Skip to Main Content

Mae cynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor wedi disodli Budd-dal y Dreth Gyngor o 1 Ebrill 2013 ymlaen. Mae Llywodraeth y DU wedi lleihau’r cyllid ar gyfer y cynllun newydd 10 y cant ac wedi datganoli’r cyfrifoldeb amdano i Lywodraeth Cymru.

Mae cynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor yn helpu pobl ag incwm isel i dalu’r Dreth Gyngor. Gallwch wneud cais p’un a ydych yn rhentu eich cartref neu’n berchen arno, neu’n byw heb orfod talu rhent. Yng Nghymru, yr uchafswm y gall hawlwyr cymwys ei gael yw 100 y cant o’r Dreth Gyngor. Mae hyn yn unol â chynllun blaenorol Budd-dal y Dreth Gyngor ac yn golygu am2014/15 y bydd rhai sy’n talu’r Dreth Gyngor yn parhau i gael unrhyw fudd-dal y mae ganddynt hawl i’w gael yn seiliedig ar y swm llawn.

Mae’r gostyngiad y byddwch yn ei gael yn dibynnu ar eich incwm ac amgylchiadau’r aelwyd. Gallech fod yn gymwys os ydych yn cael budd-daliadau neu’n gweithio am gyflog isel. Os oes gennych dros £16,000 o gynilion, ni allwch gael Gostyngiad y Dreth Gyngor, fel arfer.

Os oes gennych hawl i gael Gostyngiad y Dreth Gyngor, caiff eich bil y Dreth Gyngor ei leihau.

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am Gynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor, ffoniwch ni ar 0800 028 2569 (rhadffôn). Byddwn hefyd yn gallu rhoi syniad i chi o b’un a ydych yn gymwys i gael un o’r budd-daliadau hyn ai peidio.

Ar lein

Darperir ein gwasanaeth Budd-daliadau gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen. A fyddech cystal â mynd i’r dudalena dewis ‘Hawlio Budd-daliadau Ar lein’ i weld a oes gennych hawl i dderbyn neu i hawlio Budd-dal Tai neu Ostyngiad Treth y Cyngor.