Skip to Main Content

Mae coed yn werthfawr am sawl rheswm gwahanol; maent yn darparu cysgod, cefnogi ecosystemau, yn gallu darparu bwyd ar ffurf eu ffrwythau, mae coed marw yn cynyddu bioamrywiaeth infertebratau, ac mae gwerth ariannol o’u pren. Yn Sir Fynwy, mae’r cyngor yn gofalu am dros 23,000 o goed, gyda miloedd yn fwy dan berchnogaeth breifat. Mae gofalu am ein coetiroedd a’n coed yn bryder pwysig wrth drafod cadwraeth, ac mae wedi dod yn fwyfwy pwysig gyda phlâu a chlefydau newydd yn dod yn fwy cyffredin.

Mae gan Sir Fynwy fel sir wledig ddigonedd o gaeau agored a choetiroedd naturiol ac nid oes ganddi lawer o ardaloedd trefol mawr.  Amcangyfrifwyd fod gorchudd canopi trefol yn Sir Fynwy ar gyfer 2013 yn 15.0%, gyda chyfanswm o 282 hectar – i lawr o 16.2% yn 2009.  Mae’r lefel hwn o orchudd yn debyg i orchudd coed trefol cymedrig Cymru, yr amcangyfrifwyd ei fod yn 16.3% ar gyfer 2013, ac mae patrwm y golled yn gyfartal â Chymru gyfan, sydd i lawr o 17.0% yn 2009.

Yn gyffredinol fe gollodd trefi yn Sir Fynwy 23 hectar rhwng 2009 a 2013, gyda phob un o’r wyth tref yn cofrestru colled canopi. Yn yr un modd, dangosodd 159 o 220 o ardaloedd trefol Cymru ddirywiad yn y gorchudd. Wrth gymharu colled ac ennill coed rhwng 2006 a 2013, mae’n ymddangos bod 7,000 o goed mawr wedi eu colli ar draws Cymru – gyda 578 yn Sir Fynwy, sy’n ymddangos yn nifer rhy fawr o’i gymharu â mannau eraill. Mae Sir Fynwy yn gartref i tua 1,260 o goed hynafol, nodedig a hen iawn. Os hoffech wybod mwy am ein coed arbennig, ceir manylion yma:  https://ati.woodlandtrust.org.uk/tree-search/?v=2130221&ml=map&z=13&nwLat=51.63038173232425&nwLng=-2.9321889313308636&seLat=51.574512160604&seLng=-2.6685170563308636

Mae’r golled hon yn peri pryder gyda’r effaith newid yn yr hinsawdd, gan fod coed yn lleihau’r tymheredd cyffredinol. Fe wnaeth cyngor sir Fynwy addo plannu 10,000 o goed dros gyfnod o dair blynedd i helpu i frwydro yn erbyn y golled hon yn gyffredinol, ac i gynyddu bioamrywiaeth. Mae’r addewid yma bellach wedi’i gwblhau a mwy, gyda 14,630 o goed wedi’u plannu ers 2019, mae hyn yn cynnwys 14,028 o egin-goed a 602 o goed ifanc.

i-Tree Eco

Yn 2021, comisiynodd y cyngor astudiaeth i-Tree Eco i edrych i asesu rhai o’r buddion y mae coed yn eu darparu.  Roedd ardal yr astudiaeth yn cynnwys yr ardaloedd trefol o Gas-gwent i Fagwyr ac fe’i cefnogwyd gan wirfoddolwyr.

Mae i-Tree Eco yn gymhwysiad meddalwedd a ddefnyddir i fesur strwythur ac effeithiau amgylcheddol coed trefol a chyfrifo eu gwerth i gymdeithas mewn perthynas â: gwydnwch stociau coed trefol presennol ac arfaethedig i newid yn yr hinsawdd, eu rôl o ran rheoleiddio tymheredd, a rheoli dŵr.

Bydd canlyniadau’r astudiaeth yn cael eu cyhoeddi yma cyn gynted ag y bydd yr adroddiad wedi’i gwblhau.

Mae rhagor o wybodaeth am i-Tree Eco ar gael yma: i-Tree Eco | i-Tree (itreetools.org)