Mae’n bleser gennym i hysbysu bod tudalen y prosiect a’r ymgynghoriad ar-lein ar gyfer prosiect ‘Caldicot Links’ wedi lansio heddiw.
Rydym yn chwilio am syniadau ac adborth gan y bobl sy’n byw, yn gweithio ac yn teithio yn yr ardal ar yr hyn yr hoffent eu gweld ar hyd y llwybrau arfaethedig yn y dyfodol.
Gallai syniadau gynnwys lleoedd i aros ac eistedd, lleoedd i chwarae, gwaith celf, gwybodaeth leol, eitemau sy’n ychwanegu hynodrwydd lleol, plannu a phethau hwyliog eraill. Bydd pob syniad yn cael ei ystyried a bydd y wybodaeth a ddarperir yn helpu i lywio camau nesaf y prosiect.
I rannu eich syniadau ac adborth ewch i wefan y prosiect: sustrans.info/CaldicotLinks
Bydd yr arolwg ar gael ar-lein am bedair wythnos tan 20 Chwefror 2022.
A fyddech cystal â throsglwyddo’r wybodaeth hon i’ch ffrindiau, teulu, cydweithwyr a chymunedau.
I’r rhai na allant gael mynediad i’n deunydd ymgysylltu ar-lein, gellir darparu copïau printiedig o’r map rhwydwaith a’r arolwg post, yn rhad ac am ddim. Gweler y manylion cyswllt isod.
Cofion cynnes, Sustrans Cymru
Ffôn: 029 2065 0602
E-bost: caldicot@sustrans.org
Cyfeiriad post: Sustrans Cymru, 123 Stryd Bute, CF10 5AE.