Skip to Main Content

Rwy’n byw yn Lloegr, mae fy archfarchnad agosaf yn Nhrefynwy, a wyf yn dal i gael ymweld?

Gallwch, gallwch ddal i deithio i brynu bwyd a chyflenwadau meddygol os nad oes gennych ddewis arall yn nes at eich cartref yn Lloegr.

Rwy’n byw yn Lloegr ac yn teithio drwy Gas-gwent i gyrraedd Bryste ar gyfer gwaith. A yw’n dal yn iawn i fi wneud hynny?

Ydi, caiff hyn ei ganiatáu ond ni ddylech stopio mwy nag sydd raid o fewn Cymru a dylech leihau cymaint ag sydd modd ar unrhyw gysylltiad â phobl.

Rwy’n byw yn Sir Fynwy ac yn teithio i weithio yn y Fforest. A yw’n iawn gwneud hynny?

Ydi, gallwch ddal i deithio ar gyfer gwaith neu ddibenion gwirfoddol neu elusennol, ond dim ond lle nad yw’n rhesymol ymarferol gwneud hyn o gartref.

Rwy’n byw yng Nghymru ond yn teithio bob dydd i Loegr i fynd i’r ysgol, coleg neu brifysgol. A allaf ddal i fynd yno?

Gallwch. Os ydych yn mynd i’r ysgol, coleg neu brifysgol yn Lloegr, lle nad oes cyfnod clo byr, mae’n esgus rhesymol i deithio yno a chaniateir hyn yn ystod y cyfnod clo, os na fedrwch gael eich addysg ar-lein am y cyfnod hwn.

Mae hyn hefyd yn weithredol i staff sy’n teithio i Loegr i ddysgu mewn ysgolion, colegau neu brifysgolion yno ac na all weithio o gartref yn ystod y cyfnod clo. Fodd bynnag, bydd angen i chi gofio am unrhyw gyfyngiadau sydd mewn grym yn yr ardal yr ydych yn teithio iddi yn Lloegr.

Rwy’n byw yn Lloegr ond yn gweithio yng Nghymru, a wyf yn dal i gael teithio?

Mae’r rheolau hyn mewn grym i unrhyw un sydd yng Nghymru, sydd naill ai’n byw neu’n teithio yma. Fodd bynnag, mae teithio i weithle yng Nghymru yn esgus rhesymol i adael eich cartref. Yn yr un modd, gall pobl sy’n byw yng Nghymru deithio i Loegr ar gyfer dibenion gwaith lle mae hyn yn angenrheidiol ac na allant weithio o gartref.

Nid wyf yn byw yng Nghymru – a allaf deithio drwy Gymru, er enghraifft i ddefnyddio’r maes awyr neu deithio rhwng Lloegr ac Iwerddon?

Gallwch, caiff hyn ei ganiatáu ond ni ddylech stopio mwy nag sydd raid o fewn Cymru a dylech leihau cymaint ag sydd modd ar unrhyw gysylltiad â phobl.

Mae mwy o fanylion ar gael yma: https://gov.wales/coronavirus-firebreak-frequently-asked-questions#section-53261