Y Fenni
Ffôn: 0800 298 3656 (rhadffôn)
E-bost: d.overland@btinternet.com
Mae Shopmobility Y Fenni wedi’i leoli mewn caban symudol ym maes parcio Stryd Castell Y Fenni. Ffoniwch am gyfarwyddiadau.
Ar agor: 9:30am – 2pm o ddydd Mawrth i ddydd Sadwrn,
Ar gau: Dydd Sul a dydd Llun.
Mae archebu’n hanfodol ar ddydd Mawrth (diwrnod Marchnad Y Fenni)
Trefynwy
Ffôn: 01600 715766
E-bost: dave.oates1@aol.co.uk
Mae Angela Oates a Mike Cox yn rhedeg cynllun Shopmobility Trefynwy o Ganolfan Gymunedol Bridges. Ffoniwch i wirio argaeledd.
Uned 6 Canolfan Bridges,
Trefynwy
NP25 5AS
Ar agor: 10am – 1:30pm Dydd Llun, Dydd Mawrth, Dydd Iau a Dydd Gwener
Ar gau: Dydd Mercher, Dydd Sadwrn a Dydd Sul
Cofrestru
Bydd angen i chi gofrestru cyn defnyddio un o’r cerbydau. I wneud hynny, dewch â dull adnabod gyda chi (bil cyfleustod neu gerdyn adnabod gyda llun) ar eich ymweliad cyntaf. Gofynnir ychydig o gwestiynau i chi a bydd angen i chi lenwi ffurflen. Yna dangosir i chi sut i ddefnyddio’r cerbydau a chewch help i ddewis y cerbyd gorau ar gyfer eich anghenion. Yn olaf cewch gyfarwyddiadau llawn i sicrhau eich bod yn gysurus gyda’r cerbyd ac yn hyderus wrth ei reoli. Mae’r holl broses yn cymryd tua 20 munud ar gyfartaledd.
Os ydych angen allwedd ar gyfer y toiled i’r anabl, galwch heibio eich Siop Un Stop agosaf. Rhoddir allweddi am ddim i bawb sydd â bathodyn glas.