Skip to Main Content

Mae’r cymhwyster hwn yn ddelfrydol i unrhyw un sy’n gweithio yn y diwydiant arlwyo a lletygarwch (neu’r rhai sydd ar fin dechrau gweithio yn y diwydiant). Mae’r pynciau a astudir yn cynnwys peryglon a rheolaethau, rheoli diogelwch bwyd, rheoli tymereddau, gwenwyn bwyd, hylendid personol, glanhau a diheintio, plâu bwyd, a rôl yr unigolyn sy’n trin bwyd wrth gadw bwyd yn ddiogel.

Mae Cymhwyster HABC Lefel 2 Diogelwch Bwyd mewn Arlwyo (QCF) yn cael ei achredu a’i gydnabod yn rhyngwladol, a chafodd ei ddatblygu i ddiogelu cwsmeriaid, enw da’r brand ac elw.

Fel arfer un diwrnod, mewn ystafell ddosbarth. Fodd bynnag, gellir ei gyflawni hefyd trwy amrywiaeth o ddulliau eraill, cyn belled â bod yr oriau dysgu yn cael eu cwblhau. Argymhellir gwblhau’r cymhwyster hwn o leiaf bob tair blynedd.

Unrhyw un sy’n gweithio mewn lleoliad arlwyo, gweithgynhyrchu neu fanwerthu lle mae bwyd yn cael ei baratoi, ei goginio a’i drin. Gall hyn gynnwys tafarndai, gwestai, bwytai, archfarchnadoedd ac amgylcheddau manwerthu, ysbytai, cartrefi gofal, ysgolion, carchardai.

Mae gan bawb sy’n gweithio gyda bwyd, gyfrifoldeb i ddiogelu iechyd cwsmeriaid a sicrhau bod y bwyd sy’n cael ei weini neu ei werthu yn ddiogel i’w fwyta.

Trwy arholiad amlddewis, rhaid ateb o leiaf 13 allan o 20 cwestiwn yn gywir. Bydd yr arholiad yn cymryd 45 munud ar y mwyaf. Mae papurau ar gael yn Saesneg, Thai, Dari, Arabeg, Pwyleg a Chymraeg. Rhaid gofyn am ieithoedd eraill ymlaen llaw.

Gallwch symud ymlaen i unrhyw Gymhwyster HABC Diogelwch Bwyd Lefel 3, yn ddelfrydol os ydych chi eisiau gweithio mewn rôl oruchwylio.

Dydd Mercher 24 Mehefin 2026 (9.30-17:00)

Canolfan Hyfforddi Rhaglan, (Depo Cyngor Sir Fynwy),
Heol yr Orsaf, Rhaglan, Sir Fynwy, NP15 2ER

I archebu lle, cysylltwch ar:Iechyd yr Amgylchedd: 01873 735420  

E-bost: Environmentalhealth@monmouthshire.gov.uk

Ffi’r Cwrs:£62.30 y pen

Sylwer: Mae canolfannau hyfforddi eraill yn cynnig cyrsiau hyfforddi achrededig.

  • Dealltwriaeth gadarn o bwysigrwydd diogelwch bwyd, gwybodaeth am systemau, technegau a gweithdrefnau.
  • Deall sut i reoli risgiau diogelwch bwyd (hylendid personol, storio bwyd, ei goginio a’i drin).
  • Hyder ac arbenigedd i ddarparu bwyd o safon yn ddiogel i gwsmeriaid.