byddant yn adnabod eich plentyn y byddant yn rhoi cyngor), ac unrhyw un arall y mae’r Awdurdod Lleol yn meddwl y gallai helpu i roi darlun clir o anghenion eich plentyn.

– Byddwch yn gallu mynd gyda’ch plentyn i unrhyw gyfarfod neu apwyntiad meddygol a drefnir fel rhan o’r asesiad statudol. Mae’n bwysig iawn cadw at bob apwyntiad gan y bydd peidio â mynychu yn peri oedi i’r asesiad.

– Beth sy’n digwydd ar ôl Asesiad Statudol

– Mae gan yr Awdurdod Lleol ddeg wythnos i gasglu’r holl wybodaeth a phenderfynu a fydd am roi Datganiad o Anghenion Addysgol Arbennig. Pan fydd yr holl dystiolaeth wedi cael ei derbyn, bydd y Panel ADY yn trafod eich plentyn ac yn ystyried y dystiolaeth yn ofalus iawn cyn gwneud penderfyniad.

– Os penderfynir y dylid ysgrifennu Datganiad yna bydd copi o’r Datganiad Arfaethedig yn cael ei anfon atoch yn ogystal â chopi o’r dystiolaeth a gasglwyd yn ystod yr asesiad. Mae gan yr Awdurdod Lleol bythefnos i anfon y Datganiad Arfaethedig.

– Manylion Cyswllt

– Mae rhagor o wybodaeth ar gael gan y Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol neu gan SNAP Cymru sy’n rhoi cefnogaeth annibynnol i rieni ac y gellir cysylltu â nhw ar 0808 801 0608. Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth yn www.snapcymru.org

– Adolygiadau blynyddol

Beth yw adolygiad blynyddol?

Rhaid i’r Awdurdod Lleol adolygu Datganiad Anghenion Addysgol Arbennig eich plentyn yn flynyddol o leiaf (bob chwe mis i blant dan bump oed). Gellir galw adolygiadau cynnar neu yn y cyfamser os bydd angen.

Cyfrifoldeb yr ysgol yw trefnu’r adolygiad blynyddol ac fe’i cynhelir yn yr ysgol fel arfer. Gwahoddir pawb sy’n ymwneud â’ch plentyn i’r cyfarfod neu i anfon sylwadau ysgrifenedig.

Mae’r Adolygiad Blynyddol yn gyfle i chi a’ch plentyn rannu eich barn gyda’r ysgol neu leoliad blynyddoedd cynnar a’r Awdurdod Lleol.

Beth sy’n digwydd ar ôl yr adolygiad blynyddol?

Anfonir adroddiad o’r cyfarfod, yn crynhoi’r hyn a ddwedwyd ac yn cynnwys unrhyw argymhellion a wnaed at yr Awdurdod Lleol, ynghyd â’r holl adroddiadau a gyflwynwyd i’w hadolygu. Anfonir copi at bawb a aeth i’r cyfarfod. Os oes unrhyw newidiadau i gael eu gwneud i’r Datganiad, bydd yr Awdurdod Lleol yn gwneud y newidiadau hyn ac yn anfon Datganiad Diwygiedig atoch.

Nodyn yn Lle

– Dogfen a ysgrifennir yn lle Datganiad o Anghenion Addysgol Arbennig yw Nodyn yn Lle. Os bydd yr Awdurdod Lleol yn penderfynu y gall anghenion eich plentyn gael eu bodloni gyda’r

gefnogaeth sy’n cael ei darparu gan yr ysgol yn Gweithredu Ysgol a Mwy, bydd Nodyn yn Lle yn cael ei roi. Nid yw’n ddogfen gyfreithiol.

– Bydd Nodyn yn Lle yn disgrifio anghenion addysgol eich plentyn; yn rhoi’r rhesymau pam nad oes Datganiad wedi ei ysgrifennu; yn rhoi awgrymiadau i’r ysgol o ran sut i fodloni anghenion eich plentyn; yn disgrifio anghenion eraill eich plentyn

– Anfonir copïau o’r holl gyngor ac adroddiadau a dderbyniwyd fel rhan o’r asesiad statudol atoch gyda’r Nodyn yn Lle.