Skip to Main Content

Mae’r rhestr isod yn amlinellu natur y ceisiadau mwyaf aml a wnaed i Gyngor Sir Fynwy ynghylch tocio coed.  Nid yw’r rhain i gyd yn hanfodol ac ni fydd ceisiadau am docio neu gwympo am y rhesymau hyn yn cael eu hystyried. 

Mae’n bwysig ailadrodd bod gan unrhyw waith tocio’r potensial i roi’r cyfle i bathogenau fynd i mewn i’r goeden drwy glwyfau. Gall tocio hefyd hyrwyddo ail-dwf egnïol gan arwain at yr angen am reoli cylchol yn y dyfodol ar gost sylweddol a pharhaus.  Felly, dim ond lle mae’n angenrheidiol y bydd tocio’n cael ei wneud. 

Click the questions below for the answers:

Q. A fydd y cyngor yn tocio coed am resymau cosmetig, ymddangosiad neu daldra?

Mae hyn yn ddiangen, yn gostus a gall effeithio’n andwyol ar iechyd hirdymor a chyfanrwydd strwythurol coed.  Felly, nid yw Cyngor Sir Fynwy yn tocio coed am resymau heblaw lle mae coed stryd wedi eu tocio’n draddodiadol er mwyn osgoi rhwystro arwyddion neu linellau golwg er mwyn sicrhau diogelwch y cyhoedd.

Q. A fydd y cyngor yn tocio coed i wella golau / lleihau cysgodi?

Does dim cyfraith statudol na hawl gyffredin i oleuni sy’n berthnasol i goed yn y DU. Felly, ni fydd Cyngor Sir Fynwy yn gwneud gwaith coed o ran eiddo domestig er mwyn caniatáu golau naturiol na lleihau cysgodi. Fodd bynnag, pan fo gan ddwy neu ragor o goed bytholwyrdd neu led-fytholwyrdd mewn llinell y potensial i gael eu hystyried fel gwrych, gall Rhan 8 o Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol 2003 fod yn berthnasol.  Os felly, bydd y cyngor yn cynnal asesiad ar y sail hynny. 

Q. A fydd y cyngor yn tocio coed i wella effeithiolrwydd paneli ynni haul?

Mae’r ffaith nad oes unrhyw gyfraith statudol na chyffredin hawl i oleuni sy’n berthnasol i goed yn y Deyrnas Unedig hefyd yn effeithio ar y defnydd o baneli ynni haul. Dylid ystyried presenoldeb y coed presennol a’r effaith y gallai fod ganddynt, ar hyn o bryd ac yn y dyfodol, wrth ystyried gosod paneli ynni haul ac ni fydd y cyngor sir yn tocio coed am y rheswm hwn.

Q. Mae coeden fy nghymydog yn rhy fawr ac yn rhwystro goleuni.

Nid oes yna hawl gwirioneddol i oleuni dan y gyfraith ac nid yw’n drosedd i ganiatáu i goeden tyfu i unrhyw faint mewn gardd ddomestig. Nid yw’ch cymydog felly’n torri’r gyfraith. Mae’n syniad da i chi gysylltu â’ch cymydog mewn ffordd gyfeillgar ac egluro’r problemau mae’r goeden yn achosi.

Q. A fydd y cyngor yn tocio coed i wella effeithiolrwydd erialau teledu neu ddysglau lloeren?

Mae prynu trwydded deledu neu danysgrifiad i ddarparwr gwasanaeth fel Sky, yn rhoi’r hawl i’r prynwr weithredu’r offer sy’n derbyn unrhyw signal sydd ar gael.  Fodd bynnag, nid oes hawl cyfreithiol i signalau teledu / lloeren yn y DU.  Ni fydd Cyngor Sir Fynwy yn gwneud gwaith coed o ran colled neu amharu ar signal. Dylid gofyn am arweiniad gan y darparwr gwasanaeth o ran negyddu materion sy’n ymwneud â derbyn y signal. 

Q. Mae coeden fy nghymydog yn ymyrryd â’m derbyniad teledu, beth allaf ei wneud?

Eto, nid oes unrhyw hawl gyfreithiol i deledu. Ceisiwch drafod hyn gyda’ch cymydog, os yw’n ymarferol bosib, symudwch eich erial neu ddysgl lloeren i fan gwell, i ffwrdd oddi wrth y goeden.

Q. A fydd y cyngor yn tocio coed sydd wedi tyfu ac sydd bellach yn rhwystro fy ngolygfa?

Gan nad oes hawl i olygfa olygfaol sydd heb ei chuddio gan goed yn y DU, ni fydd Cyngor Sir Fynwy yn gwneud gwaith coed dim ond i wella golygfeydd i ac o eiddo domestig neu fasnachol. Mae hyn yn cynnwys ardaloedd lle gallai golygfeydd fod wedi bodoli o’r blaen. Mae Cyngor Sir Fynwy yn cadw’r hawl i symud ei goed ei hun lle gellir sefydlu y bydd hyn er lles tirlun cyhoeddus ac amwynder gweledol – er enghraifft, o ran parciau hanesyddol. 

Q. A fydd y cyngor yn tocio coed wrth iddyn nhw golli dail, ffrwythau a malurion?

Mae malurion rhesymol fel dail, ffrwythau, cnau, blodau, gweddillion, mân bren marw, oll yn sgil-gynhyrchion naturiol o brosesau bywyd y coed a rhaid eu disgwyl lle mae coed yn tyfu. Ni fydd Cyngor Sir Fynwy yn gwneud gwaith coed mewn perthynas â negyddu materion o’r fath. 

Q. A fydd y cyngor yn tocio coed i leihau’r niwsans sy’n cael ei achosi gan adar a phryfed?

Mae ysgarthu adar a phryfed, yn bennaf melwlith sy’n gysylltiedig â llyslau, y tu hwnt i reolaeth Cyngor Sir Fynwy ac, felly, ni fydd unrhyw waith coed yn cael ei wneud i atal problemau o’r math hwn.

Q. A fydd y cyngor yn tocio coed oherwydd bod canghennau’n gordyfu dros fy ffin?

Does dim dyletswydd ar Gyngor Sir Fynwy i docio canghennau gordyfu dros ffin ac eithrio lle maent yn gwrthdaro’n uniongyrchol, neu fod gwrthdaro posibl, gyda strwythur adeiledig cyfagos. Mae gan berchennog neu feddiannydd tir cyfagos hawl cyfraith gyffredin i dorri canghennau sy’n gordyfu dros eu ffin yn ôl i’w llinell ffin. Fodd bynnag, dylid nodi hefyd bod gan unrhyw un sy’n ymgymryd â thocio coed o dan yr hawl hon ddyletswydd gofal i berchnogion y coed a dylent gymryd gofal rhesymol wrth ddeddfu’r hawl hon er mwyn sicrhau nad yw iechyd hirdymor a chyfanrwydd strwythurol coed yn cael eu peryglu. Anogir unrhyw un sydd yn dymuno gweithredu eu hawl i dorri coed yn ôl i’w ffin, lle mae Cyngor Sir Fynwy yn berchen ar y coed, i gysylltu â’r cyngor sir. Mae hyn er mwyn sicrhau nad yw gwaith yn peryglu iechyd y goeden nac yn torri dynodiadau amddiffynnol.  Ar ben hynny, nid oes hawl awtomatig i wneud gwaith ar goeden ar dir sy’n eiddo i’r cyngor. Os bydd angen mynediad, rhaid cysylltu â’r cyngor sir i gytuno mynediad cyn gwneud unrhyw waith. 

Dylai unrhyw waith rheoli coed sydd yn cael ei wneud o dan yr hawl hwn gadw at y canlynol: 

  • Gwneir yr holl waith yn unol â BS 3998:2010 Gwaith Coed – Argymhellion
  • Gwneir gwaith ar adeg nad yw’n gwrthdaro â thwf dail newydd neu gwymp dail
  • Gwneir yr holl waith yn unol â’r ddeddfwriaeth bywyd gwyllt perthnasol 
  • Bod unrhyw gontractwr sy’n cael ei gyflogi wedi’i gymhwyso’n addas ac wedi’i yswirio
  • Cytunir ar ddulliau gwaredu pob deunydd sy’n gysylltiedig â’r gwaith gyda’r cyngor sir o flaen llaw a rhaid iddynt gael eu gwneud mewn modd cyfreithiol, diogel ac ecogyfeillgar
  • Cyfrifoldeb y person sy’n awdurdodi’r gwaith rheoli yw tynnu a gwaredu deunydd torri a dail yn iawn neu i sicrhau bod unrhyw gontractwr yn gwneud hynny.
Q. Beth gallaf wneud am ganghennau fy nghymydog sy’n gordyfu dros fy eiddo?

Nid yw’n dramgwydd troseddol i ganiatáu canghennau o goeden neu lwyn gordyfu dros eiddo cyfagos. Nid oes gan eich cymydog felly ddyletswydd gyfreithiol i’w torri yn ôl ar eich cyfer. Fel uchod, o dan Gyfraith Gyffredin mae gennych yr hawl, os ydych yn dewis ei ddefnyddio, i drefnu i gael gwared ar unrhyw ganghennau sy’n gordyfu hyd at linell derfyn cyfreithiol eich ffin a dim pellach. Gallwch wneud hyn heb ofyn caniatâd perchennog y goeden yn gyntaf.

Q. Ydw i’n gallu mynd i dir fy nghymdogion i wneud hyn?

Na, rhaid i chi gael caniatâd y tirfeddiannwr yn gyntaf i wneud hynny.

Q. Beth ddylwn i wneud â’r canghennau rwyf wedi’u torri?

Mae beth bynnag sydd wedi’i dorri oddi wrth y goeden, gan gynnwys unrhyw ffrwyth, yn parhau i fod yn eiddo perchennog y goeden, a dylid naill ai eu cynnig yn ôl neu eu gosod yn daclus yn ôl ar y tir lle mae’r goeden yn tyfu.

Q. Nid yw fy nghymydog yn hawdd mynd ato ac yn anghyfeillgar tuag ataf, a wnaiff y cyngor ymyrryd?

Dylech fod yn ymwybodol fod hwn yn fater preifat rhyngoch chi a’ch cymydog ac nid oes gan y Cyngor bwerau na dyletswydd i weithredu. Ni fyddwn yn mynd at eich cymydog ar eich rhan. Gall fod o gymorth i ymgysylltu â thrydydd parti megis Gwasanaeth Cyfryngu Sir Fynwy. Gweler y ddolen ganlynol admin@monmediation.co.uk

Q. Rwy’n pryderu bod coeden fy nghymydog yn beryglus, beth allaf ei wneud?

Mae gan berchnogion neu feddianwyr tir gyfrifoldeb o’r enw Dyletswydd Gofal i sicrhau bod eu heiddo, boed hynny mewn man cyhoeddus neu breswylfa, yn ddiogel.  Yn achos coed, mae hyn yn golygu bod yn rhaid iddynt sicrhau, cyn belled ag y bo’n rhesymol ymarferol, nad yw eu coeden yn peri risg annerbyniol i chi na’ch eiddo. Perchennog y goeden sy’n gyfrifol yn unig, a gallai fod yn agored i hawliad am esgeulustod os nad ydynt yn cymryd camau rhesymol i sicrhau bod y goeden yn ddiogel.  Gall hyn gynnwys cael archwiliad o’r goeden gan syrfëwr diogelwch coed cymwys.  Fe’ch cynghorir i geisio cyngor cyfreithiol annibynnol ynglŷn â hyn.

Q. Rwy’n credu bod coeden fy nghymydog yn achosi difrod i sylfeini fy nhŷ. Beth gallaf wneud?

Mae angen i chi wirio’r ffeithiau trwy gyflogi unigolyn cymwys megis peiriannydd strwythurol i ymchwilio i’r mater ar eich rhan. Gall y rhan fwyaf o gwmnïau morgais drefnu adroddiad ymsuddiant proffesiynol.

Q. Ydw i’n gallu talu am docio i goed sy’n eiddo i’r cyngor?

Mae Cyngor Sir Fynwy yn gwerthfawrogi poblogaeth y coed siriol ac fe fydd yn eu rheoli’n briodol.  Felly, ni fydd y cyngor yn ystyried ceisiadau gan unigolion i dalu am dynnu coed neu docio coed sy’n eiddo i’r cyngor sir, gan y byddai hynny’n ddiangen a byddai’n effeithio’n negyddol ar yr amgylchedd lleol a’i chymuned.

Q. Rwy’n credu bod gwrychoedd fy nghymydog yn rhy uchel. Beth gallaf wneud?

Nid yw’n drosedd caniatáu i wrych gyrraedd unrhyw daldra.  Fodd bynnag, mae rhai mathau o wrych fel rhai bytholwyrdd neu led fytholwyrdd (h.y. y rhai sy’n cadw rhai dail yn y gaeaf) yn dod o dan Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol 2003.   Lle dyma yw’r achos, nid rôl yr awdurdod lleol yw cyfryngu neu negodi rhwng yr achwynydd a pherchennog y gwrych ond i ddyfarnu – yng ngeiriau’r Ddeddf – os yw’r gwrych yn effeithio’n andwyol ar fwynhad rhesymol yr achwynydd o’i eiddo.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn y nodyn cyfarwyddyd High hedges: Cwyno wrth y Cyngor ac mae taflen esboniadol ar gael drwy ddilyn y ddolen hon. Awgrymir eich bod yn darllen hwn yn ofalus cyn cysylltu â’r Cyngor.

Q. Mae coeden y tu allan i fy nhŷ yn ymyrryd â’r ceblau ffôn, beth gallaf i wneud?

Rhan fwyaf o’r amser mae’r coed a cheblau ffôn yn cyd-fyw heb broblem ac ond yn dod yn broblem os yw coeden neu gangen yn methu. Os ydych yn amau bod coeden yn ymyrryd â’r ceblau ffôn, cysylltwch â British Telecom ar 01633 843131

Q. Rwy’n poeni bod coeden yn ymyrryd â cheblau trydan uwchben, beth ddylwn i wneud?

Ni ddylech fyth ceisio unioni hyn eich hun. Cysylltwch â Western Power Distribution  ar 0800 6783 105 i roi gwybod iddynt am y broblem.