Skip to Main Content

Yn gyffredinol, cyflenwad dŵr preifat yw unrhyw gyflenwad dŵr na chaiff ei ddarparu gan gwmni dŵr. Nid yw felly yn ddŵr  prif gyflenwad. Nid oes trethi dŵr ar y cyflenwadau hyn er y gallai’r person sy’n berchen cyflenwad godi tâl. Fel arfer mae cyflenwad dŵr preifat yn tarddu o un o’r ffynonellau dilynol:

·         Pydewau

·         Tyllau Tyrio

·         Nentydd

·         Ffynhonnau

·         Afonydd

·         Llynnoedd neu Byllau ac yn y blaen

Fe ardal wledig, mae gan Sir Fynwy nifer o’r rhain. Fel arfer maent i’w cael yn rhannau mwy gwledig y sir. Amcangyfrifir fod gan tua 1% o boblogaeth Lloegr a Chymru gyflenwadau dŵr preifat i’w cartrefi (Arolygiaeth Dŵr Yfed, 2003). Yn Sir Fynwy, caiff tua mil o adeiladau eu gwasanaethu gan gyflenwad dŵr preifat.

Gallai cyflenwad dŵr preifat wasanaethu un adeilad neu safle masnachol neu ddomestig yn unig, neu gallai fod yn gyflenwad mawr gyda rhwydwaith mawr o bibelli yn cyflenwi dŵr i lawer o adeiladau.

Mae hefyd yn cynnwys cyflenwad a ddarparwyd ar gyfer diben potelu dŵr. Fodd bynnag lle caiff dŵr ei botelu i’w werthu, mae Rheoliadau Dŵr Mwyn Naturiol, Dŵr Ffynnon a Dŵr Yfed mewn Potel (Cymru) 2007 yn weithredol.

Cysylltwch ag iechyd yr amgylchedd i gael mwy o gyngor neu i gael profion ar eich cyflenwad dŵr.

 

Rheoliadau newydd ar gyflenwadau dŵr preifat – yr hyn sydd angen i chi wybod

Nod Rheoliadau newydd Cyflenwadau Dŵr Preifat (Cymru) 2009 yw diogelu iechyd gan eu bod angen yr un safonau ansawdd dŵr a’r prif gyflenwad dŵr.

Mae’r Rheoliadau yn ei gwneud yn ofynnol cynnal asesiad risg ar bob cyflenwad (heblaw cyflenwadau i anheddau sengl) fel bod ei raglen monitro yn cyfateb i’t risg i iechyd y mae’r cyflenwad yn ei gyflwyno. Mae’r asesiad risg yn seiliedig ar ffactorau fel y ffynhonnell cyflenwi, yr ardal y caiff ei dynnu ohono a’r nifer o ddefnyddwyr.

Mae’r rheoliadau yn effeithio ar yr holl gyflenwadau preifat er mai dim ond ar gais y caiff y rhai sy’n gwasanaethu annedd sengl asesiad risg a’u samplo.

O fewn 5 mlynedd, mae’n rhaid i’r cyngor gwblhau’r asesiadau risg ar gyfer pob cyflenwad yn ei ardal (heblaw cyflenwadau i anheddau sengl).

Mae dyletswydd ar y cyngor i fonitro yn rheolaidd y cyflenwadau fel rhan o weithgaredd masnachol gyhoeddus ac ar gyfer cyflenwadau stadau pentrefi sy’n gwasanaethu 50 neu fwy o bobl y dydd.

 

Beth yw cyfrifoldebau’r cyngor?

 

Monitro

Mae’r Rheoliadau yn ei gwneud yn ofynnol i’r Cyngor fonitro cyflenwadau dŵr preifat. Byddwn yn defnyddio’r Rheoliadau i ddatblygu ein rhaglen samplo flynyddol, fel sy’n dilyn:

·         Ar gyfer cyflenwadau bach (o lai a 10 metr ciwbig y dydd) mae’r monitro yn seiliedig ar ganfyddiadau’r asesiad risg.

·         Caiff cyflenwadau mwy (mwy na 10 metr ciwbig y dydd) a chyflenwadau i safleoedd masnachol neu gyhoeddus eu monitro o’r flwyddyn gyntaf.

 

Gwybodaeth

Mae’n rhaid i awdurdodau lleol gadw cofnodion o’r holl gyflenwadau dŵr preifat yn cynnwys systemau dosbarthu preifat. Caiff yr wybodaeth hon ei hanfon at yr Arolygiaeth Dŵr Yfed ar gyfer pob cyflenwad fel sy’n dilyn:

·         enw’r cyflenwad, ynghyd â dynodydd unigryw

·         y math o ffynhonnell

·         y lleoliad daearyddol yn defnyddio cyfeirnod grid

·         amcangyfrif o nifer y bobl sy’n cael cyflenwad

·         amcangyfrif o gyfaint dyddiol cyfartalog dŵr a gyflenwir mewn metrau ciwbig

·         y math o safle a gyflenwyd

·         manylion unrhyw broses driniaeth, ynghyd â’i leoliad

·         enw ein swyddfa Asiantaeth Diogelu Iechyd leol

 

Samplau a fethodd

Mae’r Rheoliadau yn nodi gweithdrefnau y mae’n rhaid i ni ei dilyn os ystyriwn nad yw cyflenwad dŵr preifat yn iach. Mae hyn yn cynnwys gofyniad i:

·         ymchwilio’r achos

·         hysbysu defnyddwyr y cyflenwad dŵr preifat os gallai’r sefydliad fod yn beryglus i iechyd dynol

·         rhoi cyngor i ddefnyddwyr i’w galluogi i leihau unrhyw berygl posibl o’r fath

·         bydd angen i ni gydlynu gyda’r Asiantaeth Diogelu Iechyd i ofyn am gyngor os oes perygl posibl i iechyd dynol.

 

Ffioedd

Gallwn godi ffioedd rhesymol i dalu am gostau cynnal dyletswyddau dan y Rheoliadau, hyd at yr uchafswm a nodir yn y Rheoliadau. Mae’r rhain yn amrywio o gyflenwad i gyflenwad: cysylltwch ag Iechyd yr Amgylchedd os gwelwch yn dda.

Cysylltwch ag Iechyd yr Amgylchedd i  gael mwy o gyngor neu i drefnu profion ar eich cyflenwad dŵr.

 

Cyngor a phrofion cyflenwadau dŵr preifat

 

Rwy’n bryderus am ansawdd fy nghyflenwad dŵr. Fedrwch chi helpu?

Gallwn argymell ffyrdd i atal halogiad eich cyflenwad dŵr a gwella ei ansawdd. Cysylltwch ag iechyd yr amgylchedd i drafod eich pryderon.

 

Fedrwch chi brofi fy nghyflenwad dŵr i fi?

Gallwn, ond mae’n rhaid talu am y gwasanaeth. Gallwch ofyn i ni brofi sampl o’r dŵr os ydych yn bryderus am ansawdd y dŵr a gyflenwir i’ch cartref neu safle. Cysylltwch ag Iechyd yr Amgylchedd i drafod eich gofynion os gwelwch yn dda.

Beth os dewch o hyd i broblem?

Byddwn yn dweud wrthych os oes problem gydag ansawdd eich cyflenwad a byddwn hefyd yn eich cynghori am yr amrywiaeth o ddulliau triniaeth sydd ar gael i drin y rhan fwyaf o amgylchiadau. Fodd bynnag, byddwch yn gyfrifol am ddewis pa opsiwn, trefnu a thalu am y gwaith.

Os oes gennych ddosbarthiad preifat o gyflenwad i safle masnachol a’ch bod yn dewis peidio gwneud y gwaith, rydym yn eich cynghori am hyn yr adeg honno. Mae opsiynau eraill ar gael i ni yn y Rheoliadau, yn cynnwys gweini hysbysiadau.

Pa fath o waith y gallai fod yn rhaid i mi wneud i wella fy nghyflenwad?

Gallai hyn gynnwys:

  • ffensio siambr ffynnon i atal anifeiliaid rhag mynd mewn a halogi’r ardal;
  • creu parth eithrio ar gyfer chwalu gwrtaith o amgylch y ffynnon neu bydew;

·         gwella draeniad o amgylch y cyflenwad; neu

·         adnewyddu pibelli.

Weithiau gall fod angen gosod hidlydd i dynnu neu ostwng lefel sylwedd neilltuol.

Mae’r enghreifftiau yn cynnwys:

·         Hidlydd uwch-fioled i dynnu bacteria (E. Coli)

·         Hidlydd osmosis o chwith i dynnu alwminiwm neu nitrad

·         Hidlydd haearn a manganîs

·         Hidlydd cyfnewid cation i dynnu plwm

 

Ffioedd a thaliadau cyflenwadau dŵr preifat

Mae’n rhaid i’r Cyngor godi tâl am y gwaith sydd ei angen gan y Rheoliadau. Mae’r ffioedd a godir yn amrywio, yn dibynnu ar lawer o ffactorau. Os oes angen samplo neu asesu risg eich cyflenwad dŵr, cewch eich hysbysu am y costau cyn y bydd y gwaith yn dechrau.

Gall y ffioedd a godir amrywio ar gyfer pob cartref neu sampl unigol. Mae’n amhosibl i ni ddangos tabl o gostau.

Cysylltwch ag Iechyd yr Amgylchedd i drafod eich gofynion os gwelwch yn dda.

Problemau cyffredin gyda chyflenwadau preifat

Caiff cyflenwadau dŵr preifat yn aml eu halogi gyda bacteria a elwir yn golifformau. Os canfyddir y bacteria hyn yn eich cyflenwad dŵr, mae’n golygu fod y cyflenwad yn cael ei halogi rywle rhwng y ffynhonnell a’ch tap. Gall hyn gael ei achosi gan wastraff anifeiliaid neu garthffosiaeth sy’n dod i gysylltiad â’r dŵr.

Gall y tir y mae ffynhonnell eich cyflenwad arno achosi i’r dŵr godi metelau sy’n digwydd yn naturiol. Er enghraifft gall dŵr asidig o rostir mawn godi alwminiwm a manganis. Gall dŵr asidig hefyd wneud i bibelli copr a phlwm rydu.

Gallai dŵr gael ei halogi gan arferion amaethyddol arferol tebyg i ledaenu llaid fferm neu gan wrtaith yn rhedeg oddi ar y tir neu ymdreiddio drwy’r pridd i’r dŵr. Gall tanciau septig, tomennydd tail/dom anifeiliaid a draeniau i gyd achosi halogiad yn ogystal ag anifeiliaid yn gallu cael mynediad i’r cyflenwad.

Cysylltwch ag Iechyd yr Amgylchedd i gael mwy o gyngor neu i drefnu i gael profion ar eich cyflenwad dŵr.