Mae mynd i’r afael ag anghydraddoldeb yn un o’n prif flaenoriaethau. Bob pedair blynedd rydym yn paratoi Cynllun Cydraddoldeb Strategol yn cyflwyno peth o’r dystiolaeth, pam ei bod yn bwysig i ni a’r camau gweithredu y byddwn yn eu cymryd i wneud gwahaniaeth i fywydau pobl. Bydd y cynllun hefyd yn ein galluogi i ddangos ein bod yn cyflawni’r dyletswyddau statudol dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010.
Mae’r ymgynghoriad hwn yn cynnwys 7 amcan ar gyfer y cyfnod 2024-28. Cawsant eu seilio ar ein dadansoddiad dechreuol o’r dystiolaeth. Efallai bod materion eraill y credwch y dylem roi ystyriaeth iddynt. Mae’r ymgynghoriad hwn yn gofyn i chi roi eich sylwadau ar ein hamcanion cydraddoldeb arfaethedig a’r camau gweithredu y byddwn yn eu cymryd.
Gofynnir i chi lenwi’r arolwg ar-lein yma os gwelwch yn dda https://forms.office.com/e/AEfS8aSNbA
Os yw’n well gennych, gallwch argraffu’r arolwg a’i ddychwelyd drwy’r post at: Cydraddoldeb a’r Iaith Gymraeg, Cyngor Sir Fynwy, Neuadd y Sir, Y Rhadyr, Brynbuga, Sir Fynwy, NP15 1GA.
Gallwch hefyd ofyn am fersiwn papur o’r arolwg drwy anfon e-bost at equality@monmouthshire.gov.uk neu ffonio 01633 644644.
Ar ôl eu llenwi, gallwch ddychwelyd copïau papur i’ch hyb cymunedol agosaf. Mae manylion lleoliadau ac oriau agor ar gael yn: Hybiau Cymunedol Sir Fynwy – Oriau agor – Monmouthshire