Cais am Grant
1af o Fai 2024 i 31ain Mawrth 2026
Dyddiad Cau ar gyfer pob cais: 21eg o Orffennaf 2025.
Darllenwch y nodiadau canllaw isod yn ofalus, yn enwedig yr adran Cymhwysedd cyn cyflwyno cais.
Cyflwyniad:
Beth yw Cydlyniant Cymunedol? Mae cymuned gydlynol yn ardal lle mae’r rhai o wahanol gefndiroedd yn rhannu perthnasoedd cadarnhaol, yn teimlo’n ddiogel yn y gymdogaeth, ac yn meddu ar ymdeimlad o barch at ei gilydd a gwerthoedd cyffredin. O fewn cymdeithas gydlynol:
- Mae gweledigaeth gyffredin ac ymdeimlad o berthyn gan bob cymuned.
- Gwerthfawrogir a pherchir amrywiaeth cefndiroedd ac amgylchiadau pobl.
- Mae cyfleoedd bywyd tebyg ar gael i bawb; ac
- Mae perthnasoedd cryf a chadarnhaol yn bodoli ac yn parhau i gael eu datblygu yn y gweithle, mewn ysgolion ac yn y gymuned ehangach.
Hoffem wahodd grwpiau cymunedol a mudiadau trydydd sector i wneud cais am gyllid o rhwng £500 a £2,000.
Gellir defnyddio’r cyllid sydd ar gael i adeiladu cymunedau cydlynol a chryf, gan gynnwys amlygu a dathlu amrywiaeth cymunedau ledled Sir Fynwy.
Croesewir ceisiadau ar gyfer digwyddiadau, gweithgareddau a meithrin gallu yn Sir Fynwy gan ganolbwyntio ar ddod â chymunedau ynghyd ac rydym yn annog gwaith ar y cyd.
Rhaid i’r cyllid gael ei wario erbyn diwedd mis Mawrth 2026. Ni chaiff ceisiadau fod yn fwy na £2000.
Sut i wneud cais am y cyllid grant:
I wneud cais am y cyllid hwn, rhaid i chi gyflwyno ffurflen gais i partnerships@monmouthshire.gov.uk. erbyn 21eg o Orffennaf 2025 Bydd y Cyngor yn dyfarnu grantiau hyd at uchafswm o £2,000.
Sut mae ceisiadau’n cael eu hasesu a’u monitro gan y Cyngor?
Bydd pob cais a dderbynnir yn cael ei asesu gan banel a fydd yn penderfynu a ydynt yn llwyddiannus, yn seiliedig ar y wybodaeth yn eich ffurflen gais.
Bydd y Cyngor yn monitro’r prosiectau hyn ac efallai y bydd yn gofyn i chi am astudiaethau achos, a allai olygu ein bod yn ymweld â chi neu’n gofyn am wybodaeth am yr hyn y mae eich prosiect wedi’i gyflawni. Efallai y byddwn hefyd yn gofyn am gopïau o anfonebau neu dderbynebau sy’n dangos yr hyn rydych wedi gwario’r arian grant arno. Byddwn yn adrodd i Lywodraeth Cymru ar ganlyniadau’r Prosiect.
Amserlen: Bydd angen cwblhau prosiectau erbyn Mawrth 2026
Bydd y cyllid hwn yn cael ei weinyddu gan Dîm Cydlyniant Cymunedol Cyngor Sir Fynwy.
Gellir anfon unrhyw ymholiadau ynghylch y grant at y Tîm Cydlyniant Cymunedol yn partnerships@monmouthshire.gov.uk.
Dylid anfon ffurflenni cais wedi’u llenwi drwy e-bost erbyn 25eg o Orffennaf 2025.
Cymhwysedd (Darllenwch yn ofalus i osgoi cael eich siomi)
Bydd pob cais yn cael ei asesu, a phenderfyniadau terfynol yn cael eu gwneud gan banel (gweler isod am nodiadau canllaw).
I fod yn gymwys i wneud cais, mae rhaid i’r ymgeisydd bod yn sefydliad gwirfoddol neu grŵp cymunedol â chyfansoddiad a sefydledig a bod â chyfrif banc neu gymdeithas adeiladu yn enw’r sefydliad neu fod â sefydliad lletyol sy’n barod i dderbyn yr arian ar ei ran (ni wneir taliadau i unigolion).
Rhaid i yswiriannau perthnasol fod yn eu lle o dan gyfansoddiad y sefydliad.
Er mwyn cadw at amodau statudol a rheoleiddiol a chofleidio hanfod sefydliadau cymunedol cyfansoddedig, gwerth am arian a gweithio mewn partneriaeth, ni dderbynnir ceisiadau gan unigolion nad ydynt wedi’u halinio o fewn grŵp cyfansoddedig.
Yn ogystal, nodwch na fydd y grant yn cynnwys y costau isod a chostau tebyg:
1. Costau cyflog arferol staff
2. Prynu pethau y bwriedir eu defnyddio y tu allan i’r prosiect
3. Costau gwaith i gynnal a chadw eiddo.
4. Costau llogi eiddo/defnyddio eiddo y telir amdanynt fel arfer o dan arfer gweithio arferol y sefydliad.
Amcanion y Cais:
Rhaid i geisiadau fodloni o leiaf un o’r amcanion canlynol:
· Cyflwyno digwyddiadau neu weithgareddau sy’n dod â’r rhai â Nodweddion Gwarchodedig lleiafrifol ynghyd a’r rhai o’r mwyafrif, er mwyn cynyddu cyswllt cymdeithasol a meithrin perthnasoedd da.
· Dylai cynigion ystyried sut y gall prosiectau gefnogi integreiddio, mynd i’r afael ag unigrwydd ac unigedd, neu wahanu. Dylai prosiectau anelu at nodi pethau cyffredin trwy ddiddordebau, profiadau neu werthoedd cyffredin.
· Cyflwyno gweithgareddau sy’n ceisio lliniaru neu ddileu tensiynau cymunedol sy’n deillio o gamsyniadau neu stereoteipiau o ran cymunedau lleiafrifol.
Rhaid i geisiadau ddangos costau rhesymol ar gyfer gweithgaredd/gwerth am arian, a rhaid profi unrhyw wariant mewn perthynas â’r holl gostau.
Gall enghreifftiau o ddigwyddiadau neu ymgyrchoedd gynnwys dod â phobl o wahanol gefndiroedd at ei gilydd, hyrwyddo amrywiaeth ddiwylliannol, sesiynau coginio, cerddoriaeth
gymunedol, prosiectau sy’n seiliedig ar y celfyddydau, gweithgareddau sy’n gysylltiedig â chwaraeon, dawns, addysg, ymgyrchoedd penodol, a chodi ymwybyddiaeth (e.e. cefnogaeth dioddefwyr Troseddau Casineb).
Beth fydd yn digwydd nesaf:
Byddwch yn cael gwybod canlyniad eich cais drwy e-bost.
Ymgeiswyr Llwyddiannus:
Bydd angen diweddariadau cynnydd rheolaidd ac adroddiad terfynol yn cynnwys gwerthusiad, tystebau, ffotograffau ac ati.