Skip to Main Content

C. A yw fy musnes yn cael agor?

A. Ceir rhestr lawn o fusnesau y mae’n ofynnol iddynt gau yn y Rheoliadau. Mae’r rheoliadau’n cynnwys rhestr o fusnesau a gwasanaethau y mae eu hadeiladau yn ddarostyngedig i gyfyngiadau neu fod rhaid cau eu safleoedd. Mae’r rhestr i’w gweld ar dudalen 36 o’r rheoliadau.

C. Pryd y caniateir i’m busnes ar gau i ailagor?

A. Deallwn y bydd angen i fusnesau gynllunio i ailagor.

Bydd y mesurau hyn ar waith o 6pm ddydd Gwener 23 Hydref tan ddechrau dydd Llun 9 Tachwedd 2020. Gall eich busnes ailagor am 00:01 ddydd Llun 9 Tachwedd.

C. A oes disgwyl i fusnesau nad ydynt yn hanfodol i gau i atal pob weithred erbyn 6pm ddydd Gwener?

A. Ydy. Daw’r rheoliadau i rym am 6pm ddydd Gwener

C. Beth fydd yn digwydd wedyn?

A. Ar ôl diwedd y cyfnod atal byr, cyflwynir set newydd o reolau cenedlaethol, yn cwmpasu sut y gall pobl gyfarfod a sut mae’r sector cyhoeddus a busnesau’n gweithredu.

Busnesau sydd Angen Cau – Cymorth

C: Pa dystiolaeth sydd bod manwerthu nad yw’n hanfodol yn cyfrannu at y niferoedd cynyddol?

A. Rydym yn cydnabod yr ymdrechion enfawr y mae busnesau wedi’u gwneud i ddod yn fannau diogel. Nid yw’r gofyniad hwn i gau yn ystod y cyfnod atal byr yn

adlewyrchiad o’r ymdrechion hynny a gwerthfawrogwn mai dim ond cyfraniad isel neu gymedrol y mae rhai amgylcheddau busnes yn ei wneud i’r risg o drosglwyddo’r feirws. Ond ar hyn o bryd, mae lleihau unrhyw gyfraniad at ledaeniad y feirws yn bwysig, a dyna pam rydym yn ei gwneud yn ofynnol i rai busnesau gau dros dro.

C. Pa gymorth sydd ar gael i fusnesau y mae’n ofynnol iddynt gau?

A. Datblygwyd pecyn cymorth gan Lywodraeth Cymru yn ogystal â chymorth a ddarperir gan Lywodraeth y DU.

Bydd busnesau y mae’r cyfnod atal byr yn effeithio arnynt yn cael eu cefnogi gan gronfa newydd gwerth £300 miliwn, a fydd yn agor yr wythnos nesaf:

· Bydd pob busnes a gwmpesir gan y rhyddhad ardrethi busnesau bach yn cael taliad o £1,000.· Bydd busnesau manwerthu, hamdden a lletygarwch bach a chanolig eu maint, y mae’n rhaid iddynt gau, yn cael taliad untro o hyd at £5,000.· Bydd grantiau dewisol ychwanegol a chymorth i fusnesau llai, sy’n ei chael yn anodd, ar gael hefyd.· Bydd y gronfa o £80 miliwn a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf i helpu busnesau i ddatblygu yn y tymor hwy yn cynyddu i £100 miliwn, sy’n cynnwys £20 miliwn wedi’i neilltuo ar gyfer twristiaeth a lletygarwch.

Bydd busnesau hefyd yn gallu cael gafael ar y cymorth sydd ar gael drwy’r Cynllun Cadw Swyddi presennol neu’r Cynllun Cymorth Swyddi estynedig newydd.

Gallwch gyrchu Cymorth COVID-19 i’ch busnes yma

C. A oes unrhyw gymorth i les meddyliol staff yn ystod y cyfnod hwn?

A. Fel Llywodraeth mae lles pawb yn ystod y cyfnod hwn yn hollbwysig i ni. Gellir dod o hyd i gyngor i gyflogwyr a chyflogeion yma https://phw.nhs.wales/services-and-teams/healthy-working-wales/

Busnesau sydd Angen Cau – Cyfyngiadau Masnachu

C. Beth yw’r rheolau ar gyfer busnesau nad ydynt yn hanfodol?

A. Ni allwch agor eich safle i’r cyhoedd. Fodd bynnag, gallwch wneud gwaith cynnal a chadw ac atgyweirio neu waith arall i sicrhau bod eich safle’n addas i’w ddefnyddio

unwaith y bydd cyfyngiadau’n cael eu llacio. Gweler y wybodaeth yn ein canllawiau ar-lein.

C. A all canolfannau garddio barhau i weithredu?

Ymateb Llywodraeth Cymru i Gwestiynau Cyffredin – 23/10/2020 Diweddariadau ychwanegol i ddilyn wrth i gwestiynau pellach gael eu cyflwyno.

A. Na, mae’n ofynnol i ganolfannau garddio gau.

C. Beth os oes gan fy nghanolfan arddio neuadd fwyd, a all hynny aros ar agor?

A. Mae’n ofynnol i ganolfannau garddio gau ond gallant weithredu gwasanaethau dosbarthu.

C. Mae fy musnes ar y rhestr sydd angen cau, pa fasnach y gallwn wneud?

A. Rhaid i’ch safle aros ar gau i’r cyhoedd ond gallwch weithredu gwasanaeth dosbarthu.

C. A allwn barhau i weithredu gwasanaeth trwsio ar gyfer trydanwaith defnyddwyr a mynd i gartref cwsmer i atgyweirio offer allweddol?

A. Gallwch, mae atgyweiriadau brys yn rheswm dilys dros wneud gwaith yng nghartref rhywun. Dim ond os yw’n fater brys neu i drwsio nam sy’n peri risg uniongyrchol i ddiogelwch pobl y gellir gwneud gwaith y tu mewn i gartrefi pobl eraill – er enghraifft, gwaith plymio brys neu wneud addasiad i ganiatáu i’r aelwyd honno aros yn ei heiddo, neu os yw’r eiddo’n wag. Ni ddylid gwneud gwaith yn nhŷ rhywun arall os yw’r gweithiwr neu unrhyw aelod o’r cartref yn hunan-ynysu neu’n dangos symptomau COVID-19, waeth pa mor ysgafn.

Busnesau sy’n Aros ar Agor – Teithio gan Staff a Lletya Staff

C. Mae fy musnes yn cael ei ystyried yn hanfodol a bydd yn parhau ar agor. A all fy ngweithwyr deithio i’r gwaith?

A. Gallant, ystyrir bod teithio i’r gwaith yn rheswm rhesymol dros deithio. Dylid cefnogi unrhyw staff sy’n gallu gwneud dyletswyddau o gartref i wneud hynny lle bo hynny’n rhesymol ac yn ymarferol. Os na all eich staff weithio gartref yn effeithiol, nid ydynt yn arddangos symptomau COVID ac nid yw’n ofynnol i’ch busnes gau, gall eich staff fod yn dawel eu meddwl y gallant deithio i’r gwaith yn ddiogel ac yn gyfreithlon.

Rydym yn cydnabod na all pobl mewn rhai sectorau, megis gweithgynhyrchu ac adeiladu, weithio gartref.

Rydym yn annog gweithwyr a chyflogwyr yn y sectorau hyn i barhau i wneud popeth posibl i weithredu’n ddiogel a lleihau lledaeniad y feirws yn ystod y cyfnod atal byr.

Nid yw’n ofynnol i’ch staff gario llythyr i ddangos eu bod yn weithwyr allweddol.

C. Mae ein staff yn teithio i weithio ac mae angen iddynt aros mewn llety dros nos at ddibenion gwaith – allwn ni archebu llety dros nos?

A. Mae’n ofynnol i westai a llety tebyg eraill i gau ond gallant ddarparu gwasanaethau yn unol â chyfarwyddyd Gweinidogion Cymru neu awdurdodau lleol. Gweithwyr allweddol, a’r rheini sy’n gweithio mewn sectorau a all aros ar agor ond nad yw gweithio gartref yn hyfyw ar eu cyfer, megis ar gyfer chwaraeon proffesiynol.

Bydd angen i fusnesau siarad â’u hawdurdod lleol i gadarnhau’r rheolau yn eu hardal.

C. A all ffreutur y staff aros ar agor?

A. Dim ond os nad oes dewis ymarferol arall i staff yn y gweithle hwnnw gael bwyd, y gall ffreuturau staff aros ar agor.

Busnesau sy’n Aros ar Agor – Gweithredu

C. O ble y gall fy nghwsmeriaid arferol deithio?

A. Cynghorir pobl i osgoi teithio diangen a theithio i’w cyrchfan siopa agosaf ar gyfer eu hanghenion siopa hanfodol. Mae’r angen i aros o fewn ffiniau bwrdeistref sirol wedi’i ddileu yn ystof y cyfnod atal byr.

C. Alla i fasnachu ar sail Clicio a Chasglu / Casgliadau gan Gwsmeriaid?

A. Gallwch, ond dim ond os caniateir i’ch busnes aros ar agor a darparu system ddiogel o gynnal ymbellhau cymdeithasol ac nad yw’r cwsmer yn mynd i mewn i’ch safle.

C. A ellir casglu eitemau nad ydynt yn hanfodol a archebir ar-lein drwy glicio a chasglu yn y siop, os yw cwsmer yn y siop yn gwneud pryniannau hanfodol?

A. Dim ond siopau y caniateir iddynt fod ar agor a all barhau i gynnig gwasanaethau clicio a chasglu, a dim ond ar gyfer eitemau y caniateir eu gwerthu yn y siop y dylai’r gwasanaethau hyn fod ar gael, lle y bo’n bosibl. Gweler ein canllawiau ar-lein o ran gwasanaethau clicio a chasglu.

C. Alla i wneud danfoniadau i’m cwsmeriaid?

A. Cewch, caniateir danfon nwyddau i gwsmeriaid. Caniateir i bwyntiau gollwng danfoniadau aros ar agor hefyd.

C. Caniateir i’m busnes manwerthu aros ar agor. A oes cyfyngiadau ar y nwyddau y caniateir i ni werthu?

A. Oes, cyfeiriwch at ein canllawiau ar-lein i gael eglurhad.

C. A all siopau DIY, fel gwerthwyr haearn a masnachwyr adeiladu aros ar agor?

A. Gallant, mae siopau DIY yn allweddol i ganiatáu gwaith atgyweirio hanfodol i adeiladau a gwaith adeiladu arall. Fodd bynnag, lle bynnag y bo’n bosibl dylai pobl osgoi ymweliadau diangen â’r rhain, a defnyddio dulliau amgen fel gwasanaethau a dosbarthu ar-lein.

C. A all manwerthwyr hanfodol barhau i agor os ydynt o fewn canolfannau siopa y mae’n ofynnol iddynt gau?

A. Ydy. Gall manwerthwyr hanfodol barhau i fasnachu, hyd yn oed os ydynt o fewn canolfannau siopa.

C. A all siopau papurau newyddion aros ar agor? Yn aml, mae siopau papurau newyddion yn gartref i swyddfeydd post.

A. Gallant, caniateir i siopau papurau newyddion aros ar agor.

C. A all siopau beiciau aros ar agor?

A. Gallant, caniateir i siopau beiciau aros ar agor.

C. A all manwerthwyr sy’n cael aros yn agored werthu nwyddau nad ydynt yn hanfodol?

A. Cyfeiriwch at ein canllawiau ar-lein i gael eglurhad.

C. A all prosiectau adeiladu barhau?

A. Gallant, ni fu’n ofynnol i’r sector adeiladu gau. Gall prosiectau adeiladu barhau.

C. A all cwmnïau llogi peiriannau aros ar agor?

A. Gallant, gall cyflenwyr i’r diwydiant adeiladu aros ar agor.

C. A ellir mynd â nwyddau i gartref cwsmer?

A. Ie, gall hyn ddigwydd ar yr amod ei fod yn cael ei reoli mewn ffordd ddiogel a bod y gweithiwr ac aelodau’r cartref yn iach ac nad oes ganddynt unrhyw symptomau o glefyd y coronafeirws. Fodd bynnag, rydym yn argymell bod pobl yn ystyried a ellir gohirio’r gwaith yn ddiogel tan ar ôl y cyfnod atal byr hwn.

Cyfeiriwch at ein canllawiau ar-lein ar ‘waith a wneir yng nghartrefi pobl’ i gael eglurhad.

Busnesau Bwyd, gan gynnwys archfarchnadoedd

C. A all cwsmeriaid brynu bwyd a diod i fynd i’w bwyta oddi ar y safle?

A. Nid yw’n ofynnol i fanwerthwyr bwyd, gan gynnwys marchnadoedd bwyd, archfarchnadoedd, siopau cyfleustra, siopau cornel a sefydliadau sy’n gwerthu bwyd neu ddiod, i’w bwyta oddi ar y safle, i gau.

Nid yw cwsmeriaid yn gallu bwyta nac yfed y nwyddau ar y safle. Yn hytrach, gall cwsmeriaid brynu bwyd a diod i’w fwyta oddi ar y safle drwy brydau tecawê, gyrru-trwodd, danfoniadau a gwasanaethau clicio a chasglu.

Ymateb Llywodraeth Cymru i Gwestiynau Cyffredin – 23/10/2020 Diweddariadau ychwanegol i ddilyn wrth i gwestiynau pellach gael eu cyflwyno.

Dylid darparu’r rhain mewn ffordd ddiogel o ran Covid. Ni ddylai cwsmeriaid deithio’n bell i fynd i siopau tecawê.

C. A all tryciau coffi-i-fynd a faniau byrgers aros ar agor?

A. Gallant, ond dylid darparu’r rhain mewn ffordd ddiogel o ran Covid. Ni ddylai cwsmeriaid deithio’n bell i fynd i siopau tecawê.

C. Rydym yn fanwerthwr hanfodol. Allwn ni barhau i werthu pob nwydd?

A. Ni ellir gwerthu na darparu alcohol rhwng 10.00p.m. a 6.00a.m.

Cymorth gall y Sector Manwerthu gynnig

C. Pa gymorth y gall manwerthwyr ei ddarparu?

A. Mae’r cyfnod atal byr am gyfnod byr a diffiniedig o amser. Gobeithiwn y bydd manwerthwyr hanfodol yn parhau i ddarparu negeseuon clir.

Gofynnwn i chi wneud y canlynol: · parhau i weithredu’n gyfrifol er budd eich cwsmeriaid a’ch staff · adolygu eich gweithdrefnau iechyd a diogelwch er mwyn sicrhau eich bod yn cynnal y safonau hylendid ac ymbellhau angenrheidiol · sicrhau bod gan eich cwsmeriaid ganllawiau clir ar sut i fynd i mewn, symud trwodd ac ymadael â’ch safle er mwyn cynnal ymbellhau cymdeithasol · lle bo angen, disodlwch neu gosodwch arwyddion clir ar ymbellhau cymdeithasol a gwisgo masgiau · parhau i ddarparu cyfleusterau diheintio dwylo, basgedi a throlïau.

Gwybodaeth i Weithiwr / Gweithwyr Hunangyflogedig am y cyfnod atal byr

C. Rwy’n gweithio mewn busnes a fydd yn cael ei orfodi i gau/sy’n cael ei effeithio ar y rheoliadau hyn. A oes cymorth ariannol ar gael i gefnogi fy swydd?

A. Dylai busnesau cymwys, y mae Covid-19 effeithio arnynt, gael mynediad at y cymorth sydd ar gael oddi wrth Lywodraeth y DU drwy’r Cynllun Cadw Swyddi presennol neu’r Cynllun Cymorth Swyddi estynedig newydd.

Yn ogystal, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi pecyn cynhwysfawr o gymorth ariannol, gan gynnwys y Gronfa Cadernid Economaidd gwerth £300 miliwn a fydd ar agor ar gyfer ceisiadau o’r wythnos sy’n dechrau ar 26 Hydref 2020.

C. Rwyf ar gontract dim oriau ac mae fy nghyflogwr newydd ddweud wrthyf na fydd gennyf unrhyw waith yn ystod y cyfnod atal byr, beth allaf wneud?

Ymateb Llywodraeth Cymru i Gwestiynau Cyffredin – 23/10/2020 Diweddariadau ychwanegol i ddilyn wrth i gwestiynau pellach gael eu cyflwyno.

A. Efallai y gallwch gael cymorth drwy’r Gronfa Cymorth Dewisol. Rydym wedi llacio’r rheolau ynghylch Taliadau Cymorth Brys o dan y Gronfa Cymorth Dewisol er mwyn cefnogi’n well y bobl y mae Covid-19 wedi effeithio arnynt. Os ydych yn cael llai o waith neu ddim gwaith oherwydd Covid-19, gallwch hefyd wneud cais am Gredyd Cynhwysol.

C. Rwy’n hunangyflogedig/yn llawrydd a fydd yn rhaid rhoi’r gorau i weithio oherwydd y cyfnod atal byr, a ydw i’n gymwys i gael unrhyw gymorth neu grantiau?

A. Efallai y byddwch yn gymwys i hawlio cymorth ariannol drwy’r Cynllun Cymorth Incwm Hunangyflogaeth. Yn ogystal, gall gweithwyr llawrydd sy’n gweithio yn y sectorau diwylliannol a chreadigol yng Nghymru wneud cais drwy’r Gronfa Adfer Diwylliannol sydd wedi’i thargedu’n benodol at y rhai yn y sector llawrydd sy’n cael eu taro caletaf gan Covid-19.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn darparu £25m i awdurdodau lleol ddarparu grant dewisol i fusnesau sydd wedi’u cau neu wedi’u heffeithio’n sylweddol, nad ydynt yn

talu ardrethi busnes ac felly nad ydynt yn gymwys i gael grantiau sy’n gysylltiedig ag Ardrethi Annomestig. Bydd busnesau cymwys yn gallu gwneud cais am grant o £1.5 mil, a bydd y rhai sydd wedi bod yn destun 21 diwrnod neu fwy o gyfyngiadau lleol cyn y cyfnod atal byr cenedlaethol yn gymwys i gael £500 ychwanegol.

C. Dydw i ddim yn siŵr pa mor agored i niwed ydw i, o ran mynd yn ddifrifol wael o glefyd y coronaferiws ac a ddylai fy mhennaeth wneud newidiadau i’r gwaith rwy’n ei wneud er mwyn ei wneud yn fwy diogel i mi – beth ddylwn i wneud?

A. Dylech wirio a ydych mewn mwy o berygl o symptomau mwy difrifol os byddwch yn dod i gysylltiad â Covid-19 drwy gwblhau’r offeryn asesu risg gweithlu Covid-19 (dolen isod). Dylech drafod y canlyniadau gyda’ch cyflogwr fel y gallant gymryd camau priodol yn seiliedig ar lefel eich risg. Dylech hefyd siarad â chynrychiolydd eich Undeb Llafur os ydych yn aelod o Undeb. https://gov.wales/sites/default/files/publications/2020-08/adnodd-asesu-risg-covid-19-ar-gyfer-y-gweithlu-iechyd-2020-08-12.pdf

C. Credaf y bydd y rheoliadau hyn yn effeithio’n ddifrifol ar fy incwm – ble alla i gael cymorth ariannol?

A. Efallai y gallwch gael cymorth drwy’r Gronfa Cymorth Dewisol. Rydym wedi llacio’r rheolau ynghylch Taliadau Cymorth Brys o dan y Gronfa Cymorth Dewisol er mwyn cefnogi’n well y bobl y mae Covid-19 wedi effeithio arnynt. Os ydych yn cael llai o waith neu ddim gwaith oherwydd Covid-19, gallwch hefyd wneud cais am Gredyd Cynhwysol.

C. Mae fy nghyflogwr wedi cael cyllid gan Lywodraeth Cymru ond mae bellach yn dileu swyddi, beth ddylwn i wneud?

Ymateb Llywodraeth Cymru i Gwestiynau Cyffredin – 23/10/2020 Diweddariadau ychwanegol i ddilyn wrth i gwestiynau pellach gael eu cyflwyno.

A. Bydd angen i unrhyw gyflogwr sy’n cael cyllid gan Lywodraeth Cymru barhau i fodloni’r amodau sydd ynghlwm wrth y cyllid hwnnw. Bydd yr amodau sy’n gysylltiedig â chyllid yn amrywio ac nid ydynt o reidrwydd yn atal cyflogwr rhag dileu swyddi.

C. Mae fy nghyflogwr wedi cael cyllid gan Lywodraeth Cymru ond mae’n gwrthod rhoi fi ar ffyrlo, beth ddylwn i wneud?

A. Mae’r Cynllun Cadw Swyddi a’r Cynllun Cymorth Swyddi olynol yno i gynorthwyo cyflogwyr i fodloni’r galw am gyflogau ar gyfer cyflogeion nad oes ganddynt ddigon o waith. Mae’r defnydd o’r cynlluniau hyn yn ôl disgresiwn y cyflogwyr ac nid ydynt yn amodol ar gyllid Llywodraeth Cymru. Fodd bynnag, disgwyliwn i gyflogwyr ddefnyddio cyfuniad o’r holl gymorth sydd ar gael ar lefel y DU a Chymru i ddiogelu cynifer o swyddi ag sy’n bosibl. Gallwch ofyn pam na fydd eich cyflogwr yn eich rhoi ar ffyrlo a/neu gallwch geisio cefnogaeth eich Undeb Llafur.

C. Fe’m cynghorwyd yn flaenorol i amddiffyn pan ar ffyrlo. Nawr mae fy nghyflogwr yn dweud na allaf weithio o gartref, beth allaf wneud?

A. Mae gan eich cyflogwr ddyletswydd gofal i ddiogelu eich iechyd a’ch diogelwch yn y gwaith ac mae hyn yn cynnwys deall a ydych mewn categori risg uwch. Os na allwch ddod o hyd i ateb gyda’ch cyflogwr a theimlwch fod eich iechyd a’ch diogelwch yn cael ei beryglu, yna dylech gysylltu â’ch Undeb Llafur (os ydych yn aelod) neu ofyn am gyngor ar eich hawliau yn y gwaith gan ACAS https://www.acas.org.uk/.

C. Rwy’n ddechreuwr newydd / doeddwn i ddim ar ffyrlo o’r blaen ac erbyn hyn nid yw fy nghyflogwr yn gymwys ar gyfer y Cynllun Cadw Swyddi ond mae’n rhaid iddo/mae’n dewis cau, beth yw fy opsiynau?

A. Rydym wedi gofyn i Lywodraeth y DU symud dyddiad dechrau’r Cynllun Cymorth Swyddi ymlaen er mwyn atal busnesau rhag gorfod llywio dwy system a sicrhau bod cymorth ar waith ar gyfer y swyddi hynny nad oeddent ar ffyrlo o’r blaen. Cynigiwyd

gwneud iawn am y gwahaniaeth mewn cyllid ond mae Llywodraeth y DU wedi gwrthod y cais hwn.

Rydym yn dal yn bryderus na fydd rhai swyddi’n bodloni’r meini prawf cymhwysedd i’w cofrestru ar y Cynllun Cadw Swyddi ar gyfer ei wythnos olaf o weithredu. Rydym wedi gofyn i Lywodraeth y DU hepgor y gofyniad i gyflogeion, yr hawlir Cynllun Cadw Swyddi ar eu cyfer am y cyfnod hwn, fod wedi cael eu rhoi ar ffyrlo’n flaenorol.

Rydym yn cydnabod y bydd cyflogwyr heb incwm, oherwydd ei bod yn ofynnol iddynt gau, yn wynebu’r penderfyniad anodd o dalu costau cyflog neu ddileu swyddi. Byddem yn disgwyl i gyflogwyr ddefnyddio ein Cronfa Cadernid Economaidd i ddiogelu cynifer o swyddi â phosibl.

Ar 22 Hydref cyhoeddodd Llywodraeth y DU rai newidiadau i’r Cynllun Cymorth Swyddi gwreiddiol sy’n ymestyn cymorth i fusnesau nad yw’n ofynnol iddynt gau’n gyfreithiol ond sy’n dioddef effaith sylweddol oherwydd y cyfyngiadau.

Ymateb Llywodraeth Cymru i Gwestiynau Cyffredin – 23/10/2020 Diweddariadau ychwanegol i ddilyn wrth i gwestiynau pellach gael eu cyflwyno. https://www.gov.uk/government/news/plan-for-jobs-chancellor-increasesfinancial-support-for-busine