
Cydlynydd Cwnsela Ysgolion a Chymunedau
Ydych chi yn gwnselydd profiadol sy’n ymroddedig i wella llesiant emosiynol plant a phobl ifanc yn Sir Fynwy? Rydym yn edrych am berson gyda chymhelliant uchel, trefnus a myfyriol i arwain y Tîm Cwnsela Ysgolion a Chymunedau. Byddwch yn cydlynu tîm o gwnselwyr a gweithwyr llesiant mewn ysgolion a chymunedau ledled Sir Fynwy i sicrhau fod y gwasanaeth yn effeithiol a bod plant a phobl ifanc yn cael mynediad teg i wasanaeth. Byddwch yn chwaraewr tîm cryf gyda sgiliau cyfathrebu gwych ac ymroddiad i gydweithio gyda phob gweithiwr proffesiynol.
Cyfeirnod Swydd: SCS375
Gradd: SCP 23-27 G (£30151 - £33820).
Oriau: 37 awr yr wythnos, yn ystod y tymor yn unig
Lleoliad: Neuadd y Sir, Brynbuga a all newid yn y dyfodol os oes angen i leoliad y gwasanaeth adleoli. Ni chaiff treuliau adleoli neu darfu eu talu os yw hyn yn digwydd. bydd y swydd yn cynnwys teithio dros holl ardal sir Fynwy.
Dyddiad Cau: 12/05/2023 12:00 pm
Dros dro: Ie, tan 31 Mai 2024.
Gwiriad DBS: Oes (Gwiriad Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd). Mae penodiad i’r swydd hon wedi ei eithrio o’r Ddeddf Adsefydlu Troseddwyr ac mae’n amodol ar y gwiriad DBS dilynol: Estynedig gyda Gwiriad Rhestr Gwahardd rhag Gweithio gyda Phlant).