Lle’r ydym yn gweithio
Mae gennym gwnselwyr mewn ysgolion uwchradd ledled Sir Fynwy.
• Rydym yn darparu gwasanaeth cymunedol i bobl ifanc 11-18 oed mewn lleoliadau yn y Gogledd a’r De.
• Cymorth dros y Ffôn / Fideo / Ebost / Negeseuon a Thestun Uniongyrchol.
(Mae’r llwyfannau ar-lein a ddefnyddiwn yn ddiogel ac yn gyfrinachol).
Sut gallwn ni helpu?
Mae cwnsela’n ffordd dda o feithrin sgiliau ymdopi tuag at wahanol bynciau.
Weithiau mae’r pynciau hyn yn perthyn i’r categorïau o hunan (fi), cydberthnasau (pobl eraill), a’r sefyllfaoedd lle rydym yn byw ein bywydau (e.e. ysgol, gwaith neu deulu). Ar adegau eraill, nid yw cleientiaid yn hollol siŵr pa fath o gymorth sydd ei angen arnynt, ond maent yn gwybod yr hoffent gael rhywfaint o help.
Weithiau mae cwnsela’n cael ei werthfawrogi dim ond fel lle tawel i berson ifanc.
Ynglŷn â’n tîm

Nathan Meredith
Helo, fy enw i yw Nathan a fi yw cydlynydd Gwasanaeth Cwnsela Sir Fynwy. Rwy’n gwnselydd ac yn ymarferydd systemig, ac yn teimlo’n lwcus iawn i allu parhau i weithio gyda phobl ifanc yn uniongyrchol, ble bynnag dwi’n cael y cyfle i wneud. Pethau sy’n fy nghadw’n gadarnhaol – cerddoriaeth yw’r ateb, neu fe allwch ddod o hyd i mi’n cerdded y bryniau neu’n cael fy nghicio wrth chwarae pêl-droed (dw’i ddim mor dda â Messi).

Katie Pritchard
Fy enw i yw Katie, ac rwyf wedi bod yn cynghori pobl ifanc ar ran Wyneb yn Wyneb ers blynyddoedd bellach, o sawl lleoliad gwahanol. Rwy’n gweithio mewn ffordd sy’n hyblyg iawn, fel y gallaf ddathlu’r hyn sy’n gwneud pob person ifanc yn unigryw, a chael y gorau allan o’n hamser yn cydweithio.
Yn fy amser rhydd, rwyf wrth fy modd yn coginio a bwyta, gwneud a gwrando ar gerddoriaeth a gwersylla. Rwyf hefyd wrth fy modd gyda thywydd poeth iawn, yn hedfan barcud ar ddyddiau gwyntog, ac yn gwylio hen ffilmiau ar y soffa gyda siocled poeth enfawr yn ystod y gaeaf.

Karen Davies
Helo, fy enw i yw Karen neu fel arall KD a chyflwyniad byr i fi yw hyn i chi.
Mae gen i gyfoeth o gymwysterau sy’n gysylltiedig â chwnsela ac ar hyn o bryd, rwy’n astudio gradd meistr mewn Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc.
Fy nod yw i ddarparu lle gwirioneddol ddibynadwy i chi dyfu, er mwyn i chi allu cyflawni eich breuddwydion a’ch potensial, a gwybod ble i fynd mewn bywyd.
Er bod gen i angerdd mawr hefyd dros fod yn yr awyr agored ac ecotherapi, rwy’n cydnabod pwysigrwydd y system nerfol mewn niwrofioleg.
Rwy’n gwirfoddoli i elusen dros golled a phrofedigaeth, ble mae teimladau o wadu, dicter, bargeinio, tristwch a derbyn yn ingol.
Rwy’n ymfalchïo, yn falch, ac yn teimlo’n freintiedig i allu rhannu lle er mwyn cefnogi pobl ifanc yn y cyfyng-gyngor y maent yn eu hwynebu.
Mae rhai’n dweud fy mod yn empathetig, yn gyfeillgar ac yn ffraeth, ac yn lalwn egni – dwi’n rhedeg yn barhaol ar fatri llawn! Dwi’n rhoi rhywfaint o’r egni i’r crefftau ymladd.

Tracey Marshall
Helo fy enw i yw Tracey, rwy’n gynghorydd seicotherapyddol gyda’m hyfforddiant mewn Seicoleg Unigol Adleraidd a damcaniaethau Dynoliaethol gyda gwrthgyferbyniad Seicodynamig. Mae fy mhrofiadau gwaith yn cynnwys plant ac oedolion ifanc tra’n gweithio mewn dwy elusen; galar, colled a phrofedigaeth tra’n gweithio mewn dwy hosbis, ac ymarfer cyffredinol drwy elusennau eraill a’m harfer preifat fy hun. Rwy’n mwynhau dysgu ac rwyf newydd orffen diploma mewn goruchwyliaeth glinigol. Rwyf hefyd wrth fy modd yn treulio amser gyda’m teulu ac yn cerdded yn y cefn gwlad hardd lle’r wyf yn byw a’r siroedd cyfagos.

Christopher Jones
Rwy’n therapydd cerddoriaeth ac yn athro piano sy’n gweithio yn Sir Fynwy a’r siroedd cyfagos, gyda dros 20 mlynedd o brofiad. Rwy’n gweithio gydag oedolion a phlant sydd ag anawsterau dysgu difrifol.
Roedd fy hyfforddiant ar sail seicodeinamig ond dros y blynyddoedd rwyf wedi cael fy hun yn neidio tuag at ddull mwy dyngarol, gan ddefnyddio dulliau sy’n canolbwyntio ar y plentyn
Yn 2017 hyfforddais fel goruchwyliwr clinigol ac ar hyn o bryd rwy’n goruchwylio therapyddion celfyddydol a therapyddion/cwnselwyr o amrywiaeth o ddisgyblaethau.
Yn 2019/20 hyfforddais fel cwnselydd plant a phobl ifanc gan fod hyn wedi bod yn uchelgais i mi ers peth amser, wrth i mi fwynhau gweithio gyda phobl ifanc. Gwn fod y sgiliau yr wyf wedi’u datblygu o fewn therapïau creadigol wedi rhoi persbectif mwy cyflawn i mi.
Diddordebau
Rwy’n ddarllenydd brwd ond mae gen i ddiddordebau amrywiol eraill hefyd gan gynnwys ffotograffiaeth, seryddiaeth ac adareg. Fodd bynnag, fy mhrif angerdd gydol oes yw trenau a rheilffyrdd.
Joanne Bailey-Aitken

Mae pob Cwnselydd yn Aelod Cofrestredig gyda Chymdeithas Cwnsela a Seicotherapi Prydain.
Adnoddau

