Skip to Main Content

Gwech Gais Ar-lein

Ewch yn ôl i’r Dudalen Cynnwys

Mae Sir Fynwy yn falch i gynnig y ddarpariaeth addysgol ddilynol o fewn ei Sir:

Blynyddoedd Cynnar

Mae gan Sir Fynwy tair ar ddeg uned feithrin yn gysylltiedig ag ysgolion prif ffrwd a nifer o leoliadau nas cynhelir a gymeradwywyd i ddarparu addysg gynnar i blant 3 oed.. Mae’r awdurdod yn cynnal y dosbarthiadau meithrin hyn sy’n darparu addysg blynyddoedd cynnar ran-amser yn rhad ac am ddim (os oes lleoedd ar gael) ar gyfer disgyblion o’r tymor yn dilyn eu pen-blwydd yn dair oed.

Meithrinfeydd a gynhelir ac a gymeradwyir heb eu cynnal yn Sir Fynwy

Addysg Gynradd (4-11)

Mae 31 ysgol gynradd yn Sir Fynwy a ffurfiwyd o[r nodweddion ieithyddolac enwadol dilynol:

Cynradd Cymunedol (Cymraeg) 3

Cynradd Cymunedol (Saesneg) 20

Cynradd Gwirfoddol Rheoledig yr Eglwys yng Nghymru4

Cynradd Gwirfoddol a Gynorthwyir yr Eglwys yng Nghymru2

Cynradd Gwirfoddol a Gynorthwyir Eglwys Gatholig 2

Addysg Gynradd Cyfrwng Cymraeg

Mae gan yr Awdurdod dair Ysgol Gynradd cyfrwng Cymraeg. Ysgol Gymraeg y Fenni sydd wedi’i lleoli yn y Fenni, YsgolGymraeg Trefynwy sydd wedi’i lleoli yn Nhrefynwy ac YsgolGymraeg y Ffin yng Nghil-y-coed sydd hefyd ag uned drochi sy’ncefnogi dysgwyr sy’n hwyr i’r Gymraeg i gael addysg cyfrwng Cymraeg.

Bydd plant sy’n dymuno cael addysg drwy gyfrwng y Gymraeg yn cael eu cludo’n ddi-dâl rhwng eu cartref a’r ysgol Gymraeg agosaf.

Ysgolion Gwirfoddol Rheoledig

Er bod yr ysgolion dydd cydaddysgol hyn yn cael eu rheoli gan yr Awdurdod Lleol cyn belled ag y mae derbyniadau dan sylw, maent hefyd yn cynnig addysg sy’n seiliedig ar egwyddorion a gwerthoeddnCristnogol.

Ysgolion Gwirfoddol a Gynorthwyir (GG)

Ysgolion dydd gwirfoddol a gynorthwyir yw’r rhain a chânt eu cynnalar y cyd â’r Awdurdod Lleol a chyrff gwirfoddol. Mae’r holl ysgolion agynorthwyir yn y Sir un ai’n rhan o grwpiau enwadol Catholig neu’r Eglwys yng Nghymru.

Bydd plant sy’n dymuno cael eu haddysgu mewn ysgol sy’n cynnigaddysg enwadol yn cael cludiant rhwng y cartref a’r ysgol yn rhad acam ddim i’w sefydliad enwadol agosaf.

Addysg Gynradd Arbennig

Mae gan Ysgol Gynradd Overmonnow (Trefynwy), Ysgol Gynradd Penfro (Cas-Gwent) ac Ysgol 3-19 Brenin Harri VIII (Y Fenni) Ganolfannau Adnoddau Anghenion Arbennig i ddarparu ar gyfer yplant hynny na all eu hanghenion gael eu diwallu mewn addysg brif.

Ysgol Uwchradd (11-19)

Mae tair o’r mysgolion uwchradd prif ffrwd yn Sir Fynwy yn ysgolion cyfun cymysg ac yn gwasanaethu dysgwyr 11-19 oed. Maent wedi eu lleoli’n agos at dair o’r prif drefi yn Sir Fynwy.

Ysgol Pob Oed (3-19)

Mae ysgol prif ffrwd pob oed yn y Fenni, sef ysgol gymysg a fydd yn gwasanaethu disgyblion oed cynradd (3-11), plant oed uwchradd (11-16) ym mlynyddoedd 7-11 a myfyrwyr chweched dosbarth (16-19).

Mae pob ysgol yn darparu cwricwlwm eang a chytbwys ac yn cynnig llawer o gyfleoedd ychwanegol drwy ystod eang o weithgareddau allgwriciwlaidd a gynhelir tu allan i amser gwersi yn cynnig y cyfle gorau i blant ddatblygu eu hunain fel unigolion, yn gymdeithasol ac ynacademaidd.

Mae canlyniadau TGAU a lefel AS ac A yn ysgolion Sir Fynwy yn gysonuwch na chyfartaledd Cymru.

Mae ysgolion uwchradd Sir Fynwy a’u darpariaeth chweched dosbarthyn parhau i ddatblygu unigolion gydag ystod da o sgiliau bywyd i lwyddomewn Addysg Bellach a bywyd tu hwnt i ysgol statudol.

Addysg Uwchradd Arbennig

Mae gan Ysgol Cil-y-coed, Ysgol Gyfun Trefynwy ac Ysgol 3-19 BreninHarri VIII Ganolfan Adnoddau Anghenion Arbennig (SNRB) i ddarparu argyfer plant ag anghenion dysgu ychwanegol.

Addysg Uwchradd Cyfrwng Cymraeg

Mae Sir Fynwy wedi datblygu cysylltiadau agos gydag Awdurdodau Cyngor Sir Torfaen a Chyngor Sir Casnewydd i ddarparu addysg cyfrwng Cymraeg yn Ysgol Gyfun Gwynllyw ar gyfer gogledd y sir ac

Ysgol Gwent Is Coed ar gyfer de’r sir. Bydd plant sy’n dymuno cael eu haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg yn derbyn cludiant am ddim rhwng y cartref a’r ysgol i’w gosodiad cyfrwng Cymraeg agosaf.

Addysg Uwchradd Enwadol

Y n ogystal â’i ysgolion cynradd prif ffrwd, mae Sir Fynwy yn cynnig cyflei rieni addysgu eu plant mewn gosodiad sy’n gydnaws â’u credoau a’u dealltwriaeth grefyddol.

Er nad yw Sir Fynwy yn cynnig sefydliadau addysgol uwchradd enwadolar hyn o bryd, rydym yn deall y gallech chi ddymuno parhau i addysgueich plentyn mewn ysgol o’r fath a byddem yn cefnogi hyn.

Bydd plant sy’n dymuno cael eu haddysgu mewn ysgol sy’n cynnig addysg enwadol yn cael cludiant rhwng y cartref a’r ysgol yn rhad ac am ddim i’w sefydliad enwadol agosaf.

Addysg ar ôl 16 oed

Mae Rhwydwaith Llwybrau Dysgu 14 – 19 Sir Fynwy yn rhwydwaith o ddarparwyr addysg sy’n cydweithio ac sy’n ymroddedig i ehangu’r dewisa’r hyblygrwydd sydd ar gael i bobl ifanc rhwng 14 ac 19 oed.

Mae’r rhwydwaith yn sicrhau fod anghenion unigol pobl ifanc yn cael eu diwallu ac yn darparu mwy o gyfleoedd a phrofiadau a fydd yn helpudysgwyr i ddatblygu’r sgiliau ehangach sydd eu hangen arnynt ar gyfer bywyd a gwaith.

Gweledigaeth

Rhoi darpariaeth addysgol i ddisgyblion Sir Fynwy sy’n eu paratoi ar gyfer cymryd rhan lawn yng nghymdeithas heddiw ac yfory. Yn Sir Fynwy, rydym yn ffodus i gael 4 Ysgol Gyfun sy’n cynnig cyfleusterau Ôl-16 i’r rhai sy’n dymuno parhau â’u haddysg hyd at 19 oed.

Mae gennym gysylltiadau cryf ag Ysgol Gyfun Gwynllyw yn Nhorfaen ac Ysgol Gyfun Gwent Is Coed yng Nghasnewydd i ddisgyblion barhau eu haddysg trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae cysylltiadau agos gennym hefyd â Choleg Gwent i ehangu’r opsiynau sydd ar gael i blant Sir Fynwy.