Bydd cyrsiau mewn person yn ailddechrau o 12 Ebrill fodd bynnag bydd darpariaeth yn gyfyngedig er mwyn cydymffurfio â chanllawiau Llywodraeth Cymru.
Teitl y Cwrs | Dyddiad | Lleoliad | Cost | Disgrifiad o’r Cwrs |
Dechreuwyr Sbaeneg | Dydd Llun 10yb-12 | Cas-Gwent | £70 | Dysgwch y pethau sylfaenol Sbaeneg gan gynnwys archebu mewn bwyty, siopa am fwyd, teithio o amgylch Sbaen a chyflwyno eich teulu. Bydd y dosbarth yn canolbwyntio ar sgiliau sgwrsio ac ynganu gan ddefnyddio deunyddiau hwyliog. |
Paentio Dyfrlliw | 15th Medi (10 wythnos) | Cas-Gwent | £70 | Cwrs peintio ac arlunio dyfrlliw bywyd llonydd am 10 wythnos, croeso i bob lefel. Cynhelir y dosbarth ar fore dydd Mercher 10 – 12. |
Sgiliau Digidol | Ymunwch unrhyw bryd | Cas-Gwent | £10 | Dysgwch hanfodion cyfrifiadur Dydd Llun 6.30 – 8.30pm neu ddydd Mercher 1 – 3pm |
Ipad a Tabledi | Dydd Llun 10yb-12 (6 wythnos) | Cas-Gwent | £10 | Dewch â’ch ipad neu dabled eich hun a dysgwch y pethau sylfaenol o sut i’w ddefnyddio, gan gynnwys gosodiadau, lawrlwytho ac agor apiau, rheoli apiau, e-byst a’r rhyngrwyd. Cynhelir y dosbarth ar fore Llun am 2 awr. |
Sgiliau Digidol – Sylfaenol Iawn | Dydd Mercher 10am-12 (6 wythnos) | Cas-Gwent | £10 | Dysgwch hanfodion cyfrifiadur, yn ddelfrydol ar gyfer unrhyw un nad yw’n gwybod ble mae’r botwm On! Cynhelir y dosbarth ar fore dydd Mercher am 2 awr. |
EFT (Technegau Rhyddid Emosiynol) | Dydd Mercher 1-2pm | Cas-Gwent | £12.60 1 awr yr wythnos am 3 wythnos | Os ydych chi’n teimlo dan straen ac yn bryderus ac eisiau dysgu techneg syml ond pwerus i’ch helpu i ymlacio a theimlo’n fwy tawel, yna mae’r cwrs byr hwn yn addas i chi. Mae Technegau Rhyddid Emosiynol (EFT) neu dapio yn anfon negeseuon tawelu i’r ymennydd ac erbyn hyn mae dros 100 o astudiaethau gwyddonol yn profi effeithiolrwydd y dechneg. Dangosir y dull i ddysgwyr fel eu bod wedyn yn cael teclyn rhad ac am ddim ar flaenau eu bysedd – yn llythrennol – i’w helpu i deimlo’n dawelach pryd bynnag y byddant yn teimlo dan straen neu’n bryderus. |
Hanes Cymreig Lleol | Dod yn fuan | Cas-Gwent | £50.40 am 6 wythnos | Darganfod hanes Sir Fynwy Darganfod a dysgu am ffigurau hanesyddol Cymreig Deall digwyddiadau cythryblus y 19eg a’r 20fed ganrif yng Nghymru Hanes cyfenwau Cymreig |
Sbaeneg i Ddechreuwyr | TBC | Y Fenni | ||
Gwella eich Mathemateg | TBC | Cil-y-Coed | Am DFfi cofrestru £10 wedyn dosbarthiadau am ddim | Ydych chi am wella’ch mathemateg? Nod y dosbarth hwn yw helpu i fagu eich hyder mewn mathemateg a gwella’ch sgiliau mathemateg. Mae’r pynciau dan sylw yn hyblyg a gellir eu cynllunio ar gyfer gofynion pob unigolyn. Gall y pynciau dan sylw amrywio o fathemateg sylfaenol i helpu gyda sefyllfaoedd bywyd bob dydd i gwmpasu pynciau i helpu i baratoi dysgwr ar gyfer Mathemateg TGAU. |
Sgiliau Cyflogadwyedd | TBC | Cil-y-Coed | Am DFfi cofrestru £10 wedyn dosbarthiadau am ddim | Nod y cwrs yw gwella eich sgiliau cyflogadwyedd. Bydd ein tiwtor yn canolbwyntio ar ysgrifennu CV, sgiliau cyfweld (yn cynnwys paratoi ymlaen llaw, pethau i’w cofio yn ysod y cyfweliad a pharatoi cwestiynau), meithrin hyder, dadansoddi hysbysebion swydd neu sesiynau pwrpasol i bob dysgwr. |
Paentio Dyfrlliw | TBC | Cil-y-Coed | £84 (10 Wythnos) |
Gweithdai Celf a Chrefft gyda’ch Plentyn 2021
Gweithdy | Dyddiad | Lleoliad | Cost |
Paentio a Darlunio Anifeiliaid Mor | Dydd Mawrth 10 Awst | Brynbuga | 10am – 1pm Oedolyn £10 Plentyn £5 |
Gwehyddu Helyg – Gwneud Addurn Gardd | Dydd Gwener 20 Awst | Brynbuga | 10am – 1pm Oedolyn £10 Plentyn £5 £5 deunyddiau |
Gweithdai Celf a Chrefft
Gweithdy | Dyddiad | Lleoliad | Cost |
Gweithdy Macrame gwneud addurn wal arbennig | Dydd Llun 9 Awst | Brynbuga | 10-1pm £10 £5 deunyddiau |
Gweithdy Dyfrlliwiau | Dydd Mawrth 17 Awst | Brynbuga | 10-1pm £10 |
Gweithdy Gwehyddu Helyg gwneud addurn ar gyfer eich cartref neu ardd | Dydd Mawrth 17 Awst | Brynbuga | 10-1pm £10 £5 deunyddiau |
Gweithdy Gwnïo, gwneud Bag Anrheg Tynnu Llinyn. Gweithdy gwnïo newydd yn y Fenni, dysgu sut i wneud eich bag anrheg tynnu llinyn eich hun. | Dydd Mercher 11 Awst 10-1pm | Y Fenni | I gael mwy o wybodaeth neu archebu lle anfonwch e-bost at jemimajones@monmouthshire.gov.uk |
Gwneud Blanced Atgofion. Edrych am rywbeth i’w wneud gyda hen ddillad eich babi neu rywun annwyl? Mae’r gweithdy hwn yn berffaith ar gyfer y rhai sy’n dymuno troi hen ddillad yn rhywbeth hardd i’w gadw. | Cynhelir dros ddwy sesiwn, dydd Llun 26 Gorffennaf a 2 Awst. 12.30-3.30pm. | Y Fenni | £5.00 cost deunyddiau. |
Darganfod Lliw drwy Edrych ar yr Argraffiadwyr. Trafod a chael eich ysbrydoli gan beintiadau argraffiadwyr ac ymchwilio byd lliw. Dim angen profiad, y cyfan sydd ei angen yw llyfr brasluniau, pensiliau lliw a diddordeb yn yr argraffiadwyr. | TBC | Y Fenni | |
Morluniau Anarferol mewn Acrylig Mwynhau arddull darlunio a chyfansoddiad anarferol i greu delweddau unigryw o fythynnod lliwgar ar lan y môr. Addas ar gyfer gwellhawyr neu brofiadol. | TBC | Y Fenni | |
Gweithdy Cyfryngau Cymysg Mynegol, Blodau a Fâs. Defnyddio inc ar gynfas, wedi ysbrydoli gan fâs gyda blodau lliwgar. Gadewch i’r inc redeg i greu paentiad lliwgar afrealistig. | TBC | Y Fenni | |
Gweithdy Portreadau/Bywyd ar gyfer Gwellhawyr Gan ddefnyddio model a gweithio o fywyd, gwella eich sgiliau arsylwi a herio eich celf gydag ystumiau byr a rhydd gan y model. Gyda chyfarwyddyd gan y tiwtor os oes angen. | TBC | Y Fenni | |
Braslunio neu Beintio yn yr Awyr Agored – Trip Maes Addas ar gyfer gwellhawyr neu artistiaid profiadol, ymunwch ag Emma Rhydderch Price ar drip maes. Ymlacio, braslunio neu beintio a chael eich ysbrydoli gan yr amgylchedd o’ch gwmpas. | TBC | Y Fenni | |
Gweithdy Gwehyddu Helyg | 12/08/21 1-4pm | Trefynwy | £15 + Deunyddiau |
Gweithdy Macrame | 19/08/21 1-4pm | Trefynwy | £15 + Deunyddiau |
Os oes gennych ddiddordeb mewn cwrs penodol, cysylltwch â’r ganolfan berthnasol – communityed@monmouthshire.gov.uk
Hyb Cymunedol Y Fenni: Town Hall, Cross Street, Abergavenny, NP7 5HD.
Nghanolfan Addysg Gymunedol Y Fenni: Old Hereford Road, Abergavenny, NP7 6EL
Hyb Cymunedol Cil-y-Coed: Woodstock Way, Caldicot, NP26 5DB.
Hyb Cymunedol Cas-gwent: Manor Way, Chepstow, NP16 5HZ.
Hyb Cymunedol Trefynwy: Rolls Hall, Whitecross Street, Monmouth, NP25 3BY.
Hyb Cymunedol Brynbuga: 35 Maryport Street, Usk, NP15 1AE.