Skip to Main Content

Ble ydych chi nawr a ble hoffech chi fod?

“Rwyf eisiau recriwtio 5 gweithiwr cyfreithiol proffesiynol i ymuno â’n hadran gyfreithiol wych. Mae fy ffordd o feddwl yn eithaf syml, mae gennym ddyletswydd i bobl Sir Fynwy a’u cynrychiolwyr etholedig i ddarparu gwasanaeth i’r Sir, a’r ffordd orau o wneud hyn yw cael pobl wych i’r sefydliad, eu darparu i fod y gweithwyr proffesiynol maent eisiau bod a chydweithio i ddarparu gwasanaeth gwych. Mae gweithio yma yn bleser go iawn, mae’n lleoliad dymunol a modern gyda’r adnoddau a’r systemau diweddaraf, ffordd o feddwl yn canolbwyntio ar allbwn, yn hytrach nag edrych ar y cloc neu reolwyr llawdrwm, a gweithio gyda phobl hyfryd. Mae fy ffocws recriwtio ar y gwaith cyfraith teulu a wnawn, yn neilltuol yng nghyswllt gwasanaethau plant. Rwyf wedi gweithio gyda’r tîm i sefydlu’r hyn rydym ei angen i fod yn ardderchog a dyna pham rwyf eisiau 2 Gyfreithiwr a 3 Paragyfreithiwr i ymuno â ni i sicrhau fod gennym y person cywir ond hefyd y trefniant cywir sy’n galluogi pob unigolyn i fod cystal ag y medrant fod.

Os oes gennych ddiddordeb mewn canfod mwy am y cyfleoedd hyn cliciwch ar y disgrifiadau swydd islaw neu anfon gair ataf yn matthewphillips@monmouthshire.gov.uk , @MattPhillipsMCC neu linkedin.com/in/matt-phillips.”

Pennaeth Cyfreithiol a Swyddog Monitro