Skip to Main Content

Yn gyffredinol, cyflenwad dŵr preifat yw unrhyw gyflenwad dŵr nad cwmni dŵr sy’n ei ddarparu. Nid yw felly yn ‘brif’ gyflenwad. Ni thelir trethi dŵr am y mathau hyn o gyflenwadau er y gall y person sy’n berchen cyflenwad godi tâl amdano. Fel arfer mae cyflenwad dŵr preifat yn tarddu o un o’r ffynonellau dilynol:

  • Ffynhonnau
  • Tyllau turio
  • Nentydd
  • Pydewau
  • Afonydd
  • Llynnoedd neu byllau ac ati

Fel ardal wledig, mae gan Sir Fynwy nifer o’r rhain sydd fel arfer yn ardaloedd mwy gwledig y sir. Amcangyfrifir fod gan tua 1% o boblogaeth Lloegr a Chymru gyflenwadau dŵr preifat i’w cartrefi (Arolygiaeth Dŵr Yfed, 2003). Yn Sir Fynwy, mae tua mil o leoedd yn derbyn cyflenwad dŵr preifat.

Gallai cyflenwad dŵr preifat wasanaethu un adeilad masnachol neu ddomestig yn unig, neu gallai fod yn gyflenwad mwy gyda rhwydwaith fawr o bibelli’n cyflenwi dŵr i lawer o adeiladau.

Mae hefyd yn cynnwys cyflenwad a ddarperir ar gyfer diben potelu dŵr. Fodd bynnag, mae Rheoliadau Dŵr Mwynol Naturiol, Dŵr Ffynnon a Dŵr Yfed mewn Potel (Cymru) 2007 yn weithredol pan gaiff dŵr ei botelu ar gyfer ei werthu.

I gael mwy o gyngor neu i drefnu profi eich dŵr, cysylltwch ag iechyd yr amgylchedd.

Rheoliadau newydd cyflenwad dŵr preifat – yr hyn sydd angen i chi ei wybod

Nod y Rheoliadau Cyflenwadau Dŵr Preifat (Cymru) 2010 yw diogelu iechyd gan eu bod yn golygu fod angen yr un safonau ansawdd dŵr â’r prif gyflenwad dŵr.

Mae’r Rheoliadau’n ei gwneud yn ofynnol i gynnal asesiad risg ar bob cyflenwad (heblaw cyflenwadau i anheddau unigol) fel bod ei raglen monitro yn cyfateb â’r risg y mae’r cyflenwad yn ei gyflwyno i iechyd. Mae’r asesiad risg yn seiliedig ar ffactorau megis ffynhonnell cyflenwad, yr ardal y daw’r dŵr ohono a nifer y defnyddwyr.

Mae’r rheoliadau yn effeithio ar bob cyflenwad preifat er mai dim ond os gwneir cais y cynhelir asesiad risg a samplau ar gyflenwadau  un annedd yn unig.

O fewn 5 mlynedd, mae’n rhaid i’r cyngor gwblhau’r asesiadau risg ar gyfer pob cyflenwad yn ei ardal (heblaw cyflenwadau i anheddau sengl).

Mae dyletswydd ar y cyngor i fonitro’n rheolaidd y cyflenwadau a ddefnyddir fel rhan o weithgaredd masnachol neu gyhoeddus ac ar gyfer cyflenwadau stad pentref sy’n gwasanaethu 50 neu mwy o bobl y dydd.

Beth yw cyfrifoldebau’r cyngor?

Monitro

Mae’r Rheoliadau’n ei gwneud yn ofynnol i’r Cyngor fonitro cyflenwadau dŵr preifat. Byddwn yn defnyddio’r Rheoliadau i ddatblygu ein rhaglen samplo flynyddol, fel sy’n dilyn:

  • Ar gyfer cyflenwadau bach (o lai na 10 metr ciwbig y dydd), mae’r monitro yn seiliedig ar ganfyddiadau’r asesiad risg.
  • Caiff cyflenwadau mwy (dros 10 metr ciwbig y dydd) a chyflenwadau i safleoedd masnachol a chyhoeddus eu monitro o’r flwyddyn gyntaf.

Gwybodaeth

Mae’n rhaid i awdurdodau lleol gadw cofnodion o bob cyflenwad dŵr preifat yn cynnwys systemau dosbarthu preifat. Anfonir yr wybodaeth yma i’r Arolygiaeth Dŵr Yfed ar gyfer pob cyflenwad fel sy’n dilyn:

  • enw’r cyflenwad, ynghyd â rhif dynodi unigryw
  • y math o ffynhonnell
  • y lleoliad daearyddol yn defnyddio cyfeirnod grid
  • amcangyfrif o nifer y bobl a gaiff eu cyflenwi
  • amcangyfrif o gyfaint dyddiol cyfartalog y dŵr a gyflenwir mewn metrau ciwbig
  • y math o safleoedd a gyflenwir
  • manylion unrhyw broses driniaeth, ynghyd â’i lleoliad
  • enw swyddfa leol Asiantaeth Diogelu Iechyd

Samplau sy’n methu

Mae’r Rheoliadau’n nodi gweithdrefnau y mae’n rhaid i ni eu dilyn os credwn fod cyflenwadau dŵr preifat yn afiach. Mae hyn yn cynnwys gofynion i:

  • ymchwilio’r achos
  • hysbysu defnyddwyr y cyflenwad dŵr preifat os gallai’r cyflenwad achosi perygl i iechyd dynol
  • rhoi cyngor i’r defnyddwyr i’w galluogi i leihau unrhyw berygl posibl o’r fath
  • cydlynu gyda’r Asiantaeth Diogelu Iechyd i geisio cyngor os gallai fod perygl i iechyd dynol.

Cost

Gallwn godi cost resymol ar gyfer cost cynnal dyletswyddau dan y Rheoliadau, hyd at yr uchafswm a nodir yn y Rheoliadau. Mae’r rhain yn amrywio o gyflenwad i gyflenwad; i gael mwy o wybodaeth cysylltwch ag iechyd yr amgylchedd.

I gael mwy o gyngor neu i drefnu profi eich dŵr, cysylltwch ag iechyd yr amgylchedd.

Cyngor a phrofi cyflenwadau dŵr preifat

Rwy’n bryderus am ansawdd fy nghyflenwad. A allwch helpu?

Gallwn argymell ffyrdd i atal llygru eich cyflenwad dŵr a gwella ei ansawdd. Cysylltwch ag iechyd yr amgylchedd  i drafod eich pryderon.

A allwch brofi fy nghyflenwad dŵr i fi?

Gallwn, ond byddwn yn codi tâl am y gwasanaeth. Os ydych yn bryderus am ansawdd dŵr a gyflenwir i’ch safle o gyflenwad dŵr preifat, gallwch ofyn i ni brofi sampl o’r dŵr. Cysylltwch ag iechyd yr amgylchedd i drafod eich gofynion.

Beth os wyf yn canfod problem?

Byddwn yn dweud wrthych os oes problem gydag ansawdd eich cyflenwad a byddwn hefyd yn eich cynghori am yr amrywiaeth o ddulliau triniaeth sydd ar gael i ddelio gyda’r rhan fwyaf o amgylchiadau. Fodd bynnag, chi fydd yn gyfrifol am ddewis pa opsiwn, trefnu’r gwaith a thalu amdano.

Os oes gennych ddosbarthiad preifat o gyflenwad i safle masnachol a’ch bod yn dewis peidio gwneud y gwaith y cynghorwn chi i’w wneud, yna mae opsiynau eraill ar gael i ni yn y Rheoliadau yn cynnwys gweini hysbysiadau.

Pa fathau o waith allai fod angen i mi eu gwneud i wella fy nghyflenwad?

Gallai hyn gynnwys:

  • ffensio siambr ffynnon i rwystro anifeiliaid rhag mynd i’r ardal a’i llygru;
  • creu parth gwahardd ar gyfer chwalu gwrtaith o amgylch y ffynnon neu bydew;
  • gwella draeniad o amgylch y cyflenwad; neu
  • osod pibelli newydd.

Weithiau gall fod angen gosod hidlydd i dynnu neu ostwng lefel sylwedd neilltuol.

Mae enghreifftiau’n cynnwys:

  • Hidlwyr uwch-fioled i dynnu bacteria (E.Coli)
  • Hidlwyr osmosis o chwith i dynnu alwminiwm neu nitrad
  • Hidlwyr haearn a manganîs
  • Hidlwyr cyfnewid catïonau i dynnu plwm

Ffioedd a chostau cyflenwad dŵr preifat

Mae’n rhaid i’r Cyngor godi tâl am y gwaith sydd ei angen oherwydd y Rheoliadau. Mae’r ffioedd a godir yn amrywio yn dibynnu ar nifer o ffactorau. Os oes angen samplo neu asesu risg eich cyflenwad, cewch eich hysbysu am y costau cyn i’r gwaith ddechrau.

Mae’r ffioedd a godir yn wahanol i bob safle unigol. Mae’n amhosibl i ni ddangos tabl o gostau.

Cysylltwch ag iechyd yr amgylchedd i drafod eich gofynion.

Problemau cyffredin gyda chyflenwadau preifat

Yn aml caiff cyflenwadau dŵr preifat eu llygru gyda bacteria a elwir yn colifformau. Os canfyddir fod y bacteria hyn yn eich dŵr, mae’n golygu fod eich cyflenwad yn cael ei lygru rywle rhwng y ffynhonnell a’ch tap. Gall hyn gael ei achosi gan faw anifeiliaid neu garthffosiaeth sy’n dod i gysylltiad gyda’r dŵr.

Gall y tir y mae ffynhonnell eich cyflenwad arno achosi’r dŵr i godi metelau sy’n digwydd yn naturiol. Er enghraifft, gall dŵr asidig yn dod o rostir mawnog gynnwys alwminiwm a manganîs. Gall dŵr asidig hefyd gyrydu pibelli copr a phlwm.

Gallai dŵr gael ei lygru gan arferion amaethyddol arferol megis chwalu biswail fferm neu drwy wrtaith yn rhedeg oddi ar y tir neu drwy dreiddio drwy’r pridd i’r dŵr.  Gall tanciau septig, tomennydd tail/dom da a draeniau i gyd achosi llygredd yn ogystal ag anifeiliaid yn cael mynediad i’r cyflenwad.

I gael mwy o gyngor neu i drefnu profi eich dŵr cysylltwch ag iechyd yr amgylchedd.