Mae’r cynllun cludiant cymunedol “grass routes” yn wasanaeth bws hyblyg sy’n ymateb i alw. Mae’r gwasanaeth yn defnyddio bysiau llawr isel sy’n gwbl hygyrch ac sy’n cael eu gyrru gan yrwyr gwirfoddol. Mae’r cynllun yn gweithredu ar sail aelodaeth ac yn agored i bob aelod o’r gymuned.
Dewch yn aelod
I ddod yn aelod, mae’n rhaid i chi gwblhau ffurflen gais. Mae ffurflenni ar gael i’w lawrlwytho ac ym mhob siop un stop, neu gellir eu cael drwy ffonio 0800 085 8015.
Manylion y cynllun
I drefnu taith ar y bws, yr unig beth sydd angen i aelodau ei wneud yw galw rhif ffôn rhad ac am ddim: 0800 085 8015. Ffoniwch rhwng 9am a 4.30pm, pan fydd y llinell yn cael ei staffio, ac o leiaf 24 awr ymlaen llaw, i fwcio’ch siwrnai gyda chydlynydd y cynllun.
Mae bysiau yn rhedeg yn rheolaidd rhwng y prif drefi, gan ddilyn llwybrau sy’n hyblyg ac yn dibynnu ar y galw. Mae’r bysiau yn gweithredu rhwng 9am a 4.30pm o ddydd Llun i ddydd Gwener, gyda’r union amser yn dibynnu ar y llwybr y mae pob bws yn dilyn. Gwasanaethir pob prif dref yn Sir Fynwy ac ardaloedd anghysbell.
Cost aelodaeth yw taliad untro o £5.00 y cartref (hyd at bedwar aelod).
Mae pob taith yn costio £2.75 i oedolion ac £1.35 i blant, gyda’r pris hwn yn cynnwys taith sengl a dychwelyd ar y diwrnod dan sylw. Mae tocynnau mantais yn cael eu derbyn bellach ar bob gwasanaeth y cynllun.
O 21 Tachwedd 2011, bydd y cynllun cludiant cymunedol yn dechrau gwasanaeth bws yn gynnar yn y bore a chyda’r nos i’r orsaf trenau Cyffordd Twnnel Hafren ym Magwyr.