Skip to Main Content

Pwy sy’n gysylltiedig â Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd?

Mae deg o awdurdodau lleol yn cydweithio i gyflawni Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd: Pen-y-bont ar Ogwr, Bro Morgannwg, Rhondda Cynon Taf, Merthyr Tudful, Caerffili, Sir Fynwy, Blaenau Gwent, Torfaen, Casnewydd a Chaerdydd.

Beth yw Prifddinas-Ranbarth Caerdydd?

Mae Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn cynnwys ardal o dde-ddwyrain Cymru sy’n cynnwys y deg awdurdod lleol.  Mae’r awdurdodau lleol wedi uno i fynd i’r afael â materion sy’n effeithio ar yr holl ranbarth, megis diweithdra a chysylltiadau trafnidiaeth gwael.

Beth mae’r Fargen Ddinesig yn gobeithio’i gyflawni?

Er mai nod trosfwaol y Fargen Ddinesig yw gwella amgylchiadau economaidd yn gyffredinol yn yr ardal, gellir crynhoi amcanion penodol Prifddinas-Ranbarth Caerdydd fel: gwella cynhyrchiant; goresgyn diweithdra; adeiladu ar sylfeini arloesedd; buddsoddi mewn seilwaith ffisegol a digidol; darparu cefnogaeth i fusnesau; a sicrhau y teimlir unrhyw fuddion economaidd ledled y rhanbarth. Un o brosiectau craidd y Fargen Ddinesig yw darparu Metro De Cymru wedi’i integreiddio.

Faint fydd o yn ei gostio?

Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig a Llywodraeth Cymru wedi’u hymrwymo i roi £1.1 biliwn i’r Fargen Ddinesig – a ategir gan £120 miliwn yn ychwanegol sydd wedi’i ymrwymo gan y 10 awdurdod lleol sy’n bartneriaid.

Pwy sy’n cymell y Fargen Ddinesig?

Mae’r Cynghorydd Andrew Morgan, fel Cadeirydd, yn goruchwylio Cyd-Gabinet yr Wrthblaid sy’n cynnwys arweinwyr y deg awdurdod lleol, gyda chefnogaeth gan Swyddfa Raglenni.  Mae yna wedyn bortffolios penodol y mae pob Arweinydd a phrif weithredwyr a swyddogion awdurdodau lleol yn eu datblygu fel rhan o raglen y Fargen Ddinesig:

Y rhain yw:

  • Cyllid a threfn lywodraethu, i gynnwys rheoli cronfa fuddsoddi;
  • Adfywio, tai a chynllunio – i ganfod ardaloedd dichonol ar gyfer buddsoddi a datblygu;
  • Gwaith, sgiliau a’r economi, sy’n ystyried rhaglen waith ac iechyd ddichonol, ffyrdd o adfywio’r gymuned, a sgiliau a hyfforddiant i gynyddu cyflogaeth;
  • Partneriaeth busnes ac arloesi;

Sut y caiff y Fargen Ddinesig ei Chyflawni

Mae Cyd-Gabinet yr Wrthblaid wedi’i ymrwymo i sefydlu pedwar corff rhanbarthol i sicrhau y cyflawnir pob agwedd o raglen y Fargen Ddinesig.

Y rhain yw:

  • Awdurdod Drafnidiaeth Rhanbarthol;
  • Partneriaeth Twf Economaidd Rhanbarthol – sy’n gyfrifol am weledigaeth economaidd Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, ac am gynghori Cyd-Gabinet yr Wrthblaid wrth ddewis prosiectau Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd;
  • Sefydliad Busnes Rhanbarthol – sy’n gyfrifol am raglenni cymorth busnes, ac sy’n gyfrwng i fusnesau’r sector preifat i gymryd rhan ac i helpu i lunio buddsoddiadau o gyllid Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd;
  • Bwrdd Sgiliau a Chyflogaeth.

Beth yw’r weledigaeth economaidd ar gyfer y rhanbarth?

Bydd yr argymhellion ar gyfer strategaeth economaidd y dyfodol ar gyfer Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn cael eu llunio o ganfyddiadau’r Comisiwn Twf a Chystadleugarwch annibynnol a gadeirir gan yr arbenigwr ar brifddinas-ranbarthau rhyngwladol, yr Athro Greg Clark.  Casglodd yr Athro Clark a’i dîm o gomisiynwyr dystiolaeth oddi wrth arweinwyr cymunedol, pobl fusnes a rhanddeiliaid eraill cyn cyflwyno adroddiad i Gabinet yr Wrthblaid ynglŷn â sut orau y gellir defnyddio’r Fargen Ddinesig i sicrhau twf economaidd ledled Prifddinas-Ranbarth Caerdydd. Mae’r adroddiad hwn i fod i gael ei lansio ym mis Tachwedd, 2016.

Pa fath o brosiectau sy’n debygol o gael eu hystyried?

Bydd Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn chwilio am fuddsoddiad mewn ardaloedd fydd yn cefnogi cynnydd mewn allbwn economaidd a gostyngiad mewn diweithdra, gan ganolbwyntio ar:
Cysylltedd;

Digidol;

Arloesi;

Sgiliau a Diweithdra;

Cymorth Busnes ac Adfywio.
Yn ychwanegol, i gefnogi’r gwaith o ddarparu’r gweithgareddau hyn, mae Cabinet Gwrthblaid Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd hefyd yn ceisio grymoedd a hyblygrwydd ariannol newydd. Bydd hyn yn cynnwys ystyried sut y gellir darparu rhai gwasanaethau sy’n gysylltiedig â chynllunio a datblygu economaidd yn rhanbarthol, yn ogystal ag ystyried sut y gellir defnyddio hyblygrwydd ariannol i gynnal buddsoddiad mewn seilwaith.

Sut y Dewisir y Prosiectau?

Blaenoriaethir y prosiectau arfaethedig yn ôl eu heffaith o ran Gwerth Ychwanegol Gros (GVA), sef y mesur o werth y nwyddau a’r gwasanaethau a gynhyrchir mewn ardal, sector neu ddiwydiant, a swyddi.

A oes yna Ddinas-Ranbarthau eraill yn y Deyrnas Unedig ac a ydynt wedi bod yn llwyddiannus ?

Oes.  Mae Glasgow a Manceinion yn enghreifftiau da, ill dwy.  Mae Glasgow yn cynnwys saith awdurdod lleol, mae ganddi boblogaeth o 1.7 miliwn a GVA o £36 biliwn.  Nod y prosiect hwn yw buddsoddi £1.13 biliwn erbyn 2025 mewn trafnidiaeth, adfywio a phrosiectau tai.

I gael mwy o wybodaeth, cysylltwch â Sian Workman, Rheolwr Rhaglenni, ar 01656 815945, neu sian.workman2@bridgend.gov.uk

www.cardiffcapitalregioncitydeal.wales/ www.cytundebdinesigprifddinasranbarthcaerdydd.cymru

Cyfarfodydd ac agendâu

Cabinet Rhanbarthol

Awdurdod Trafnidiaeth

Adroddiadau i’w Hystyried