Skip to Main Content

Mae’r ystod eang o wasanaethau a ddarperir gan y cyngor o ddydd i ddydd, ynghyd ag arbenigedd a gwybodaeth leol swyddogion y cyngor, yn golygu ei fod mewn safle da i gefnogi’r ymateb i argyfwng.

Cynllunio at argyfwng gan awdurdod lleol:

  • Mae’n gosod cynlluniau a gweithdrefnau mewn lle sy’n galluogi cyngor i ymateb, mor effeithiol â phosib, i argyfwng pe bai un yn digwydd
  • Mae’n sicrhau bod y cynlluniau a’r gweithdrefnau hyn yn cydweddu gyda rhai asiantaethau ymateb eraill, megis y gwasnaethau brys, ysbytai, cwmnïau cyfleustodau, asiantaethau gwirfoddol a’r lluoedd arfog.

Gwasanaethau efallai y bydd angen i’r cyngor eu darparu:

  • Gofal cymdeithasol a chwnsela
  • Canolfannau gofal
  • Canolfannau briffio’r cyfryngau
  • Canolfannau gwybodaeth gyhoeddus
  • Porthi neu ddarparu bwyd mewn argyfwng
  • Llety dros dro
  • Gwaith ac atgyweiriadau argyfwng
  • Cefnogaeth cyfathrebu
  • Marwdai dros dro
  • Cludiant
  • Cydlynu’r cyfnod o adferiad
  • Adnoddau

Rydym yn gweithio’n agos gydag awdurdodau lleol cyfagos, y gwasanaethau brys, cwmnïau cyfleustodau a mudiadau gwirfoddol. Rydym yn sicrhau bod yna drefniadau i amddiffyn cymunedau a’r amgylchedd yn Sir Fynwy yn y cyfnod cyn, yn ystod ac ar ôl argyfyngau.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu am gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â:

Rheolwr Cynllunio at Argyfwng
Cyngor Sir Fynwy
Blwch Swyddfa’r Post 106
Cil-y-coed
NP26 9AN

Ffôn: 01633 644091
Ffacs: 01633 644614

Rhif argyfwng ar gyfer galwadau y tu allan i oriau gwaith arferol: 0300 123 1055

E-bost: emergencyplanning@monmouthshire.gov.uk

Mae’r gwasanaethau y gallwn eu darparu yn cynnwys:

  • Cydweithio ar lunio Trefniadau Ymateb i Argyfwng Mawr Gwent, sydd yn amlinellu’r hyn y mae pob asiantaeth yn gyfrifol amdano yn ystod argyfwng
  • Datblygu ac adolygu trefniadau cynllunio ar gyfer argyfwng gyda’r asiantaethau priodol
  • Cynnal cysylltiadau gyda’r asiantaethau eraill hynny a allai fod o gymorth mewn argyfwng
  • Ysgrifennu cynlluniau argyfwng i’n cynorthwyo i gyflawni ein rôl mewn argyfwng
  • Gweithio gydag asiantaethau gwirfoddol a chwmnïau cyfleustodau er mwyn cydlynu ymatebion
  • Ysgrifennu cynlluniau asiantaeth ar y cyd er mwyn ymdopi gyda pheryglon naturiol a dynol
  • Digwyddiadau hyfforddi ac ymarfer ar gyfer awdurdodau lleol ac asiantaethau eraill
  • Sicrhau dibynadwyedd ein rhwydwaith cyfathrebu