Skip to Main Content

Sut ydw i’n gwneud cwyn am dacsi trwyddedig neu yrrwr cab bychan neu’n rhoi gwybod am yrrwr/cerbyd didrwydded?

Os ydych chi wedi hurio tacsi a bod gennych chi gŵyn am ymddygiad y gyrrwr a bod dim modd datrys y mater gyda’r gyrrwr/cwmni, cysylltwch â’r Adran Drwyddedu gan ddefnyddio’r cyfeiriad isod. Dylid rhoi gwybod am unrhyw gerbydau a gyrwyr didrwydded er mwyn eu stopio, gofynnir ichi helpu codi ymwybyddiaeth o’r peryglon a rhoi gwybod am weithgarwch didrwydded.

Eisiau dod yn yrrwr tacsi trwyddedig?

Mae gan ein hadran drwyddedu’r holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch i ddod yn yrrwr tacsi trwyddedig.

I wneud cais, dyma’r manylion cyswllt:

Adran Drwyddedu

Cyngor Sir Fynwy

Canolfan Melville

Pen Y Pound Road

Y Fenni

NP7 5UD

Ffôn: 01633 644224

E-bost. Licensing@monmouthshire.gov.uk

 

Rydym wedi sylwi ar nifer gynyddol o bobl yn hysbysebu gwasanaeth tacsi gan ddefnyddio Facebook neu Twitter heb y drwydded ofynnol.

Mae nifer o bobl nad sy’n ymwybodol o’r risgiau.

Rydym eisiau i chi fod yn ddiogel, felly dyma rhai pethau i fod yn ymwybodol ohonynt:

  • Os ydych yn defnyddio cerbyd ar gyfer gwasanaethau tacsi neu gab bychan heb y drwydded gywir a chyfyngiadau yswiriant hurio cyhoeddus neu hurio preifat, ni fydd yswiriant y cerbyd yn ddilys.
  • Mae hysbysebu gwasanaeth tacsi ar-lein heb drwydded gweithredwr neu drwydded Hacnai yn anghyfreithlon.
  • Mae defnyddio cerbyd didrwydded at ddibenion tacsi neu gab bychan yn anghyfreithlon.
  • Mae gweithredu fel gyrrwr tacsi neu gab bychan er mwyn ennill arian yn anghyfreithlon.

Efallai bydd gennych chi rai cwestiynau.

1. Pam fod gennych ddiddordeb yn fy sylwadau ar gyfryngau cymdeithasol?

Rydym yn derbyn llawer o gwynion yn ymwneud â gyrwyr/cerbydau a gweithredwyr didrwydded. Yn ddiweddar, mae dros 75% o gwynion am dacsis didrwydded yn dod o ffrindiau pobl sy’n hysbysebu gwasanaethau hurio ar gyfryngau cymdeithasol. Byddwn yn gweithio gyda Heddlu Gwent Police i fynd i’r afael â’r mater ac os byddwn yn dod i’r casgliad bod rhywun yn gweithredu’n anghyfreithlon, mae’n bosib y byddwn yn erlyn. Gall y llysoedd gyflwyno dirwyon o hyd at £8,000 ar gyfer y troseddau. Os ydych yn gyrru heb yswiriant dilys, gallwch gael eich gwahardd rhag gyrru ac efallai bydd yr Heddlu yn atafaelu’r cerbyd.

Nid ydym eisiau stopio pobl rhag ennill arian ychwanegol. Rydym eisiau addysgu gyrwyr am y peryglon a’r cosbau posib ar gyfer gyrwyr didrwydded.

2. Os ydw i’n hysbysebu fy mod ar gael i gynnig lifftiau am dâl ar gyfryngau cymdeithasol ac yn cymryd archebion ar fy ffôn neu ar ffôn fy ffrind, ydy hynny’n anghyfreithlon?

Ydy, os ydych chi eisiau ennill ychydig o arian ychwanegol ar benwythnosau trwy wneud y sylwadau hyn “gwasanaethau tacsi, lifftiau rhad” ac yna’n cytuno i gludo pobl am elw, er enghraifft, casglu ffrindiau o bartïon/tafarndai/clybiau a bwytai, mae angen trwydded arnoch.

Does dim ots sut rydych chi’n rhoi lifft am arian, gellir ei drefnu ar-lein, ar y ffôn neu yn bersonol, mae’n anghyfreithlon mewn unrhyw fodd heb drwydded gweithredwr neu drwydded Cerbyd Hacnai.

Nac ydy, os ydych yn cynnig lifftiau ar gyfryngau cymdeithasol a ddim yn cael tâl, nid yw hynny’n anghyfreithlon.

3. Beth os yw fy mam/dad neu ffrindiau agos yn gofyn i mi eu casglu o’r dafarn a fy mod yn postio neges/trydar i roi gwybod iddynt fy mod ar gael, ydy hynny’n anghyfreithlon?

 

Nac ydy, os ydych chi’n ddigon caredig i gynnig lifftiau am ddim i aelodau o’r teulu a ffrindiau, nid oes angen trwydded arnoch. Nid yw postio ar gyfryngau cymdeithasol yn anghyfreithlon, ond mae angen trwydded arnoch os ydych yn cynnig trafnidiaeth ac yn codi tâl am eich gwasanaethau ac yn gwneud elw o rieni neu ffrindiau, ac felly’n gweithredu fel gyrrwr hurio preifat neu gerbyd hacnai.

4. Beth os ydw i’n trefnu rhannu car i ac o’r gwaith neu eisiau sefydlu cynllun car gwirfoddol ar gyfer pobl sy’n methu defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, a yw hyn yn anghyfreithlon?

Na, os nad ydych chi’n bwriadu gwneud elw, does dim angen cael trwydded i rannu car wrth deithio i’r gwaith. Os ydych chi eisiau sefydlu cynllun hurio ceir ar gyfer yr henoed neu bobl sy’n fregus ac yn methu defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, efallai ni fydd angen trwydded arnoch. Mae Cyllid a Thollau ei Mawrhydi yn darparu cyfarwyddyd ar faint rydych chi’n gallu codi fesul milltir wrth weithredu fel gyrrwr car gwirfoddol, ar gyfradd maen nhw’n credu sydd ddim yn dwyn elw, sef 45c y filltir ar y 10,000 milltir cyntaf (fesul blwyddyn dreth).

Cysylltwch â ni cyn i chi gynnig trafnidiaeth wirfoddol, rydym yma i helpu:

  • Gallwn eich cynghori ar ba wasanaethau sy’n dderbyniol
  • Cynnig cyngor ar yswiriant
  • Dweud wrthych am ba wiriadau addasrwydd i fod yn yrrwr gallai fod angen arnoch

Mae mwy o wybodaeth ar gael ar http://www.hmrc.gov.uk/mileage/volunteer-drivers.htm

5. Beth fydd yn digwydd os ydw i’n derbyn y cynnig ac yn bwcio tacsi didrwydded rhad ar gyfryngau cymdeithasol?

Os ydych yn hurio tacsi anghyfreithlon, rydych yn rhoi’ch hun a defnyddwyr eraill y ffordd mewn perygl.

I’ch diogelu chi a’ch ffrindiau, mae gyrwyr trwyddedig yn cael eu gwirio a’u profi gan:

  • Y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS)
  • DVLA
  • Yr Awdurdod Lleol
  • Doctor

Mae’r gwiriadau hyn yn cael eu gwneud er mwyn diogelu’r cyhoedd a sicrhau bod y gyrrwr yn addas a phriodol i yrru cerbydau trwyddedig.

Nid oes unrhyw wiriadau’n cael eu gwneud ar yrwyr didrwydded!

Mae cerbydau trwyddedig yn cael eu profi’n fwy aml na cherbydau arferol, mae cerbydau trwyddedig hefyd yn talu miloedd o bunnoedd y flwyddyn am sicrwydd yswiriant gyda chyfyngiadau ychwanegol i gynnwys teithwyr a bagiau. Mae gwiriadau diogelwch ychwanegol hefyd yn cael eu gwneud gan swyddogion cymwys.

Nid yw’r gwiriadau diogelwch hyn yn cael eu gwneud ar gerbydau didrwydded a heb y drwydded gywir, mae’r yswiriant modur safonol yn aml yn annilys!

6. Ble ydw i’n gallu dod o hyd i dacsi neu gab bychan trwyddedig?

Gallwch ddod o hyd i dacsi neu gab bychan trwy ymweld â safle tacsis neu ofyn i’r dyn/dynes y tu ôl i’r bar yn dafarn am rifau tacsi. Fel arall, defnyddiwch injan chwilio cyffredinol ar-lein a chwilio am dacsis a cherbydau hurio preifat a’ch tref leol agosaf.

7. Beth yw’r gwahaniaeth rhwng tacsi a cherbyd hurio preifat?

Gellir galw cerbydau Hacnai Sir Fynwy, yn aml mae’r rhain yn cael eu galw’n dacsis, yn y stryd neu o safle tacsis. Mae ganddynt olau ‘tacsi’ ar y to. Mae ganddynt blât rhifau melyn unigryw ar y blaen ac ar y cefn/ar y bympars. Mae hefyd blât melyn sgwâr yn y ffenestr flaen.

Rhaid bwcio cerbydau hurio preifat Sir Fynwy, weithiau mae’r rhain yn cael eu galw’n gabiau bychan, ymlaen llaw, naill ai ar y ffôn, ar y we, neu’n bersonol yn swyddfa’r gweithredwr. Nid oes ganddynt olau ar y to. Mae ganddynt blât rhifau gwyn unigryw ar y blaen ac ar y cefn. Mae hefyd blât gwyn sgwâr yn y ffenestr flaen.

(Mae gwahanol gynghorau yn defnyddio platiau o wahanol liwiau)