Ar 25 Medi 2024 cymeradwyodd Cabinet y Cyngor newidiadau i feini prawf cymhwyster polisi y Cyngor ar Gludiant Rhwng yr Ysgol a’r Cartref am gludiant am ddim rhwng yr ysgol a’r cartref. Mae hyn yn golygu fod meini prawf cymhwyster pellter Sir Fynwy wedi dychwelyd o 1 Medi 2025 ymlaen i bellteroedd statudol Llywodraeth Cymru o 2 filltir neu fwy o’ch ysgol gynradd addas agosaf a 3 milltir neu fwy o’ch ysgol uwchradd addas agosaf.
Bydd y Polisi Cludiant rhwng yr Ysgol a’r Cartref diwygiedig yn alinio darpariaeth cludiant gyda gofynion cludiant statudol Llywodraeth Cymru ac mae ei angen er mwyn i’r Cyngor gynnal fforddiadwyedd o fewn cyfyngiadau ariannol y dyfodol. Bydd y Cyngor yn parhau i gynnig cludiant dewisol ar gyfer disgyblion sy’n mynychu eu hysgol cyfrwng Cymraeg neu ysgol ffydd addas agosaf i gyflawni’r meini prawf ar gymhwyster pellter.
Cwestiynau Cyffredin
Beth yw dyletswydd statudol y Cyngor ar gyfer darparu Cludiant Rhwng y Cartref a’r Ysgol?
Yn unol â pholisi Llywodraeth Cymru, mae’n rhaid i’r Cyngor:
- Asesu anghenion teithio dysgwyr yn ei ardal
- Darparu cludiant am ddim rhwng y cartref a’r ysgol ar gyfer dysgwyr o oedran ysgol gorfodol sy’n mynychu ysgol gynradd sy’n byw 2 filltir neu fwy o’u hysgol addas agosaf.
- Darparu cludiant am ddim rhwng y cartref a’r ysgol ar gyfer dysgwyr o oedran ysgol gorfodol sy’n mynychu ysgol uwchradd sy’n byw 3 milltir neu fwy o’u hysgol addas agosaf.
- Asesu a diwallu anghenion plant “sy’n derbyn gofal” yn ei ardal.
- Hyrwyddo mynediad i addysg cyfrwng Cymraeg.
- Hyrwyddo dulliau cynaliadwy o deithio.
Pa lefel o wasanaeth mae’r Cyngor yn ei ddarparu?
Mae darparu cludiant rhad ac am ddim rhwng y cartref a’r ysgol yn ofyniad statudol ar gyfer dysgwyr 5 i 16 oed. Mae cludiant ar gyfer plant 4 oed yn ddewisol a dim ond os yw dysgwr yn mynychu ysgol gynradd a bod y rhiant yn cadarnhau mewn ysgrifen yr awdurdodir y gyrrwr a neu gynorthwyydd teithwyr gyda defnyddio gwregysau sedd y caiff ei ddarparu.
Bydd y Cyngor yn parhau i ddarparu cludiant rhad ac am ddim i’r disgyblion hynny sy’n mynychu eu lleoliad addysgol cyfrwng Cymraeg addas agosaf ac ar gyfer y rhai sy’n
mynychu eu lleoliad addysg ffydd addas agosaf os yw’r dysgwr yn cyflawni meini prawf ffydd eu dewis ysgol.
Disgyblion Cynradd (Dosbarth Derbyn i Flwyddyn 6)
Darperir cludiant am ddim rhwng y cartref a’r ysgol i ddysgwyr oedran cynradd os yw’r pellter rhwng eu hysgol a gynhelir addas agosaf neu ysgol dalgylch a chartref y dysgwyr yn 2 filltir neu fwy.
Dysgwyr Uwchradd (Blynyddoedd 7 i 11)
Darperir cludiant rhad ac am ddim rhwng y cartref a’r ysgol i ddysgwyr sy’n derbyn addysg orfodol os yw’r pellter rhwng yr ysgol a gynhelir addas agosaf neu yr ysgol ddalgylch a chartref dysgwyr yn 3 milltir neu fwy.
Mae fy mhlentyn yn mynd i ysgol ffydd; a fyddaf yn dal i gael cludiant?
Mae cludiant i sefydliadau Addysg Ffydd yn wasanaeth dewisol a ddarperir gan Gyngor Sir Fynwy, lle byddir yn dal i weithredu’r meini prawf ar bellter ynghylch y rhai o fewn y pellter llwybr cerdded sydd ar gael. Mae hyn er mwyn sicrhau y caiff y polisi ei weithredu’n deg ar gyfer pob dysgwr sy’n byw o fewn pellter yr ysgol, beth bynnag yw enwad y cyfleuster. Byddai cyflenwi cludiant i ddysgwyr sy’n cymhwyso ar sail ffydd ond sydd o fewn y pellter statudol yn wahaniaethol i’r rhai sy’n mynychu ysgolion prif ffrwd.
Sut y caiff llwybrau cerdded i ysgol eu hasesu?
Caiff y meini prawf a ddefnyddir i benderfynu ar y cymhwyster pellter i dderbyn cludiant rhad ac am ddim i’r ysgol yn seiliedig ar y pellter cerdded ei fesur gan y llwybr cerdded byrraf sydd ar gael. Caiff llwybr cerdded ei ystyried i fod ar gael os yw’n ddiogel (cyn belled ag sy’n rhesymol ymarferol) ar gyfer dysgwr heb anabledd neu anhawster dysgu i gerdded y llwybr ei hun neu gydag oedolyn gyda nhw os yw oedran neu ddealltwriaeth y dysgwr yn golygu fod angen hynny.
Wrth benderfynu ar ddiogelwch cymharol llwybr cerdded, bydd Swyddog Diogelwch Ffordd y Cyngor neu berson arall gyda chymwysterau addas yn cynnal asesiad yn seiliedig ar y Mesur Teithio Dysgwyr a Chanllawiau Diogelwch Ffordd Prydain Fawr. Cynhelir yr asesiad o lwybr ar adeg o’r dydd ac ar ddyddiau’r wythnos y disgwylid i ddysgwyr ddefnyddio’r llwybr.
Fel gyda phob llwybr cerdded a aseswyd dan y canllawiau statudol, nid yw’r topograffi a’r amodau tywydd a brofwyd ar hyd llwybr yn cyflwyno pryderon am ddiogelwch a ni chânt eu hystyried.
Cafodd asesiadau risg llwybr eu darparu i’r rhai y mae’r newid polisi yn effeithio arnynt.
Sut mae’r Cyngor yn mesur y pellter rhwng y cartref a’r ysgol?
Bydd y Cyngor yn penderfynu ar eich ysgol addas agosaf drwy’r llwybr cerdded byrraf sydd ar gael. Caiff hyn ei fesur yn defnyddio System Mapio Gwybodaeth Digidol o’r man lle mae eich eiddo yn cwrdd â’r briffordd fabwysiedig i’r fynedfa agosaf sydd ar gael i’r
ysgol. Ystyrir fod llwybr cerdded ar gael os yw’n ddiogel (cyn belled ag sy’n rhesymol ymarferol) ar gyfer dysgwr heb anabledd neu anhawster dysgu i gerdded y llwybr ar ben ei hun neu gydag oedolyn gydag ef/hi os yw oedran neu ddealltwriaeth y dysgwyr yn golygu fod angen hynny.
Mae gan fy mhlentyn (neu fi) anabledd/cyflwr meddygol ac yn methu cerdded y llwybr i’r ysgol; a fyddai gennyf hawl am Gludiant Dewisol?
I fod yn gymwys am gymorth ar seiliau meddygol, mae’n rhaid i’r dysgwr fod yn mynychu eu hysgol addas agosaf neu ysgol dalgylch.
Os yw anghenion meddygol dysgwr yn effeithio ar eu gallu i deithio i ac o i’r ysgol yng nghwmni oedolyn fel sydd angen, mae’n rhaid i rieni roi tystiolaeth gan ymgynghorydd eu plentyn i gefnogi. Dylai’r dystiolaeth roi manylion yr anawsterau y bydd y dysgwr yn eu profi yn cerdded neu’n teithio ar gludiant cyhoeddus.
Os caiff cludiant ei ddarparu ar seiliau meddygol, caiff achos y dysgwr ei adolygu ar sail flynyddol a bydd angen tystiolaeth gyfredol ar eu cyflwr meddygol ym mhob adolygiad. Caiff cludiant ei dynnu yn ôl os na roddir tystiolaeth feddygol gyfredol.
Os oes gan riant gyflwr meddygol sy’n eu hatal rhag mynd â’u plant oedran cynradd i ac o’r ysgol, gellir darparu cludiant dewisol. Mae’n rhaid i rieni roi tystiolaeth o’u cyflwr meddygol gan eu hymgynghorydd ac mae’n rhaid i’w plentyn fod yn mynychu eu hysgol addas agosaf neu ysgol dalgylch.
Caiff cludiant dewisol a roddir oherwydd cyflwr meddygol rhiant ei adolygu yn flynyddol a bydd angen rhoi tystiolaeth gyfredol o’u cyflwr meddygol ar gyfer eu hadolygiad. Os na roddir tystiolaeth feddygol gyfredol, yna caiff y cludiant dewisol ei dynnu yn ôl.
Ni chaiff cludiant dewisol ei ddarparu i ddysgwyr oedran uwchradd oherwydd cyflwr meddygol rhiant gan y disgwylir y gall y dysgwr deithio i ac o’r ysgol heb gymorth rhiant.
Beth yw’r hierarchaeth cludiant a dyraniad cludiant?
Mae’r Cyngor wedi mabwysiadu’r hierarchaeth cludiant a amlinellir yn Llwybr Newydd, Strategaeth Cludiant Llywodraeth Cymru. Lle’r aseswyd fod gan ddysgwr hawl i gludiant am ddim rhwng y cartref a’r ysgol, gweithredir yr hierarchaeth cludiant canlynol:
i. Trafnidiaeth gyhoeddus – lle bynnag sy’n bosibl, darperir pas bws i ddysgwyr sy’n mynychu cyfleusterau addysg uwchradd i deithio ar wasanaethau bws cyhoeddus.
ii. Cludiant rhwng y cartref a’r ysgol – caiff cludiant rhwng y cartref a’r ysgol ei ddarparu ar gyfer dysgwyr oedran cynradd a lle nad oes darpariaeth bws cyhoeddus ar gael ar gyfer dysgwyr uwchradd. Gofynnir i ddysgwyr gwrdd â chludiant ar fannau codi/gollwng a gytunwyd, na fydd fwy na milltir o gyfeiriad eu cartref. Cyfrifoldeb y rhiant yw sicrhau fod eu plant yn cyrraedd eu man codi/gollwng dynodedig.
iii. Cludiant gwennol – dim ond lle mae’r mannau codi a gollwng dynodedig fwy na milltir (caiff tramwyfeydd a ffyrdd preifat eu diystyru wrth gyfrif pellteroedd) y caiff cludiant gwennol ei ddarparu.
A fedraf apelio yn erbyn penderfyniad i ddyrannu fy mhlentyn i fws gwasanaeth cyhoeddus?
Dim ond ar sail feddygol y byddwn yn ystyried newidiadau i ddyraniad bws gwasanaeth cyhoeddus. Byddai angen i’r dogfennau i ni eu hystyried fod yn llythyr gan feddyg teulu neu ymgynghorydd meddygol sy’n dweud yn benodol yn eu barn feddygol nhw na fedrai’r disgybl ddefnyddio bws gwasanaeth cyhoeddus.
Cawsom wybod fod yn rhaid i ni gwrdd â’r cludiant rhwng y cartref a’r ysgol/gwasanaeth cyhoeddus o filltir o’n cyfeiriad cartref.
Gellir gofyn i ddysgwyr gwrdd â chludiant ar fannau codi/gollwng a gytunwyd, na fydd fwy na filltir o’u cyfeiriad cartref. Nid yw’n rhaid barnu fod y llwybrau at safle bws i’r ysgol ar gael gan mai cyfrifioldeb y rhiant yw sicrhau fod eu plant yn mynd i ac o eu man codi/gollwng dynodedig.
Nid oes gennyf god QR ar gyfer pas bws digidol fy mhlentyn neu rwy’n cael anhawster yn defnyddio’r gwasanaeth yma.
Os ydych yn cael unrhyw broblemau gyda’n system Elitech sy’n rhoi codau QR, yna cysylltwch â ni drwy anfon e-bost i passengertransportunit@monmouthshire.gov.uk
Pwy sy’n gyfrifol am fy mhlentyn pan fydd yn y safle bws?
Rhieni sy’n gyfrifol am eu plentyn nes byddant yn mynd ar gludiant ysgol pan fyddant yn dod yn gyfrifoldeb y gyrrwr a’r Uned Cludiant Teithwyr nes byddant yn gadael y cerbyd yn yr ysgol berthnasol lle daw’r plant wedyn yn gyfrifoldeb yr ysgol. Cyfrifoldeb y rhieni a disgyblion yw sicrhau fod y dysgwr yn mynd ar y bws cywir.